Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 428 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 6
Tachwedd 2023 fel cofnod cywir. |
|||
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Ynni. |
|||
Cyflwyno Cynllunio Ynni Ardal Leol yn Ne-orllewin Cymru PDF 222 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Hysbyswyd y Pwyllgor
am gynnydd y gwaith o gyflawni'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYALau) yn y
Rhanbarth. Esboniwyd bod y CYALau
yn rhan o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cymru Sero Net erbyn 2050.
Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Llywodraeth Cymru wedi ariannu datblygiad y
CYALau ym mhob un o'r 22 sir ar draws
Cymru. Soniwyd bod nifer o Awdurdodau Lleol, gan gynnwys Sir Benfro, yn rhan o
brosiect peilot; ac felly, maent eisoes wedi cyflawni eu CYALau. Cadarnhawyd
bod y CYALau ar gyfer y 18 sir sy'n weddill yn cael eu cynhyrchu ar y cyd â'r
darparwyr gwasanaethau ar hyn o bryd; roedd City Science yn darparu'r CYALau ar
gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, a Sir Gaerfyrddin. Soniwyd bod City
Science yn ymdrechu i sicrhau bod gan y pedwar CYAL synergedd rhyngddynt, i
adlewyrchu'r pwyslais rhanbarthol. Cadarnhaodd swyddogion
fod Llywodraeth Cymru rhoi arian ar gyfer penodi tri aelod o staff cymorth i
gynorthwyo gyda'r broses hon; cynhaliwyd cyfweliadau ym mis Tachwedd 2023, a
chafodd dwy o'r tair swydd eu llenwi. Cadarnhawyd mai'r swyddi hyn oedd Rheolwr
Prosiect Ynni, a Swyddog Prosiect Ynni; roedd y drydedd swydd yn wag ar hyn o
bryd, fodd bynnag, roedd y swydd wrthi'n cael ei hysbysebu ac roedd swyddogion
yn gobeithio llenwi'r swydd hon yn y dyfodol agos. Rhoddwyd gwybod i'r
Aelodau fod y cyllid ar gyfer y CYALau i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2024;
roedd y tri CYAL a oedd yn weddill ar gyfer y rhanbarth yn gwneud cynnydd da
i'w cynhyrchu erbyn diwedd mis Chwefror 2024. Amlygwyd bod y drafftiau'n cael
eu hystyried gan bob Awdurdod Lleol ar hyn o bryd ar gyfer sylwadau mewnol, a
chyfleustodau ar gyfer y sylwadau modelu technegol. Cafwyd cyflwyniad gan
City Science. Eglurwyd bod Cynllunio Ynni Ardal Leol yn broses fanwl,
gynhwysfawr a gynlluniwyd i nodi'r llwybrau mwyaf effeithiol at Sero Net ar
gyfer y system ynni leol. Mynegwyd mai'r
Grŵp Cyfarwyddwyr Rhanbarthol, sy'n adrodd i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig
oedd y grŵp llywio rhanbarthol ar gyfer cymeradwyo CYALau; er bod
cynlluniau'n lleol, cawsant eu datblygu drwy gydweithio rhanbarthol a themâu
sy'n cyd-fynd â'r pedair strategaeth ynni rhanbarthol. Cyfeiriwyd at y
rhaglen ymgysylltu helaeth â rhanddeiliaid a gynhaliwyd yn ystod datblygiad y
CYALau; a oedd yn rhoi sicrwydd eu bod yn cyd-fynd â'r themâu thematig a
rhanbarthol gwahanol, er mwyn sicrhau cydweithio a dull rhanbarthol o
ddatblygu. Nodwyd, er bod llawer
o'r senarios yn lleol, roedd nifer fawr ohonynt yn rhanbarthol (sgiliau,
trafnidiaeth, tai, isadeiledd); felly, mae swyddogion wedi sicrhau bod y CYALau
yn parhau i fod yn gysylltiedig ac yn dryloyw â strwythurau llywodraethu
rhanbarthol. Ar ôl cwblhau'r
CYALau, eglurwyd y bydd cynghorwyr technegol o Lywodraeth Cymru’n ymgymryd ag
ymarfer i alinio a chydgrynhoi'r canfyddiadau; bydd hyn wedyn yn llywio
datblygiad pellach a chyfeiriad strategol camau gweithredu rhanbarthol, ac yn
arwain at greu Cynllun Ynni Cenedlaethol ledled Cymru. Darparwyd diweddariad am y cynnydd a wnaed o ran camau'r CYALau; roedd cynlluniau gweithredu bellach wedi'u datblygu ar gyfer pob un o'r CYALau. ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||
Partneriaeth Sgiliau Rhanbarthol (Diweddariad llafar) Cofnodion: Rhoddodd swyddogion
ddiweddariad llafar am y gwaith yr oedd y Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol wedi
bod yn ei wneud yn rhanbarth De-orllewin Cymru, er mwyn nodi anghenion sgiliau
a bylchau mewn sgiliau. Esboniwyd bod swyddogion, drwy
Raglen Sgiliau a Thalent y Fargen Ddinesig, wedi bod yn ymgymryd â darn o waith
ynghylch baromedr sgiliau, er mwyn nodi bylchau presennol mewn sgiliau, a pha
sgiliau y byddai eu hangen yn y dyfodol, ar gyfer y diwydiant a'r Sector
Cyhoeddus; ar draws y pum maes allweddol sef digidol, ynni, adeiladu,
gweithgynhyrchu ac iechyd. Nodwyd bod y baromedr wedi'i gwblhau; fodd bynnag,
byddai'n cael ei ddiweddaru'n barhaus wrth i gyfleoedd newydd ddod i'r amlwg. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
fod y gwaith hwn yn amlygu'r ddarpariaeth bresennol, a sut roedd angen
diweddaru'r ddarpariaeth yn y dyfodol; er enghraifft, roedd rhai o'r cyrsiau a'r
cyfleoedd a ddarparwyd drwy golegau, prifysgolion ac ysgolion wedi dyddio, ac
roedd angen eu hadnewyddu. Mynegwyd bod y gwaith hefyd yn edrych ar sgiliau
newydd sy'n dod i'r amlwg, o ganlyniad i'r prosiectau a gefnogwyd drwy'r Fargen
Ddinesig, prosiect cyflymydd FLOW, a chyfleoedd Porthladd Rhydd Celtaidd.
Nodwyd, er ei bod yn bwysig addysgu pobl ifanc mewn ysgolion a cholegau am y
cyfleoedd hyn, y byddai hefyd yn hanfodol uwchsgilio'r gweithlu presennol i
drosglwyddo i'r swyddi newydd hyn wrth iddynt ddatblygu; byddai rhai o'r swyddi
hyn yn rhai tymor hir, ond roedd angen i'r gweithlu fod yn barod er mwyn ateb
yr heriau sydd i ddod. Cyfeiriwyd at ynni ac
adeiladu, a oedd yn feysydd allweddol ar gyfer sgiliau newydd; roedd y
Bartneriaeth Sgiliau Rhanbarthol yn edrych ar sut y gellir uwchsgilio'r
gweithlu, o fewn y sector adeiladu, i fodloni'r gofynion angenrheidiol. Mynegodd swyddogion y
pwysigrwydd o sicrhau bod colegau hefyd yn darparu'r sgiliau newydd hyn o fewn
y cyrsiau a'r prentisiaethau presennol sydd ar gael. Soniwyd bod cymwysterau
galwedigaethol newydd yn cael eu datblygu, a fydd yn cael eu cyflwyno i
ysgolion yn 2027; gobeithio y bydd hyn yn creu cyfleoedd i bobl ifanc edrych ar
adeiladu, peirianneg, gweithgynhyrchu o fewn y rhaglen ysgolion. Drwy waith y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol gyda'r Rhaglen Sgiliau a Thalent, nodwyd bod swyddogion
wedi gallu cefnogi rhai o'r prosiectau peilot; gan ddefnyddio cyllid o'r
rhaglen. Rhoddwyd enghreifftiau i'r Pwyllgor o rai o'r prosiectau peilot a oedd
wedi digwydd mewn ysgolion a cholegau. Nodwyd bod gan y Bartneriaeth
Sgiliau Rhanbarthol naw grŵp clwstwr penodol, sef wyth grŵp Sector
Preifat ac un grŵp Sector Cyhoeddus, sy'n edrych ar feysydd penodol sy'n
peri pryder a sut y gellid datrys y pryderon hyn. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
cyrsiau penodol sy'n debygol o gynyddu gwybodaeth, ar draws y Sector Cyhoeddus,
o ran cynaliadwyedd; roedd y cyrsiau hyn yn rhad ac am ddim ac ar gael i holl
gyrff y Sector Cyhoeddus. Meysydd allweddol eraill a
amlygwyd drwy'r grŵp Sector Cyhoeddus oedd ecoleg a chynllunio; roedd
swyddogion yn ceisio nodi sut y gellid cynyddu ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd hyn,
ac annog pobl i ystyried astudio yn y meysydd hyn. Rhoddwyd gwybod ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 6. |
|||
Prosbectws Buddsoddi PDF 135 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Darparwyd adroddiad i'r
Pwyllgor a oedd yn pennu'r ffactorau a strwythurau llywodraethu sy'n dylanwadu
ar bolisi ynni rhanbarthol, ac yn amlinellu datblygiadau hysbys ym maes ynni
rhanbarthol; yn ogystal â'r angen i chwilio am adnoddau ariannol ychwanegol
sy'n ofynnol ar gyfer y camau nesaf. Roedd swyddogion wedi bod yn
gweithio gyda Diwydiant Sero Net Cymru i ddatblygu pecyn buddsoddi i gefnogi'r
llif gwaith ynni; ynghyd â gweithgareddau penodol ac astudiaethau dichonoldeb
ar brosiectau â blaenoriaeth. Yn ogystal â hyn, roedd swyddogion yn ceisio dod
o hyd i adnoddau ychwanegol i alluogi De-orllewin Cymru i ddatblygu o ran y
cyfleoedd maent yn cyflwyno eu hunain. Hysbyswyd y Pwyllgor fod pob rhanbarth
arall ledled Cymru yn ystyried gwneud gwaith tebyg i hyn. Eglurwyd bod y prosiect wedi
ei rannu'n dri 'sbrint'; manylwyd ar y sbrint cyntaf fel atodiad i'r adroddiad
a ddosbarthwyd. Amlygodd swyddogion y byddai'r cam hwn yn cynnwys yr holl
wybodaeth ranbarthol berthnasol (Strategaeth Ynni Rhanbarthol, prosiectau FLOW,
prosiect Porthladd Celtaidd, Cynlluniau Ynni Ardal Leol), ynghyd â gwybodaeth
gan y Sector Preifat, a nodi graddfa'r cyfle i ranbarth De-orllewin Cymru. Hysbyswyd yr Aelodau y
byddai'r rhan nesaf yn nodi ac yn ymgysylltu â phwynt cyswllt o fewn pob
Strwythur Rhanbarthol; cyn hynny byddai angen creu rhestr o brosiectau
rhanbarthol sydd wedi'u cynnwys o fewn Strwythurau Rhanbarthol, ac adeiladu
prosbectws buddsoddi a naratif sy'n disgrifio graddfa'r cyfle. Gobaith y
swyddogion oedd y bydd adnodd defnyddiol a deinamig yn cael ei greu erbyn
diwedd y broses. Roedd yr adroddiad cylchredol
yn manylu ar y cais o £120,500 i'w ddefnyddio o gronfeydd wrth gefn y
Cyd-bwyllgor Corfforedig, er mwyn cefnogi'r gwaith hwn. Cafwyd trafodaeth ynglŷn
â'r pryderon ariannol. Amlygwyd bod yr Is-bwyllgor Ynni wedi cael £20 mil, gan
y Cyd-bwyllgor Corfforedig, i ymgymryd â'r gwaith; roedd angen ceisio sicrhau
cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, oherwydd heb gyllid ni allai swyddogion
symud ymlaen i gyflawni dyheadau'r ffrwd waith hon. Cydnabu'r Pwyllgor y bydd y
Cyd-bwyllgor Corfforedig yn wynebu'r broblem o gydbwyso blaenoriaethau ariannu
sy'n cystadlu â nhw, gan fod tair ffrwd waith arall o fewn y Cyd-bwyllgor
Corfforedig. Soniwyd bod y Cyd-bwyllgor
Corfforedig wrthi'n ysgrifennu at y Gweinidog mewn perthynas â chyfyngiadau
ariannol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a'r Cynllun Datblygu Strategol ac
yn teimlo y gellid cynnwys Ynni hefyd o fewn yr ohebiaeth. Cefnogwyd ysgrifennu llythyr
at Lywodraeth Cymru mewn perthynas â'r arian ychwanegol. PENDERFYNWYD: Bod y cais i dynnu £120,500 i lawr yn cael ei
drosglwyddo i'r Cydbwyllgor Corfforaethol am benderfyniad. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |