Agenda a chofnodion drafft

Cyd-bwyllgor Corfforedig De-orllewin Cymru – Is-bwyllgor Trafnidiaeth Ranbarthol - Dydd Mawrth, 7fed Mai, 2024 8.30 am

Lleoliad: Via Microsoft Teams

Cyswllt: Chloe Plowman - E-bost: c.plowman@npt.gov.uk 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

2.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

3.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 130 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

4.

Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-Orllewin Cymru - Y Diweddaraf am y Rhaglen pdf eicon PDF 309 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cafodd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen waith mewn perthynas â'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol (CTRh).

 

Atgoffwyd y Pwyllgor fod y Cynllun Gweithredu a'r Achos dros Newid wedi cael eu cynhyrchu a'u cyflwyno i Lywodraeth Cymru; y cam nesaf oedd cynhyrchu drafft cychwynnol y CTRh.

 

Esboniwyd bod Swyddogion, yn ystod camau cynnar y gwaith, wedi mynegi pryderon am yr amserlenni a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru ynghylch datblygu'r CTRh; diben yr adroddiad hwn oedd amlygu'r newid yn yr amserlenni o gynhyrchu drafft cychwynnol y CTRh.

 

Nododd swyddogion fod yr amserlen gychwynnol yn nodi bod angen i Gyd-bwyllgorau Corfforedig gyflwyno'u drafftiau cyntaf i Lywodraeth Cymru erbyn 29 Mai 2024; gyda'r drafft terfynol yn cael ei gyflwyno erbyn 31 Hydref 2024. Hysbyswyd Aelodau y byddai'r amserlen ddiwygiedig yn cynnwys cyfnod ymgynghori ym mis Mai/Mehefin 2024, a diweddariad i'r polisi a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru erbyn mis Gorffennaf 2024. Ychwanegwyd bod swyddogion yn gweithio tuag at yr amserlen wreiddiol ar gyfer cyflwyno'r drafft terfynol i Lywodraeth Cymru (31 Hydref 2024) ar hyn o bryd.

 

Nodwyd bod gan swyddogion bryderon o hyd mewn perthynas â chyflawni fersiwn derfynol y CTRh o fewn yr amserlen a bennwyd, sef 29 Mawrth 2025. Cadarnhaodd swyddogion y byddent yn diweddaru'r Is-bwyllgor Trafnidiaeth Rhanbarthol ynghylch y materion hyn unwaith y byddai'r newyddion diweddaraf ar gael.

 

Hysbyswyd y Pwyllgor fod De-orllewin Cymru yn dechrau o haen is o ran gwybodaeth, o'i chymharu â rhanbarthau eraill; gan fod De-ddwyrain Cymru a Gogledd Cymru wedi comisiynu sefydliadau trafnidiaeth i ymgymryd â llawer o'r gwaith. Dywedwyd taw'r her go iawn ar gyfer De-orllewin Cymru oedd casglu'r dystiolaeth i lunio'r cynllun cyflawni ar gyfer y CTRh.

 

Mynegodd yr Aelodau eu cefnogaeth mewn perthynas â'r amserlenni diwygiedig ac roeddent yn teimlo bod y rhain yn fwy realistig na'r rhai a gyflwynwyd yn flaenorol.

 

PENDERFYNWYD:

Cadarnhau'r diwygiad i'r rhaglen waith ar gyfer Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol De-orllewin Cymru, cam drafft cychwynnol, fel a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd a'i ganmol i'r Cyd-bwyllgor Corfforedig i'w gymeradwyo.

 

5.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.