Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 204 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
15 Ebrill 2024 fel cofnod cywir. |
|
Diweddariad ar Gyflawni - Lles Economaidd a Datblygiad Economaidd Rhanbarthol PDF 505 KB Cofnodion: Derbyniodd yr aelodau ddiweddariad
am y broses o roi Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU ar waith yn ne-orllewin Cymru,
sy'n un o bileri allweddol y Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol. Esboniodd y swyddogion fod
diweddariadau blaenorol wedi rhoi gwybod i'r pwyllgor am yr amserlenni gan
Lywodraeth y DU ac am greu'r Cynllun Buddsoddi Rhanbarthol, y manylwyd arno yn
adran gyntaf yr adroddiad a ddosbarthwyd, ynghyd â'r camau a gymerwyd i roi'r
broses ar waith, y gellid dod o hyd iddynt yn ail adran yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Nodwyd mai'r gwahaniaeth
allweddol rhwng y rhaglen yn ne-orllewin Cymru a rhai o'r rhanbarthau eraill
oedd bod cyfres o brosiectau angori wedi cael eu creu yn unol â'r prosiect
cyffredinol. Tynnodd y swyddogion sylw at y ffaith bod rhai o'r prosiectau angori
wedi cael eu rhoi ar waith ar draws pob un o'r pedwar awdurdod lleol, megis y
thema datblygu busnes, er mwyn sicrhau cysondeb rhanbarthol, gan hefyd ganiatáu
i'r holl ardaloedd awdurdodau lleol addasu'r rhaglen hon i'w gofynion penodol
eu hunain. Crybwyllwyd bod hyn hefyd yn berthnasol i themâu eraill megis
gweithgarwch gwledig, creu lleoedd a chefnogi cymunedau. Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor
fod llai na 4% o'r rhaglen yn cael ei defnyddio at ddibenion gweinyddu, a oedd
yn llawer rhatach na rhaglenni blaenorol; cadarnhaodd y swyddogion mai dyma un
o elfennau cadarnhaol y rhaglen hon. Dywedodd y swyddogion eu bod
o'r farn yn ystod camau cynnar y rhaglen hon fod angen dirprwyo a bod yn hyblyg
cymaint ag y bo modd, gan lynu wrth ymagwedd gyson; mewn rhai achosion, pan
oedd gan awdurdodau lleol alwad agored am brosiectau annibynnol, bu'n rhaid
iddynt hefyd drafod yr hyn roeddent yn ei gynnig ag arweinwyr angori, yn
enwedig o ran themâu busnes a chyflogadwyedd. Nodwyd bod hyn wedi arwain at
rwydweithiau lleol cryf iawn yn gweithredu ar lefel leol, a oedd yr un mor
bwysig â'r partneriaethau ar lefel genedlaethol. Crybwyllwyd bod cryn wybodaeth
am fonitro bellach ar gael, y bydd aelodau etholedig yn ei derbyn ar lefel leol
drwy adroddiadau monitro chwarterol helaeth; bydd yr adroddiadau hyn yn
crynhoi'r wybodaeth sy'n deillio o bob prosiect, gan gynnwys data gwariant a
straeon newyddion da sy'n tynnu sylw at fusnesau a chymunedau a oedd wedi cael
cymorth. Tynnodd y swyddogion sylw at y
ffaith eu bod wedi cwrdd â chydweithwyr o Lywodraeth Cymru i sicrhau bod
swyddogion yn cael yr holl wybodaeth am gynigion er mwyn gwirio nad oeddent yn
gwrthdaro â'r hyn roedd Llywodraeth Cymru'n ei gynnig. Er enghraifft, rhaid i
geisiadau am grantiau busnes gael eu cyflwyno drwy Fusnes Cymru i sicrhau bod
busnesau'n derbyn yr holl gymorth sydd ar gael a bod hynny’n cyd-fynd â
blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod prosiectau'n dechrau cyflawni canlyniadau; roedd cyfanswm o fwy nag £1m wedi’i neilltuo i ychydig yn llai na 500 o fusnesau ledled y rhanbarth. Yn ogystal, roedd y swyddogion yn gweld datblygiadau o ran creu swyddi, gan gynnwys cwmnïau newydd, y mae rhai ohonynt yn dechrau defnyddio lle ar y strydoedd mawr, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Nodwyd y Blaenraglen Waith. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |