Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol - Dydd Mawrth, 11eg Chwefror, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 204 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Y Diweddaraf am Roi'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar Waith pdf eicon PDF 513 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ar gyflwyno'r Gronfa Ffyniant Gyffredin, gyda phwyslais ar gynnydd a gwariant Chwarter 3.

Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn amlinellu cyfrifoldebau Llywodraethau Lleol wrth ddatblygu Cynlluniau Buddsoddi Rhanbarthol ar gyfer y Gronfa Ffyniant Gyffredin ac yn disgrifio sail y rhaglen, sy'n gymysgedd o brosiectau angori, cynlluniau grant a phrosiectau annibynnol.

Cyfeiriwyd at y flwyddyn drawsnewid y cytunwyd arni sef 2025/26; parhaodd trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ar y cyllid ar gyfer y cyfnod ar ôl mis Mawrth 2026. Nodwyd y byddai angen gorffen y gwaith cyflwyno erbyn mis Rhagfyr 2025 fel y gellir cau'r rhaglen yn llawn erbyn mis Mawrth 2026.

Tynnodd Swyddogion sylw at y ffaith bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud mewn perthynas ag allbynnau perfformiad rhanbarthol gan gynnwys creu a diogelu swyddi a'r grantiau a ddyfarnwyd i sefydliadau a mentrau.

Nodwyd bod oddeutu £50,000 wedi'i ddyrannu i'r ffrwd waith Lles a Datblygiad Economaidd; roedd hyn wedi'i gymeradwyo gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru. Roedd yr adroddiad a ddosbarthwyd yn nodi'r camau gweithredu manwl ar gyfer yr Is-bwyllgor a oedd wedi'u rhoi ar waith er mwyn cyflawni'r amcanion lles.

Cydnabu'r Cadeirydd y swm mawr o waith a wnaed ar draws y rhanbarth i sicrhau bod y rownd bresennol o grantiau'r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'u cyflwyno. Nodwyd bod y Cadeirydd, drwy ei rôl yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac fel Cadeirydd Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, yn parhau i lobïo Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i sicrhau bod llywodraeth leol yn parhau'n bartner cyfartal mewn trefniadau ynghylch ffyniant cyffredin. 

Mynegodd y Pwyllgor eu barn am raglen gyflwyno bresennol y Gronfa Ffyniant Gyffredin, a sut y bu'r broses yn llawer mwy effeithlon oherwydd y berthynas â llywodraeth leol; byddent yn annog y trefniant hwn i barhau.

Cynhaliwyd trafodaeth o ran cyflwyno'r cyllid rhwng nawr a diwedd y flwyddyn; gofynnodd yr Aelodau am sicrwydd bod y prosiectau'n barod i'w cyflwyno ac y byddai'r cyllid yn cael ei ddefnyddio. Cadarnhaodd Swyddogion nad oedd hawl ganddynt gario unrhyw arian o'r cyllid drosodd i'r flwyddyn nesaf; roedd llawer iawn o'r arian y gwariwyd rhy ychydig ohono hyd yma yn gyfalaf, nad yw'n anghyffredin yn y prosesau hyn. Ychwanegwyd y byddai cyfle i gyfalafu unrhyw danwariant o ran refeniw sy'n dod i'r amlwg tua diwedd y flwyddyn ariannol; bydd cyfle i ddefnyddio unrhyw beth sydd ar ôl mewn cynlluniau mawr sy'n cael eu cyflwyno ar draws y rhanbarth.

O ran y flwyddyn drawsnewid, eglurwyd mai un o'r egwyddorion allweddol oedd ehangu'r prosiectau angori; roedd hyn yn cynnwys yr holl gynlluniau grant sy'n galluogi mynediad at y trydydd sector a'r sector preifat. Roedd Swyddogion yn gobeithio y byddai'r cynlluniau hyn yn cael eu hailagor o fewn yr ychydig wythnosau nesaf; roedd hyn yn sicrhau gwariant a pharhad i'r tîm sy'n cyflwyno ar draws y rhanbarth. Yn yr un modd ar gyfer prosiectau galwad agored, dywedodd y Swyddogion eu bod yn ystyried ehangu prosiectau ac ychwanegu at y rhai sydd mewn bod yn hytrach na dechrau o'r dechrau; bydd hyn yn galluogi  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 444 KB

Cofnodion:

Cafwyd trafodaeth ynghylch pwrpas yr Is-bwyllgor a'r ffordd ymlaen ar ei gyfer, a sut gall yr Aelodau sicrhau bod y meysydd gwaith y maent yn canolbwyntio arnynt yn gynhyrchiol; byddai Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru yn cael gwybod am y canlyniadau.

Yn dilyn cyfraniadau'r Aelodau, bydd y Gwasanaethau Democrataidd yn diweddaru'r Blaenraglen Waith yn unol â hyn.

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.