Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem | ||
---|---|---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiad o fudd canlynol:
|
|||
Cofnodion: Cyflwynwyd Cylch Gorchwyl Is-bwyllgor Ynni Cyd-bwyllgor Corfforaethol
De-orllewin Cymru i'r Pwyllgor. Esboniwyd bod y Cylch Gorchwyl wedi'i gyflwyno i'r
Cydbwyllgor Corfforaethol, ynghyd â Chylch Gorchwyl yr Is-bwyllgorau arall, ym
mis Hydref 2022. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod y ddogfen yn nodi
nod trosgynnol yr Is-bwyllgor; ynghyd â swyddogaethau a chyfansoddiad y
Pwyllgor. PENDERFYNWYD: Bod
Aelodau'n nodi cylch gorchwyl yr Is-bwyllgor Ynni. |
|||
Polisi Ynni Rhanbarthol De-orllewin Cymru a chyflwyno'r cefndir PDF 129 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd cyflwyniad i'r
aelodau a oedd yn gosod y cefndir o ran ffactorau a strwythurau llywodraethu
sy'n dylanwadu ar bolisi ynni rhanbarthol, gan amlinellu datblygiadau hysbys ym
maes ynni rhanbarthol. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch
cynllunio ar gyfer system ynni carbon isel, fwy integredig. Eglurwyd bod y
Polisi Cenedlaethol, Strategaethau Ynni Rhanbarthol a Chynlluniau Ynni Ardal
Leol (CYAL) yn rhan annatod o gyflawni hyn.
Tynnodd y cyflwyniad a
ddosbarthwyd sylw at y tirlun o fewn Rhanbarth De-orllewin Cymru, gan roi
darlun eang o'r llywodraethu a lefel y manylder ar y ffrydiau gwaith amrywiol;
er enghraifft, roedd nifer o Grwpiau Tasg Swyddogion Rhanbarthol yn cael eu
cynnal, ac roedd cynnydd yn digwydd o ran prosiectau allweddol y Rhanbarth, gan
gynnwys y Prosiect Porthladd Rhydd Celtaidd a phrosiect Eden Las – Morlyn
Llanw. Rhoddwyd gwybod i aelodau fod
y sefyllfa bresennol yn weddol debyg ar draws rhanbarthau eraill yng Nghymru, o
ran eu strwythurau llywodraethu. Mynegwyd bod Cyd-bwyllgor
Corfforaethol De-orllewin Cymru wedi cymeradwyo ei Gynllun Corfforaethol, a
oedd yn cynnwys y cynllun gweithredu ar gyfer y Strategaeth Ynni Ranbarthol;
roedd dwy flaenoriaeth wedi'u cynnwys yn y cynllun hwn, ac roedd y Grŵp
Cyfarwyddwyr Rhanbarthol wedi bod yn gweithio ar wneud cynnydd. Y flaenoriaeth
gyntaf a nodwyd oedd mapio adnoddau a oedd ar gael a nodi bylchau mewn
adnoddau; un o'r mesurau effaith hyn oedd sefydlu Tîm Cyflwyno Rhanbarthol.
Cadarnhawyd bod hysbysebion swyddi ar gyfer y tair swydd o fewn y Tîm wedi cael
eu hysbysebu, a byddai cyfweliadau'n cael eu cynnal yn ystod yr wythnosau
nesaf; roedd y tair swydd ar gyfer Rheolwr Prosiect a dau Swyddog Prosiect, a
byddai pob un ohonynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Eglurwyd y
byddai'r broses o roi ar waith a chyflwyno'n cyflymu o'r pwynt hwn ymlaen. Yn dilyn yr uchod, nodwyd
mai'r ail flaenoriaeth oedd llunio rhaglenni rhoi ar waith ochr yn ochr â
phartneriaid; rhai o'r camau gweithredu o fewn y flaenoriaeth hon oedd datblygu
cynlluniau gweithredu sydd wedi'u blaenoriaethu, ac sy'n cyd-fynd â'r CYAL.
Cadarnhawyd bod y gwaith hwn wedi bod yn mynd rhagddo, ac unwaith eto bydd y
gwaith hwn yn datblygu ymhellach pan fydd y Tîm Cyflwyno Rhanbarthol ar waith. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor
am yr heriau sy'n gysylltiedig â'r ffrwd waith hon: -
Cyflymder a graddfa ar y lefel strategol ranbarthol -
Ansicrwydd ynghylch cost cyflwyno/sero net -
Cyllid a refeniw cyfalaf ar gyfer prosiectau a nodwyd -
Gweithio gyda sgiliau i ddylunio, cyflwyno, gweithredu,
cynnal a monitro -
Diwygiadau polisi a dylanwadau -
Llywodraethu -
Isadeiledd Ailadroddwyd mai un o'r camau
blaenoriaeth oedd alinio prosiectau; un o'r prosiectau a nodwyd oedd prosbectws
buddsoddi ar gyfer y Rhanbarth, a fyddai'n alinio'r Porthladd Rhydd Celtaidd,
CYAL, cynllunio rhanbarthol a phrosiectau allweddol eraill sydd ar waith ar
draws y Rhanbarth. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod Swyddogion yn gobeithio
datblygu prosbectws buddsoddi mewn partneriaeth â Diwydiant Sero Net Cymru. Roedd y Prif Weithredwr o Ddiwydiant Sero Net Cymru yn bresennol yn ystod cyfarfod yr Is-bwyllgor Ynni i roi rhagor o wybodaeth am ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|||
Diweddariad ar gynnydd y Cynllun Ynni Ardal Leol (CYAL) PDF 122 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddodd Bif
Ymgynghorydd Ynni a Chynaliadwyedd City Science yr wybodaeth ddiweddaraf
i'r Pwyllgor am gynnydd o ran cyflwyno'r Cynlluniau Ynni Ardal Leol (CYAL) o
fewn y Rhanbarth. Esboniwyd bod City
Science yn cynhyrchu tair CYAL ar gyfer de-orllewin Cymru, yn Sir
Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot ac Abertawe; ac mae gan Sir Benfro eisoes
eu CYAL eu hunain. Nodwyd, er bod y cynlluniau'n cael eu llunio ar wahân ac yn
cael eu teilwra ar gyfer yr ardal leol, cydnabuwyd bod angen aliniad
rhanbarthol; roedd llawer o'r gweithgarwch a oedd yn cael ei wneud gan City
Science yn sicrhau cysondeb ar draws y Rhanbarth. Rhoddwyd gwybod i'r
aelodau fod y Cynllun Ynni Ardal Leol yn astudiaeth gynhwysfawr o'r system ynni
ardal leol, gan edrych ar y system gyfan a'r holl sectorau dan sylw i
benderfynu ar y gofynion ynni rhwng nawr a 2050, ac ar hyn yr oedd ei angen i
ddatgarboneiddio'r system ynni yn ystod y cyfnod hwnnw. Ychwanegwyd bod y
prosiect CYAL wedi dechrau ym mis Chwefror 2023, a bod disgwyl iddo gael ei
gynnal tan fis Chwefror 2024. Cynhaliwyd trafodaeth
am y Cyd-bwyllgor Corfforaethol a rhyngweithio â'r CYAL. Nodwyd mai'r
Cyd-bwyllgor Corfforaethol oedd y grŵp llywio rhanbarthol ar gyfer
cymeradwyo CYAL, ac roedd hefyd yn rhanddeiliad allweddol. Er bod y
cynlluniau'n rhai lleol, byddant yn cael eu datblygu gan ddefnyddio cydweithio
rhanbarthol. Er bod nifer o'r senarios yn lleol, tynnwyd sylw at y ffaith bod
nifer fawr yn rhanbarthol, felly, roedd sicrhau bod y CYAL yn parhau i fod yn
gysylltiedig ac yn dryloyw gyda strwythurau llywodraethu rhanbarthol yn
hanfodol. Yn dilyn ymlaen o'r
uchod, eglurwyd, er nad oedd y Cyd-bwyllgor Corfforaethol yn gorff llywodraethu
ar gyfer cynnydd CYAL, roedd yn bwysig rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y
cynnydd a wnaed. Cadarnhaodd swyddogion y bydd yr Awdurdodau Lleol unigol yn
derbyn eu CYAL drafft cyn bo hir. Yn ogystal â hyn,
dywedwyd unwaith y bydd yr holl CYAL ar draws Cymru wedi'u cwblhau, bydd Energy
Systems Catapult, sef y sefydliad a oedd yn gyfrifol am ddatblygu'r
cysyniad a'r canllawiau ar gyfer y CYAL, yn mynd i dynnu'r wybodaeth at ei
gilydd i greu barn ranbarthol a chenedlaethol ynghylch Cynllunio Ynni Ardal
Leol; byddai hyn yn helpu i ddarparu sylfaen dystiolaeth wedi'i llywio ar draws
Cymru. Roedd y cyflwyniad yn
manylu ar wybodaeth am y camau amrywiol ar gyfer datblygu CYAL. Soniwyd trwy
gydol cynnydd y CYAL roedd proses ymgysylltu â rhanddeiliaid helaeth i
gynorthwyo gyda'r gwaith. -
Cam 1 a 2 – paratoi, rheoli
prosiectau a chynhyrchu cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid -
Cam 3 - datblygu llinell sylfaen
gan ddefnyddio data lleol a chenedlaethol i ddeall systemau ynni'r ardal leol -
Cam 4 – datblygu modelau data
amrywiol ar gyfer systemau ynni'r ardal leol, gan gynnwys model o senarios yn y
dyfodol -
Cam 5 – mireinio sefyllfaoedd
a nodi llwybr i sero net - Cam 6 – datblygu a blaenoriaethu camau gweithredu ar gyfer y tymor byr a'r tymor hir i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r llwybr, yn ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 5. |
|||
Blaenoriaethau'r Dyfodol a'r Flaenraglen Waith PDF 410 KB Cofnodion: Derbyniodd y Pwyllgor
y Flaenraglen Waith ar gyfer yr Is-bwyllgor Ynni. Cynhaliwyd trafodaeth
ynghylch amlder cyfarfodydd. Cytunwyd bod angen cyfarfodydd ychwanegol o'r
Is-bwyllgor Ynni; Byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu hyn mewn
cysylltiad â'r Arweinwyr Ynni ar gyfer y Rhanbarth. Cynigiwyd ychwanegu'r
eitemau canlynol at y Flaenraglen Waith yn ystod y cyfarfod: -
Partneriaeth Sgiliau
Rhanbarthol – Uwchsgilio ac Adnoddau ar gyfer y dyfodol -
Y newyddion diweddaraf gan Dîm
Hydrogen Llywodraeth Cymru -
Cyflwyniad ar Brosiect Datgelu
Carbon a Ras i Sero Nodwyd y Flaenraglen
Waith. |
|||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |