Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol - Dydd Mawrth, 24ain Mehefin, 2025 10.00 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman  E-bost: c.plowman@npt.gov.uk

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 231 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 8 Ionawr 2025 fel cofnod cywir.

 

4.

Teitl yr Adroddiad - Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol pdf eicon PDF 596 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cyflwynwyd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Terfynol ar gyfer rhanbarth De-orllewin Cymru i'r aelodau.

Nodwyd bod Atodiadau 10 ac 11, a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn eithriedig o dan Baragraff 14. Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau neu gwestiynau ynghylch yr atodiadau hyn, felly ni symudwyd i sesiwn breifat yn y cyfarfod.

Esboniodd swyddogion mai pwrpas yr adroddiad a ddosbarthwyd oedd nodi cynnydd a cheisio cymeradwyaeth y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Terfynol a'r dogfennau ategol cyn eu cyflwyno i Gyd-bwyllgor Corfforaethol De-orllewin Cymru (CBC De-orllewin Cymru) i'w cymeradwyo. Yn ogystal, ceisiodd yr adroddiad a ddosbarthwyd i amlygu'r sefyllfa ddiweddaraf o ran cyllid grant ac esblygiad parhaus y broses moderneiddio grantiau; ac i amlygu hefyd y gofynion am adnoddau ychwanegol.

Cynhaliwyd trafodaeth mewn perthynas â'r camau allweddol nesaf ac amserlenni. Cadarnhawyd y cyflwynir y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol Terfynol i Is-bwyllgor Trosolwg a Chraffu CBC De-orllewin Cymru ar 2 Gorffennaf 2025 ac yna i CBC De-orllewin Cymru ar 10 Gorffennaf 2025; y nod yw ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ar 25 Gorffennaf 2025, yn amodol ar gymeradwyaeth CBC De-orllewin Cymru. Ychwanegwyd y byddai swyddogion yn disgwyl derbyn ymateb gan Weinidognion Cymru erbyn mis Hydref 2025, a fyddai'n nodi addasrwydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol o ystyried amodau Llywodraeth Cymru ac arwydd o'r cyllid.

Ers cyfarfod diwethaf yr Is-bwyllgor, dywedodd swyddogion y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus lle derbyniwyd 900 o ymatebion; daeth llawer o themâu i'r amlwg a oedd yn debyg i'r rheini yn a godwyd yr ymgynghoriad blaenorol, gan gynnwys y rhwydwaith bysus, addasrwydd teithio llesol a lleoliad y llwybrau gorau a lobïo o blaid ac yn erbyn cynlluniau penodol. Rhoddwyd gwybod i'r aelodau yr ymgynghorwyd â'r grwpiau rhanddeiliaid perthnasol hefyd, ac roedd eu hymatebion yn debyg i'r hyn a ddadansoddwyd yn flaenorol mewn ymgynghoriadau blaenorol; gan gynnwys materion sy'n ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig y rhwydweithiau bysus a rheilffyrdd a sut y cyflwynir y rhain. Nodwyd bod y grwpiau rhanddeiliaid hefyd wedi darparu cyd-destun ac awgrymiadau defnyddiol, megis cysylltiad cryfach â'r polisi ynni yr oedd CBC De-orllewin Cymru'n ei archwilio.

Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor bod y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol, a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn cynnwys yr holl asesiadau statudol yr oedd yn ofynnol i Swyddogion eu cynnal, megis yr Asesiad Lles Integredig, a oedd hefyd yn cynnwys yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd statudol. Nodwyd ar y cam hwn nad oedd unrhyw rwystr yn yr asesiadau statudol hynny i atal y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol rhag symud ymlaen i'r cam o gyflwyno cynlluniau a chymhwyso'r polisïau.

Nododd swyddogion y newidiadau allweddol canlynol a wnaed i'r ddogfennaeth sy'n gysylltiedig â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol:

·       Symudwyd y cynlluniau cenedlaethol a gynhwysir yng Nghynllun Cyflawni Cenedlaethol Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cynlluniau a gyflawnir gan Lywodraeth Cymru mewn Cynllun Cyflawni Cenedlaethol diwygiedig o 2027 ymlaen o'r Cynllun Cyflawni i brif gorff y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Esboniwyd er na fyddai'r cynlluniau hyn yn cael eu cyflawni gan ranbarth De-orllewin Cymru, roedd Llywodraeth Cymru wedi cynghori'r swyddogion i dynnu sylw at y cynlluniau hyn yn y  ...  Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4.

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 448 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.