Agenda a Chofnodion

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol - Dydd Llun, 9fed Hydref, 2023 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cynllun Gweithredu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh) pdf eicon PDF 478 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod dyletswydd ar Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru i baratoi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh); cam cyntaf y gwaith hwn oedd llunio Cynllun Gweithredu, i'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn diwedd mis Hydref 2023.

Atodwyd y Cynllun Gweithredu drafft fel Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ac roedd Swyddogion yn ceisio cymeradwyaeth yr Aelodau i gyflwyno'r Cynllun Gweithredu hwn i'r Cyd-bwyllgor Corfforaethol i'w gymeradwyo.

Cyflwynodd swyddogion y Cynllun Gweithredu drafft i'r Pwyllgor, a thynnwyd sylw at bwyntiau allweddol o ran nod y prosiect, y pecynnau gwaith y mae eu hangen er mwyn cwblhau datblygiad y CTRh, y risgiau a nodwyd a'r amserlen ar gyfer cyflawni.

Rhoddwyd gwybod i'r aelodau am gyd-destun polisi'r CTRh, a chawsant wybod am bwysigrwydd sicrhau bod y CTRh yn adlewyrchu Strategaeth Drafnidiaeth Cymru (Llwybr Newydd); a sicrhau ei fod yn cyd-fynd â strategaethau a blaenoriaethau Cenedlaethol, Rhanbarthol a Lleol.

Esboniwyd bod dwy brif elfen i baratoi'r CTRh; Datblygu'r ddadl o blaid newid, a datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Tynnodd swyddogion sylw at y meysydd gwaith allweddol canlynol mewn perthynas â'r ddwy brif elfen:

Datblygu'r Ddadl o Blaid Newid

(I'w gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Chwefror 2024)

·        Cynnwys Rhanddeiliaid;

·        Diffinio'r Maes Astudio;

·        Nodi'r Achos Strategol – cysylltu â'r holl bolisïau a fframweithiau sydd ar waith ar hyn o bryd;

·        Nodi Problemau a Chyfleoedd – mapio'r sefyllfa bresennol o safbwynt trafnidiaeth ar draws y Rhanbarth, a chynnwys canfyddiadau Model Trafnidiaeth De Cymru;

·        Datblygu Gweledigaeth y CTRh - gan nodi ai gweledigaeth bresennol y Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd oedd y weledigaeth gyffredinol o hyd, a diwygio hyn os oes angen;

·        Datblygu amcanion SMART ar gyfer y CTRh - i gyd-fynd â'r blaenoriaethau yn Strategaeth Trafnidiaeth Cymru;

·        Nodi Trefniadau Llywodraethu – roedd cymeradwyo a mabwysiadu'r CTRh yn hanfodol ar lefel Cyd-bwyllgor Corfforaethol ac Awdurdod Lleol;

·        Datblygu Cynllun Rheoli Rhanddeiliaid ac Ymgysylltu â'r Cyhoedd.

Datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol

(Cyflwyno drafft cyntaf, cyn ymgynghoriad cyhoeddus, i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mai 2024)

·        Nodi'r Ymyriadau a'r Polisïau Lefel Uchel;

·        Cynnal adolygiad o gynlluniau o'r Cynllun Trafnidiaeth ar y Cyd presennol – deall beth oedd wedi cael ei gyflawni, yr hyn nad oedd wedi'i gyflawni ac nad oedd ei angen mwyach, a'r hyn nad oedd wedi'i gyflawni ac roedd angen ei gynnwys yn y CTRh;

·        Nodi methodoleg ar gyfer blaenoriaethu cynlluniau.

Dywedwyd bydd drafft terfynol y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref 2024; gyda'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol terfynol yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mawrth 2025.

Cyfeiriodd swyddogion at ddatblygu'r Asesiad Lles Integredig, a soniwyd y byddai llawer o ymgynghori gyda'r cyhoedd a chyda rhanddeiliaid hefyd sy'n gysylltiedig â gwahanol gamau o ddatblygu'r CTRh. Ychwanegwyd y byddai rhai o'r amserlenni ar gyfer cwblhau'r darnau hyn o waith yn heriol.

Cyflwynwyd y risgiau lefel uchel sy'n gysylltiedig â chyflawni Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru i'r Pwyllgor:

·        Cytundeb gwleidyddol ar bolisïau a chanlyniadau lefel uchel – er bod y CTRh yn Gynllun Rhanbarthol, roedd angen iddo hefyd gyd-fynd â'r Awdurdodau Lleol  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3.

4.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 501 KB

Cofnodion:

Darparwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol i'r Aelodau.

 

Cyfeiriwyd at yr angen am gyfarfod ychwanegol ar gyfer cyfnod yr hydref. Byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trefnu hyn mewn cysylltiad â'r Arweinwyr Trafnidiaeth ar gyfer y Rhanbarth.

 

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.