Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Ynni - Dydd Llun, 30ain Medi, 2024 2.00 pm

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiad o fuddiannau canlynol ar ddechrau Eitem 4 ar yr Agenda:

 

Y Cyng. Andrea Lewis

Parthed Eitem 4 ar yr Agenda gan ei bod yn Aelod o Fwrdd Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe

 

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 212 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 13 Mai 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Diweddariad ar Gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol pdf eicon PDF 282 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch y cynnydd o ran y cynllun cyflawni rhanbarthol ar gyfer Ynni; yn unol ag ymrwymiad Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, fel yr amlinellir yn Amcanion Lles y Cynllun Corfforaethol, gyda phwyslais ar Ynni Rhanbarthol.

Nodwyd bod y tri phrosiect arfaethedig y manylir arnynt yn atodiadau'r adroddiad a ddosbarthwyd er gwybodaeth a byddant yn destun datblygiad, cyn ceisio cymeradwyaeth gan gyfarfod Is-bwyllgor Ynni Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn y dyfodol.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi mandadu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i roi Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar waith ar gyfer y rhanbarth; ac ar 15 Mawrth 2022, penderfynwyd mabwysiadu Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru fel fframwaith ar gyfer rhaglen waith Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru. Eglurwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys sawl amcan lles fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw. Amcan Lles 1 oedd darparu'r Cynllun Cyflawni Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar y cyd.

Roedd swyddogion yn cydnabod bod pryderon ynghylch y Cynlluniau Ynni Ardal Leol a sut roeddent yn offeryn ar gyfer cyflenwi lleol. Fodd bynnag, dywedwyd bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn cyflawni gwaith y Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac yn cyflawni camau gweithredu ar gyfer Amcan Lles 1. I gloi, roedd synergedd a gorgyffwrdd cryf rhwng y Strategaeth Ynni Rhanbarthol a'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol.  Bydd y ddau ohonynt yn llywio'r darlun cenedlaethol. 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y pedwar adroddiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol bellach wedi'u cwblhau.  Roedd Cynlluniau Ynni Ardal Leol Sir Benfro wedi'u cwblhau yn 2022, ac erbyn hyn roedd y tri Awdurdod Lleol arall wedi cwblhau eu rhai nhw. Fel y soniwyd eisoes, bydd yr adroddiadau hyn yn ffurfio'r Strategaeth Ynni Ranbarthol. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru'n cydgrynhoi'r data hwn i ffurfio darlun rhanbarthol ac yna darlun cenedlaethol.

Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol wedi cael eu datblygu yn seiliedig ar amgylchiadau a blaenoriaethau pob Awdurdod Lleol. Nodwyd bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin yn cael eu cyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd, a'r cam nesaf yn dilyn hyn fyddai cyhoeddi.

Rhoddodd swyddogion enghraifft o un o'r cynlluniau gweithredu ac esboniodd fod y camau gweithredu a'r themâu allweddol yn ailadrodd yr hyn oedd yn y Strategaeth Ynni Ranbarthol; Roedd hyn oherwydd mae llawer o'r camau o fewn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gamau gweithredu rhanbarthol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 67 o gamau gweithredu o fewn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol bresennol, a oedd yn rhan o Gynllun Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru; Roedd 51 ohonynt yn cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol, ac nad oedd angen ymdrin â'r rheini ar lefel genedlaethol.

Nodwyd, dros yr haf roedd swyddogion wedi adolygu'r camau gweithredu y tynnwyd sylw atynt gan City Science. Cydnabuwyd bod nifer o gamau yn ymwneud ag ôl-osod a rhoi systemau gwresogi carbon lleol ar waith nad oeddent wedi cael eu nodi fel camau gweithredu rhanbarthol, er bod y camau gweithredu hyn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 437 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Ynni.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.