Lleoliad: Via Microsoft Teams
Cyswllt: Chloe Plowman E-bost: c.plowman@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Croeso a Chyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 104 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 7
Mai 2024 fel cofnod cywir. |
|
Polisi Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (Drafft) a'r Diweddaraf am yr Ymgynghoriad PDF 624 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Darparwyd diweddariad o ran yr adroddiad ar gynnydd y
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol i'r Pwyllgor. Roedd yr adroddiad hefyd yn
gofyn am gymeradwyaeth o Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol
a'r rhaglen waith ddiwygiedig i ddatblygu a chyflawni'r Cynllun Trafnidiaeth
Rhanbarthol. Cyfeiriwyd at Strategaeth Drafnidiaeth Cymru, Llwybr
Newydd, 2021. Esboniwyd bod Swyddogion wedi bod yn gweithio ar ddehongli'r
Strategaeth a nodi sut yr oedd yn ymwneud â Rhanbarth De-orllewin Cymru. Mae
Fframwaith Polisi'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yn nodi cyd-destun sut y
byddai strategaeth Llwybr Newydd yn cael ei rhoi ar waith ar lefel ranbarthol. Cynhaliwyd trafodaeth ynghylch yr amserlenni ar gyfer
cyflwyno'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Roedd swyddogion wedi mynegi
pryderon yn y gorffennol ynghylch yr amserlenni oherwydd nifer o ddylanwadau a
oedd yn effeithio ar gynnydd. Rhestrwyd
y rhain yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nodwyd bod Swyddogion yn ceisio
cymeradwyaeth i ddiwygio'r amserlen, yn benodol, newid dyddiad ycyflwyniad
terfynol o fis Ebrill 2025 i fis Mehefin 2025. Derbyniodd yr Aelodau'r diweddariadau canlynol mewn
perthynas â chynnydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol: Tynnwyd sylw at y ffaith bod llawer o waith wedi'i gwneud
o ran casglu, dehongli a deall data. Er mwyn helpu i ddatblygu'r Cynllun
Trafnidiaeth Rhanbarthol, cynhyrchwyd 'llyfr data'. Eglurwyd bod y 'llyfr data'
yn cynnwys dadansoddiad meintiol o ffynonellau data amrywiol gan gynnwys
Trafnidiaeth Cymru a data teithio'r Cyfrifiad. Yn ogystal ag asesiad o
hygyrchedd drwy deithio llesol, bysus, rheilffyrdd a cheir i sawl cyrchfan
allweddol ar draws y rhanbarth, roedd yr ymarfer mapio hwn yn rhoi trosolwg o rai
o'r problemau allweddol yn y rhanbarth. Soniodd swyddogion y gallai'r 'llyfr
data' gael ei ddosbarthu i'r Aelodau os oeddent am weld yr wybodaeth yn
fanylach. Cadarnhaodd swyddogion mai'r cam nesaf yn y broses oedd
dechrau edrych ar gynlluniau penodol, yn benodol pa gynlluniau y gellid eu rhoi
ar waith yn y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf. Y cyfnod hwn oedd prif ffocws bloc cyllido'r
Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a fydd yn cael ei ddarparu dros y blynyddoedd
nesaf. Soniwyd bod yr Awdurdodau Lleol unigol ar draws y rhanbarth yn
cynorthwyo yn y cam hwn drwy gyflwyno cynigion ar gyfer cynlluniau amrywiol.
Rhoddwyd gwybod i'r aelodau fod matrics asesu hefyd yn cael ei ddatblygu er
mwyn deall sut i asesu a blaenoriaethu'r cynlluniau. Gan barhau o'r uchod, rhoddodd Swyddogion drosolwg o sut
y byddai'r matrics asesu'n gweithio. Yn gyntaf, nodwyd y byddai rhestr o
gynlluniau'n cael ei chasglu gan ffynonellau amrywiol megis Awdurdodau Lleol a
Trafnidiaeth Cymru. Bydd y rhestr yn
destun adolygiad drwy Weithdy Swyddogion, lle bydd Swyddogion yn dechrau cael
gwared ar gynlluniau nad oeddent yn debygol o gael eu cyflwyno o fewn cyfnod
pum mlynedd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a chynlluniau na ellid eu
cyflawni'n realistig. Unwaith y bydd hyn wedi'i gwblhau, eglurwyd y byddai'r
cynlluniau sy'n weddill yn destun dadansoddiad manwl pellach. Bydd hyn yn
cynnwys dadansoddiad ansoddol a dadansoddiad rhifiadol. Ychwanegwyd y bydd y
Fframwaith Polisi'n arwain rhai o'r dewisiadau ynghylch cynlluniau posib. Symudodd y drafodaeth ymlaen at ymgynghori ac ymgysylltu. Rhoddwyd gwybod i'r Pwyllgor fod cynllun ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Cofnodion: Eglurwyd y byddai cyfarfod arfaethedig yr
Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol ym mis Hydref yn cael ei ddefnyddio fel
gweithdy ar gyfer Aelodau'r Pwyllgor; a threfnir cyfarfod arbennig ar gyfer 15
Tachwedd 2024. Nodwyd Blaenraglen Waith yr Is-bwyllgor
Trafnidiaeth Rhanbarthol. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |