Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol - Dydd Mercher, 8fed Ionawr, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman  E-bost: c.plowman@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 384 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Medi 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft pdf eicon PDF 482 KB

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r aelodau.

Amlygodd Swyddogion eu bod yn ceisio cymeradwyaeth gan Gyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru, i ddechrau'r broses ymgynghori cyhoeddus ar gyfer y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft. Dywedwyd mai'r amserlen arfaethedig ar gyfer yr ymgynghoriad oedd wyth i ddeg wythnos, gan ddechrau o ddiwedd mis Ionawr/dechrau mis Chwefror. Ychwanegodd swyddogion mai'r ddwy elfen a fyddai'n rhan o'r ymgynghoriad oedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a'r Cynllun Cyflawni Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft.

Rhoddwyd gwybod i'r pwyllgor am y newidiadau canlynol y byddai swyddogion yn eu gwneud i'r dogfennau a ddosbarthwyd. Nodwyd y bydd y fersiwn wedi'i diweddaru yn cael ei chyflwyno i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu De-orllewin Cymru a Chyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru:

·        Cynnwys Polisi 15 a oedd ar goll o'r adroddiad a ddosbarthwyd.

·        Diwygiad i'r rhestr o gynlluniau:
1. Cynnwys nifer o gynlluniau rheilffyrdd a chefnffyrdd trydydd parti a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, y nododd swyddogion eu bod yn hanfodol ar gyfer y rhanbarth. Eglurwyd bod hyn yn arbennig o bwysig oherwydd y bydd y Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth yn dod i ben yn 2027; felly, byddai cyfleoedd i dynnu sylw at gynlluniau yr hoffai'r rhanbarth eu gweld yn iteriad nesaf y cynllun hwnnw.
2. Cynnwys lleoliad bras ar gyfer pob cynllun i roi rhagor o eglurder ynghylch ble y byddai'r cynlluniau'n cael eu cyflawni, boed hynny'n Abertawe, yng Nghastell-nedd Port Talbot, yn Sir Gaerfyrddin, yn Sir Benfro neu ledled y rhanbarth.

Cyfeiriodd swyddogion at yr achos dros newid a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2024. Eglurwyd nad oedd Llywodraeth Cymru wedi darparu sylwadau ffurfiol ar yr achos dros newid.  Fodd bynnag, roeddent wedi bod yn gefnogol ac roeddent yn cytuno y dylai'r rhanbarth fwrw ymlaen â'r broses ddatblygu. Ychwanegwyd y byddai angen i swyddogion ofyn am gymeradwyaeth gan Lywodraeth Cymru o ran bwrw ymlaen â'r broses ymgynghori gyhoeddus.

Ategwyd bod yr achos dros newid yn nodi sefyllfa bresennol y rhanbarth a pham mae angen datblygu'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Mae'r achos dros newid a'r cynllun drafft yn adlewyrchu canllawiau strategaeth Trafnidiaeth Cymru o 2021. Mae strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn nodi tair thema eang, a adlewyrchwyd yn y chwe amcan y byddai swyddogion yn ymgynghori arnynt, ynghyd â'r deunydd ategol.

Cyfeiriwyd at nifer y polisïau yn y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft a oedd yn nodi'r fframwaith ar gyfer bwrw ymlaen â'r broses o wneud penderfyniadau o ran buddsoddiadau'r cynllun. Nodwyd bod hyn yn effeithio ar ystod o feysydd polisi eraill fel cynllunio defnydd tir, datblygu economaidd, materion amgylcheddol a thwristiaeth. Darparodd swyddogion drosolwg o sut mae'r ffrydiau gwaith gwahanol hyn yn cydgysylltu â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol.

Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch hygyrchedd, yn benodol yr ymarfer manwl yr oedd swyddogion wedi'i gynnal i ddadansoddi hygyrchedd lleoliadau allweddol ar draws y rhanbarth, gan gynnwys canol trefi ac ysbytai. Amlygwyd bod y dadansoddiad hygyrchedd wedi'i gynnwys fel atodiad i'r adroddiad a ddosbarthwyd. 

Eglurodd swyddogion fod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn elfen allweddol o ran datblygu'r ffrwd waith hon. Roedd y cynllun yn  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Atodiadau’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft pdf eicon PDF 3 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Trafodwyd yr atodiadau sy'n ymwneud â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Drafft dan gofnod rhif 4.

 

6.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 440 KB

Cofnodion:

Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol.

 

7.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.