Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:
|
|||
Diweddariad ar Gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau ynghylch
Cyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol. Roedd y Cadeirydd yn hapus i nodi bod y Tîm Ynni
Rhanbarthol wedi derbyn blwyddyn ychwanegol o gyllid gan Lywodraeth Cymru ar
gyfer y cyfnod hyd at fis Mawrth 2026. Rhoddodd swyddogion drosolwg o'r adroddiad ac
atgoffwyd y pwyllgor mai'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol oedd y fframwaith ar
gyfer cyflwyno'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol. Nodwyd er bod Cynlluniau Ynni
Ardal Leol yn ddogfennau cyhoeddus, roedd cynlluniau i'w cyhoeddi ymhellach
drwy fforwm cyhoeddus ar ddechrau mis Gorffennaf 2025. Bydd y cam hwn yn un
pwysig iawn ar gyfer cynnwys y cyhoedd a thryloywder gan y bydd yn arddangos y
cynnydd a wnaed, yr heriau a'r manylion ynghylch cyflenwi. Er gwaethaf y newyddion cadarnhaol am gyllid
ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, nodwyd bod y cyllid ar gael tan fis Mawrth
2026 yn unig ac roedd nifer o bryderon ynghylch darparu adnoddau i gyflwyno'r
gwasanaeth. Esboniwyd bod adnoddau cyfyngedig ar gael ar draws
y pedwar Awdurdod Lleol ar gyfer cyflwyno'r ffrwd waith hon, gyda nifer o
swyddogion yn gweithio ar gyflenwi fel rhan o'u swyddi dyddiol. Roedd hefyd
nifer cyfyngedig o weithwyr dynodedig yn gweithio ar y darn penodol hwn o
waith. Yn dilyn yr uchod, tynnodd swyddogion sylw at y
ffaith bod y Tîm Ynni Rhanbarthol yn hanfodol o ran cyflenwi a sicrhau cynnydd
parhaus. Nodwyd y byddai angen cynnal trafodaethau ynghylch adnoddau staff, yn
benodol yr angen am fwy o rolau parhaol er mwyn darparu cynnydd parhaus. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod swyddogion yn aros
am ddatganiad Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd ynghylch cyllideb garbon 3, a
dylai hyn gael ei ddarparu erbyn diwedd y flwyddyn. Nodwyd y sefyllfa bresennol, o lefel swyddog, er
bod cynnydd yn digwydd o ran cyflwyno, roedd hyn yn digwydd ar lefel isel ar
hyn o bryd o ganlyniad i'r anawsterau a'r heriau y tynnwyd sylw atynt. Darparodd swyddogion fanylion ynghylch sawl
prosiect sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd a phrosiectau arfaethedig: · Digwyddiadau Lansio Parc Gelli Werdd - Fel y crybwyllwyd uchod, roedd
digwyddiad lansio arfaethedig ar gyfer Cynlluniau Ynni Ardal Leol ym Mharc
Gelli Werdd, parc busnes cynaliadwy yn Cross Hands a ariannwyd gan fenter ar y
cyd rhwng Cyngor Sir Caerfyrddin a Llywodraeth Cymru. Yn ogystal â hyn,
esboniodd swyddogion eu bod yn datblygu tudalennau we ar gyfer y Cynlluniau
Ynni Ardal Leol ac yn creu hyfforddiant ar-lein ar gyfer staff yn yr Awdurdodau
Lleol er mwyn eu helpu i ymgysylltu â dogfennau Cynlluniau Ynni Ardal Leol. · Cais Innovate UK - Roedd swyddogion yn gweithio yn Sir Benfro, gyda Bluestone a'r Porth, i gynhyrchu cais ar gyfer Innovate UK i gefnogi busnesau bach a chanolig yng nghadwyn gyflenwi twristiaeth. Mae'r darn hwn o waith yn ceisio cael gafael er eu hadroddiadau carbon a'u cynlluniau datgarboneiddio. Nodwyd bod y gwaith hwn yn darparu cefnogaeth i'r sefydliadau hyn er mwyn eu helpu i wella eu cynaliadwyedd, lleihau eu hôl troed carbon a darparu cynllun datgarboneiddio ar y cyd. Mae hefyd yn galluogi'r swyddogion i gyfuno'r data hynny ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |