Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||||
---|---|---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiadau o fuddiannau canlynol:
|
|||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
30 Medi 2024 fel cofnod cywir. |
|||||
Diweddariad ar Gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol Cofnodion: Cyflwynodd swyddogion ddiweddariad i'r Pwyllgor ar
gyflawni'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau mai'r Cynlluniau Ynni Ardal
Leol oedd y fframwaith ar gyfer cyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol ac
roeddent yn cynnwys cyfres o gamau gweithredu lleol a rhanbarthol. Nodwyd bod
swyddogion yn cwrdd trwy Grŵp Llywio Rhanbarthol i gydlynu'r gwaith sy'n
ymwneud â'r cynlluniau hyn a ffrydiau gwaith ynni eraill. Esboniwyd ers datblygu'r cynlluniau mae Llywodraeth Cymru
wedi ariannu penodi Tîm Ynni Rhanbarthol sy'n cynnwys Rheolwr Prosiect Ynni yn
ogystal â dwy swydd Swyddog Prosiect(au) Ynni. Ariannwyd y swyddi hyn am 24 mis
a chafwyd eu cyflogi gan Gyngor Sir Gâr. Tynnodd swyddogion sylw at y ffaith
bod y manylion sy'n ymwneud â chynnydd y Tîm Ynni Rhanbarthol wedi'u cynnwys yn
Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd. Cyfeiriwyd at Atodiadau B, C a D yr adroddiad a
ddosbarthwyd, a oedd yn cynnwys diweddariadau ar y cynlluniau blaenoriaeth
unigol: ·
Amlinelliad Prosiect Menter 'Solar Together' De-orllewin
Cymru (Atodiad B) ·
Amlinelliad Prosiect o'r Prosiect Newid Ymddygiad
(Atodiad C) ·
Cynllun Peilot Rhannu Isadeiledd Gwefru Cerbydau Trydan
traws-ffiniol rhwng Awdurdodau Lleol a'r Sector Cyhoeddus ehangach (Atodiad D) Dywedodd swyddogion fod y fenter Solar Together ar
gyfer perchnogion tai sydd â digon o arian i fuddsoddi mewn gwelliannau ar
gyfer ynni adnewyddadwy. Mae angen cyllid ar y fenter hon a gymeradwywyd yn
ystod cyfarfod diweddar Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru (21 Ionawr
2025). Nodwyd cyfanswm o £27.5k ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26 a swm llai o
£3k ar gyfer blwyddyn ariannol 2024/25 i dalu costau'r Memorandwm
Cyd-ddealltwriaeth. Soniwyd bod y llwybr caffael yn cael ei reoli gan Gyngor
Sir Gâr fel yr arweinydd ar gyfer ynni ac roedd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth
yn cael ei ddatblygu i fwrw ymlaen â hyn. Dywedodd wrth aelodau fod Hysbysiad
Gwybodaeth Ymlaen Llaw ynghylch Ymgysylltu â'r Farchnad wedi'i roi ar waith ar
7 Ionawr 2025 i gadarnhau faint o ddarparwyr gwasanaeth posib o'r math hwn o
gynllun sy'n bodoli; Bydd yr Hysbysiad Gwybodaeth Ymlaen Llaw yn dod i ben o
fewn yr ychydig ddyddiau nesaf ac ar ôl hynny byddai'r swyddogion yn mynd
trwy'r ymatebion cyn gwneud dyfarniad uniongyrchol. Yn dilyn yr uchod, cadarnhaodd swyddogion fod
trafodaethau parhaus yn digwydd gyda'r timau cyfreithiol a chaffael ynghylch y
cyfeiriad wrth symud ymlaen. Unwaith y bydd hyn wedi'i benderfynu, cynhyrchir
cytundeb y bydd angen ei lofnodi ar y cyd gan bedwar Awdurdod Lleol y
rhanbarth. Nodwyd bod angen penderfyniad terfynol erbyn diwedd Ebrill 2025.
Byddai rhai o'r gweithgareddau a fyddai'n dilyn hyn yn cynnwys pryniannau gan y
cyflenwr o ran data marchnata ac anfon llythyrau at breswylwyr dros gyfnod o 12
wythnos ym mis Mai 2025. Cadarnhaodd swyddogion y bydd ymgyrch ar y cyfryngau
cymdeithasol a'r wefan er mwyn hyrwyddo'r cynllun ymhellach. Yn dilyn yr
ymgyrchoedd marchnata, tynnwyd sylw at y ffaith y disgwylir i'r gosodiadau
cyntaf gael eu sefydlu rhwng mis Hydref 2025 a chwarter cyntaf 2026. Os
penderfynir bod y cynllun yn llwyddiannus, byddai swyddogion yn ystyried ei
gynnal eto yn y dyfodol. Mynegodd y pwyllgor bwysigrwydd cydweithio rhwng Awdurdodau Lleol, ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||||
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Ynni. |
|||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |