Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Ynni - Dydd Llun, 6ed Tachwedd, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:

 

Liz Bickerton

Datganiad cyffredinol - Gan ei bod yn ymgynghorydd llawrydd, sy'n ymgymryd â nifer o werthusiadau ar gyfer sefydliadau'r trydydd sector, ac mae rhai yn ymwneud ag effeithlonrwydd ynni. Effeithlonrwydd ynni yw un o flaenoriaethau'r Is-bwyllgor Ynni.

 

 

3.

Cylch Gorchwyl pdf eicon PDF 218 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl

Is-bwyllgor Ynni Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i'r Pwyllgor.

 

Esboniwyd bod y Cylch Gorchwyl wedi'i gyflwyno i'r Cydbwyllgor Corfforaethol, ynghyd â Chylch Gorchwyl yr Is-bwyllgorau arall, ym mis Hydref 2022.

 

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y ddogfen yn nodi nod trosgynnol yr Is-bwyllgor; ynghyd â swyddogaethau a chyfansoddiad y Pwyllgor.

 

PENDERFYNWYD: Bod Aelodau'n nodi cylch gorchwyl yr

Is-bwyllgor Ynni.

 

 

4.

Polisi Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru a chyflwyno'r cefndir pdf eicon PDF 129 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd cyflwyniad i'r aelodau a oedd yn gosod y cefndir o ran ffactorau a strwythurau llywodraethu sy'n dylanwadu ar bolisi ynni rhanbarthol, gan amlinellu datblygiadau hysbys ym maes ynni rhanbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch cynllunio ar gyfer system ynni carbon isel, fwy integredig. Eglurwyd bod y Polisi Cenedlaethol, Strategaethau Ynni Rhanbarthol a Chynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL) yn rhan annatod o gyflawni hyn. 

Tynnodd y cyflwyniad a ddosbarthwyd sylw at y tirlun o fewn Rhanbarth De-orllewin Cymru, gan roi darlun eang o'r llywodraethu a lefel y manylder ar y ffrydiau gwaith amrywiol; er enghraifft, roedd nifer o Grwpiau Tasg Swyddogion Rhanbarthol yn cael eu cynnal, ac roedd cynnydd yn digwydd o ran prosiectau allweddol y Rhanbarth, gan gynnwys y Prosiect Porthladd Rhydd Celtaidd a phrosiect Eden Las – Morlyn Llanw.

Rhoddwyd gwybod i aelodau fod y sefyllfa bresennol yn weddol debyg ar draws rhanbarthau eraill yng Nghymru, o ran eu strwythurau llywodraethu.

Mynegwyd bod Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo ei Gynllun Corfforaethol, a oedd yn cynnwys y cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Ynni Ranbarthol; roedd dwy flaenoriaeth wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn, ac roedd y Grŵp Cyfarwyddwyr Rhanbarthol wedi bod yn gweithio ar wneud cynnydd. Y flaenoriaeth gyntaf a nodwyd oedd mapio adnoddau a oedd ar gael a nodi bylchau mewn adnoddau; un o'r mesurau effaith hyn oedd sefydlu Tîm Cyflwyno Rhanbarthol. Cadarnhawyd bod hysbysebion swyddi ar gyfer y tair swydd o fewn y Tîm wedi cael eu hysbysebu, a byddai cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau nesaf; roedd y tair swydd ar gyfer Rheolwr Prosiect a dau Swyddog Prosiect, a byddai pob un ohonynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Eglurwyd y byddai'r broses o roi ar waith a chyflwyno'n cyflymu o'r pwynt hwn ymlaen. 

Yn dilyn yr uchod, nodwyd mai'r ail flaenoriaeth oedd llunio rhaglenni rhoi ar waith ochr yn ochr â phartneriaid; rhai o'r camau gweithredu o fewn y flaenoriaeth hon oedd datblygu cynlluniau gweithredu sydd wedi'u blaenoriaethu, ac sy'n cyd-fynd â'r CYAL. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd rhagddo, ac unwaith eto bydd y gwaith hwn yn datblygu ymhellach pan fydd y Tîm Cyflwyno Rhanbarthol ar waith.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor am yr heriau sy'n gysylltiedig â'r ffrwd waith hon:

-         Cyflymder a graddfa ar y lefel strategol ranbarthol

-         Ansicrwydd ynghylch cost cyflwyno/sero net

-         Cyllid a refeniw cyfalaf ar gyfer prosiectau a nodwyd

-         Gweithio gyda sgiliau i ddylunio, cyflwyno, gweithredu, cynnal a monitro

-         Diwygiadau polisi a dylanwadau

-         Llywodraethu

-         Isadeiledd 

 

Ailadroddwyd mai un o'r camau blaenoriaeth oedd alinio prosiectau; un o'r prosiectau a nodwyd oedd prosbectws buddsoddi ar gyfer y Rhanbarth, a fyddai'n alinio'r Porthladd Rhydd Celtaidd, CYAL, cynllunio rhanbarthol a phrosiectau allweddol eraill sydd ar waith ar draws y Rhanbarth. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod Swyddogion yn gobeithio datblygu prosbectws buddsoddi mewn partneriaeth â Diwydiant Sero Net Cymru.

Roedd y Prif Weithredwr o Ddiwydiant Sero Net Cymru yn bresennol yn ystod cyfarfod yr Is-bwyllgor Ynni i roi rhagor o wybodaeth am  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Diweddariad ar gynnydd y Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) pdf eicon PDF 122 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddodd Bif Ymgynghorydd Ynni a Chynaliadwyedd City Science yr wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am gynnydd o ran cyflwyno'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL) o fewn y Rhanbarth.

Esboniwyd bod City Science yn cynhyrchu tair CYAL ar gyfer de-orllewin Cymru, yn Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe; ac mae gan Sir Benfro eisoes eu CYAL eu hunain. Nodwyd, er bod y cynlluniau'n cael eu llunio ar wahân ac yn cael eu teilwra ar gyfer yr ardal leol, cydnabuwyd bod angen aliniad rhanbarthol; roedd llawer o'r gweithgarwch a oedd yn cael ei wneud gan City Science yn sicrhau cysondeb ar draws y Rhanbarth.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod y Cynllun Ynni Ardal Leol yn astudiaeth gynhwysfawr o'r system ynni ardal leol, gan edrych ar y system gyfan a'r holl sectorau dan sylw i benderfynu ar y gofynion ynni rhwng nawr a 2050, ac ar hyn yr oedd ei angen i ddatgarboneiddio'r system ynni yn ystod y cyfnod hwnnw. Ychwanegwyd bod y prosiect CYAL wedi dechrau ym mis Chwefror 2023, a bod disgwyl iddo gael ei gynnal tan fis Chwefror 2024.

Cynhaliwyd trafodaeth am y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a rhyngweithio â'r CYAL. Nodwyd mai'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol oedd y grŵp llywio rhanbarthol ar gyfer cymeradwyo CYAL, ac roedd hefyd yn rhanddeiliad allweddol. Er bod y cynlluniau'n rhai lleol, byddant yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cydweithio rhanbarthol. Er bod nifer o'r senarios yn lleol, tynnwyd sylw at y ffaith bod nifer fawr yn rhanbarthol, felly, roedd sicrhau bod y CYAL yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn dryloyw gyda strwythurau llywodraethu rhanbarthol yn hanfodol.

Yn dilyn ymlaen o'r uchod, eglurwyd, er nad oedd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gorff llywodraethu ar gyfer cynnydd CYAL, roedd yn bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yr Awdurdodau Lleol unigol yn derbyn eu CYAL drafft cyn bo hir.

Yn ogystal â hyn, dywedwyd unwaith y bydd yr holl CYAL ar draws Cymru wedi'u cwblhau, bydd Energy Systems Catapult, sef y sefydliad a oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r cysyniad a'r canllawiau ar gyfer y CYAL, yn mynd i dynnu'r wybodaeth at ei gilydd i greu barn ranbarthol a chenedlaethol ynghylch Cynllunio Ynni Ardal Leol; byddai hyn yn helpu i ddarparu sylfaen dystiolaeth wedi'i llywio ar draws Cymru.

Roedd y cyflwyniad yn manylu ar wybodaeth am y camau amrywiol ar gyfer datblygu CYAL. Soniwyd trwy gydol cynnydd y CYAL roedd proses ymgysylltu â rhanddeiliaid helaeth i gynorthwyo gyda'r gwaith.

-         Cam 1 a 2 – paratoi, rheoli prosiectau a chynhyrchu cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid

-         Cam 3 - datblygu llinell sylfaen gan ddefnyddio data lleol a chenedlaethol i ddeall systemau ynni'r ardal leol

-         Cam 4 – datblygu modelau data amrywiol ar gyfer systemau ynni'r ardal leol, gan gynnwys model o senarios yn y dyfodol

-         Cam 5 – mireinio sefyllfaoedd a nodi llwybr i sero net

-         Cam 6 – datblygu a blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r llwybr, yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5.

6.

Blaenoriaethau'r Dyfodol a'r Flaenraglen Waith pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Derbyniodd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith ar gyfer yr Is-bwyllgor Ynni.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch amlder cyfarfodydd. Cytunwyd bod angen cyfarfodydd ychwanegol o'r Is-bwyllgor Ynni; Byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu hyn mewn cysylltiad â'r Arweinwyr Ynni ar gyfer y Rhanbarth.

Cynigiwyd ychwanegu'r eitemau canlynol at y Flaenraglen Waith yn ystod y cyfarfod:

-         Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol – Uwchsgilio ac Adnoddau ar gyfer y dyfodol

-         Y newyddion diweddaraf gan Dîm Hydrogen Llywodraeth Cymru

-         Cyflwyniad ar Brosiect Datgelu Carbon a Ras i Sero

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.