Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar
18 Medi 2023 fel cofnod cywir. |
|
Ymgynghoriad ar Lawlyfr Datblygiad Cynllunio Strategol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Rhoddwyd diweddariad i'r Pwyllgor ar sefyllfa
bresennol datblygiad y Cynllun Datblygu Strategol. Rhoddwyd gwybod i'r Aelodau fod Swyddogion ar draws
y rhanbarth wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru fel rhan o ymgynghoriad
anffurfiol; cynhaliwyd hyn oddeutu dwy flynedd yn ôl ac roedd yn ymwneud â
llawlyfr anffurfiol. Nodwyd y caiff y llawlyfr ei lunio gan Lywodraeth Cymru ac
y byddai'n darparu dull cyson o ran paratoi cynlluniau datblygu strategol
ledled Cymru. Mynegwyd er y cynhaliwyd yr ymgynghoriad anffurfiol
beth amser yn ôl fod y swyddogion yn dal i aros i gael ymgynghoriad ffurfiol
ynghylch fersiwn ddrafft o'r canllawiau; mae Llywodraeth Cymru wedi oedi sawl
gwaith wrth gyhoeddi'r ddogfen honno ar gyfer ymgynghori. Ni ddisgwylir i'r
llawlyfr drafft fod ar gael tan wanwyn 2025, gyda'r cyhoeddiad terfynol erbyn
diwedd haf/dechrau hydref 2025. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod y ddogfen hon
yn hanfodol o ran galluogi a hwyluso cynlluniau datblygu strategol ledled Cymru
gan y bydd yn nodi'r dull gweithredu yr oedd angen ei gymryd. Ychwanegodd Swyddogion fod paratoi'r Cynllun
Datblygu Strategol yn adlewyrchiad o'r hyn yr oedd cynghorau unigol yn ei wneud
gyda'u cynlluniau datblygu lleol, a bod angen gwneud llawer o waith i baratoi'r
cynlluniau hyn. Cadarnhawyd bod trafodaethau niferus wedi eu cynnal
ynghylch adnoddau ariannol a staff i gyflawni'r rhaglen waith; byddai'r
ymrwymiad ariannol i gyflawni Cynllun Datblygu Strategol yn sylweddol, ac
amcangyfrifwyd y byddai'r ffigyrau rhwng £2.5m a £3.5m. Nodwyd bod Swyddogion a
gwleidyddion wedi bod yn lobïo Llywodraeth Cymru o ran darparu adnoddau digonol
a boddhaol i alluogi cyd-bwyllgorau corfforedig i fwrw ymlaen â'r rhaglen waith
hon. Cafwyd trafodaeth ynghylch pwysigrwydd sicrhau bod
digon o staff ar gael i baratoi'r Cynllun Datblygu Strategol a chyflawni'r
rhaglen waith; roedd awdurdodau lleol unigol wrthi'n cyfrannu at baratoi eu
cynlluniau datblygu lleol newydd. Felly, ar hyn o bryd, nid oedd yn bosib
dargyfeirio staff yr Awdurdod Lleol i ffwrdd o'r rhaglen waith benodol honno er
mwyn bwrw ymlaen â'r gwaith sy'n ymwneud â'r Cynllun Datblygu Strategol.
Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod Swyddogion ar draws awdurdodau lleol wedi derbyn
cyfarwyddyd clir gan Lywodraeth Cymru i barhau i fwrw ymlaen â'u cynlluniau
datblygu lleol newydd. O ran y sefyllfa bresennol, mynegwyd na fydd
Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru mewn sefyllfa i ddechrau unrhyw
waith ar y Cynllun Datblygu Strategol nes i broblem adnoddau gael ei datrys. Soniodd Swyddogion eu bod wedi derbyn gohebiaeth
gan Ysgrifennydd y Cabinet ynghylch y gofynion i lunio cytundeb cyflawni erbyn
diwedd 2024; fodd bynnag, am y rhesymau a grybwyllwyd uchod, ni fyddai modd
cyflawni hyn ar hyn o bryd. Eglurwyd y bydd cytundeb cyflawni ar gyfer y
Cynllun Datblygu Strategol yn debyg i unrhyw Gynllun Datblygu Lleol; bydd yn
nodi'r amserlen, cwmpas unrhyw gynllun i gynnwys y gymuned a'r adnoddau y mae
eu hangen. Nid oedd swyddogion mewn sefyllfa i egluro'r manylion hyn ar hyn o
bryd. Cyfeiriwyd at ranbarthau gogledd Cymru a chanolbarth Cymru, a oedd mewn sefyllfa debyg i ranbarth y de-orllewin. Roedd y Swyddogion yn deall bod dinas-ranbarth Caerdydd wedi datblygu fersiwn ddrafft gynnar o'i gytundeb ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol
1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |