Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fuddiannau canlynol ar
ddechrau Eitem 4 ar yr Agenda:
|
|||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 212 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
13 Mai 2024 fel cofnod cywir. |
|||
Diweddariad ar Gyflawni'r Strategaeth Ynni Ranbarthol PDF 282 KB Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r aelodau
ynghylch y cynnydd o ran y cynllun cyflawni rhanbarthol ar gyfer Ynni; yn unol
ag ymrwymiad Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru, fel yr amlinellir yn
Amcanion Lles y Cynllun Corfforaethol, gyda phwyslais ar Ynni Rhanbarthol. Nodwyd bod y tri phrosiect
arfaethedig y manylir arnynt yn atodiadau'r adroddiad a ddosbarthwyd er
gwybodaeth a byddant yn destun datblygiad, cyn ceisio cymeradwyaeth gan
gyfarfod Is-bwyllgor Ynni Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru yn y
dyfodol. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
fod Llywodraeth Cymru wedi mandadu Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru
i roi Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar waith ar gyfer y rhanbarth; ac ar 15
Mawrth 2022, penderfynwyd mabwysiadu Strategaeth Ynni Rhanbarthol De-orllewin
Cymru fel fframwaith ar gyfer rhaglen waith Cyd-bwyllgor Corfforaethol
De-orllewin Cymru. Eglurwyd bod y Cynllun Corfforaethol yn cynnwys sawl amcan
lles fel rhan o'r ymrwymiad hwnnw. Amcan Lles 1 oedd darparu'r Cynllun Cyflawni
Economaidd Rhanbarthol a'r Strategaeth Ynni Rhanbarthol ar y cyd. Roedd swyddogion yn cydnabod
bod pryderon ynghylch y Cynlluniau Ynni Ardal Leol a sut roeddent yn offeryn ar
gyfer cyflenwi lleol. Fodd bynnag, dywedwyd bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn
cyflawni gwaith y Strategaeth Ynni Rhanbarthol ac yn cyflawni camau gweithredu
ar gyfer Amcan Lles 1. I gloi, roedd synergedd a gorgyffwrdd cryf rhwng y
Strategaeth Ynni Rhanbarthol a'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol. Bydd y ddau ohonynt yn llywio'r darlun
cenedlaethol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod y
pedwar adroddiad Cynlluniau Ynni Ardal Leol bellach wedi'u cwblhau. Roedd Cynlluniau Ynni Ardal Leol Sir Benfro
wedi'u cwblhau yn 2022, ac erbyn hyn roedd y tri Awdurdod Lleol arall wedi
cwblhau eu rhai nhw. Fel y soniwyd eisoes, bydd yr adroddiadau hyn yn ffurfio'r
Strategaeth Ynni Ranbarthol. Ar hyn o bryd roedd Llywodraeth Cymru'n
cydgrynhoi'r data hwn i ffurfio darlun rhanbarthol ac yna darlun cenedlaethol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau
bod y Cynlluniau Ynni Ardal Leol wedi cael eu datblygu yn seiliedig ar
amgylchiadau a blaenoriaethau pob Awdurdod Lleol. Nodwyd bod y Cynlluniau Ynni
Ardal Leol ar gyfer Abertawe, Castell-nedd Port Talbot a Sir Gaerfyrddin yn cael
eu cyfieithu i'r Gymraeg ar hyn o bryd, a'r cam nesaf yn dilyn hyn fyddai
cyhoeddi. Rhoddodd swyddogion enghraifft
o un o'r cynlluniau gweithredu ac esboniodd fod y camau gweithredu a'r themâu
allweddol yn ailadrodd yr hyn oedd yn y Strategaeth Ynni Ranbarthol; Roedd hyn
oherwydd mae llawer o'r camau o fewn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol yn gamau
gweithredu rhanbarthol. Tynnwyd sylw at y ffaith bod 67 o gamau gweithredu o
fewn y Strategaeth Ynni Rhanbarthol bresennol, a oedd yn rhan o Gynllun
Corfforaethol Cyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru; Roedd 51 ohonynt yn
cael eu cynnwys yn uniongyrchol yn y Cynlluniau Ynni Ardal Leol, ac nad oedd
angen ymdrin â'r rheini ar lefel genedlaethol. Nodwyd, dros yr haf roedd swyddogion wedi adolygu'r camau gweithredu y tynnwyd sylw atynt gan City Science. Cydnabuwyd bod nifer o gamau yn ymwneud ag ôl-osod a rhoi systemau gwresogi carbon lleol ar waith nad oeddent wedi cael eu nodi fel camau gweithredu rhanbarthol, er bod y camau gweithredu hyn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Cofnodion: Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Ynni. |
|||
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |