Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 224 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 27 Chwefror 2024 fel
cofnod cywir. |
|||
Cynlluniau Cyflawni Datgarboneiddio wedi'u Costio a'r Her Ariannu ar gyfer Sero Net 2030 PDF 224 KB Cofnodion: Rhoddwyd gwybodaeth i'r
Aelodau am y sefyllfa bresennol ynghylch cynlluniau cyflawni datgarboneiddio
wedi'u costio ar gyfer Sero Net, a'r heriau cyllido ehangach sy'n gysylltiedig
â hyn. Roedd yr adroddiad a
gylchredwyd wedi hysbysu'r Pwyllgor o'r ymagwedd a ddefnyddiwyd gan Gyngor
Abertawe, yn dilyn cyfarwyddyd Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), er mwyn cyflawni
uchelgais Sero Net Llywodraeth Cymru. Nodwyd bod angen i Gynghorau gostio'u
cynlluniau gweithredu’n llawn a sicrhau eu bod yn cyd-fynd â Chynlluniau
Ariannol Tymor Canolig. Esboniodd Swyddogion o Gyngor
Abertawe eu bod wedi datblygu cynllun cyflawni wedi'i gostio ar lefel uchel, a
oedd yn ffordd o bennu gwerth ariannol ar yr hyn y gofynnwyd amdano. Cynhaliwyd
trafodaeth ynghylch canfyddiadau'r darn hwnnw o waith, a oedd yn cynnwys
adeiladau ac ynni, goleuadau stryd, y cerbydlu a'r cerbydlu llwyd. Eglurwyd bod
y broses hon yn rhoi syniad o faint o arian y byddai ei angen i fwrw ymlaen â'r
gwaith hwn; nodwyd bod hyn yn gost uchel i Awdurdodau Lleol. Mynegwyd fod Awdurdodau Lleol
wedi ymrwymo i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn er mwyn cyflawni Sero Net, fodd
bynnag, byddai angen rhai newidiadau o lefel Llywodraeth Cymru i'w cynorthwyo i
wneud hynny. Darparodd Swyddogion o Gyngor
Sir Gâr eu profiadau a chadarnhasant eu bod wedi mabwysiadu ymagwedd debyg a
bod ganddynt ffigurau tebyg i Gyngor Abertawe. Mynegwyd y byddai'n fuddiol pe byddai ymagwedd gyson ar draws Cymru o ran y
ffrwd waith hon, a fyddai'n caniatáu i bob Awdurdod Lleol lunio methodoleg
gyson. Cefnogwyd y datganiad hwn gan yr Aelodau a mynegasant fod y budd mwyaf a
ddeilliai o wneud hyn yn ymwneud â chyffredinrwydd lle gallai Cynghorau gaffael
ar y cyd, yn ogystal â'r gallu i ddod o hyd i flaenoriaethau fel Rhanbarth.
Ychwanegwyd y byddai'n fwy buddiol fyth pe bai hyn yn cael ei wneud yn genedlaethol. Amlygodd ymgynghorwyr allanol,
o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, fod grŵp gorchwyl a gorffen panel
strategaeth hinsawdd wedi'i sefydlu gyda ffocws ar gaffael; a oedd yn edrych yn
benodol ar y ffyrdd y gallai'r Gwasanaeth Ynni gefnogi Awdurdodau Lleol. Cyfeiriwyd at wrthbwyso, a'r
ffaith, er bod Cynghorau yn prynu 100% o ynni adnewyddadwy, nad oedd hyn yn
cael hyn ei gyfrif o ran gwrthbwyso. Mynegodd yr Aelodau eu rhwystredigaeth
gyda hyn ac roeddent yn teimlo ei fod yn gyfle a gollwyd. Yn dilyn ymlaen o'r uchod,
nodwyd mai barn Llywodraeth Cymru oedd mai gwrthbwyso ddylai fod y dewis olaf,
ac y dylai'r ffocws fod ar bob ymdrech resymol i leihau allyriadau. Hysbyswyd y
Pwyllgor fod tîm o fewn Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru a oedd yn gweithio'n
galed i benderfynu sut olwg fyddai ar wrthbwyso. Yn ogystal, roedd gwaith yn
cael ei wneud i nodi sut y gellid diweddaru'r canllawiau; gyda ffocws ar ynni
adnewyddadwy a phrynu. Roedd Swyddogion o Gyngor Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Sir Penfro hefyd wedi rhoi trosolwg o'r gwaith yr oeddent yn ei wneud. Cadarnhaodd cynrychiolwyr o Gastell-nedd Port Talbot eu bod wedi comisiynu'r Ymddiriedolaeth Garbon ym mis Ionawr 2024 i'w cynorthwyo i lunio cynllun Sero Net wedi'i ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran
100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |