Lleoliad: Siambr y Cyngor - Canolfan Ddinesig Port Talbot. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Pamela Chivers
Rhif | Eitem |
---|---|
Appointment of Chairperson and Vice-Chairperson Cofnodion: Cynigiwyd,
eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Phil Rogers fyddai'r Cadeirydd ar gyfer y
cyfarfod. Cynigiwyd, eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd
Rebeca Phillips fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Chair's Announcements Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Declarations of Interest Cofnodion: Y Cyng. R Phillips – Eitem rhif 6 ar Agenda’r
Cabinet – Personol, Aelod
o Hamdden Celtic Y Cyng. N Goldup-John – Eitem rhif 6 ar Agenda’r
Cabinet – Personol, Aelod
o Hamdden Celtic |
|
Pre-Decision Scrutiny - Pontardawe Swimming Pool (wedi'I amgáu o fewn papurau'r Cabinet) Cofnodion: Dywedodd
Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd wrth aelodau eu bod yn gallu
cyfeirio at benderfyniadau blaenorol a wnaed ar yr amod bod unrhyw gwestiynau'n
berthnasol i'r adroddiad dan ystyriaeth. Rhoddodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes drosolwg byr i'r aelodau o'r
adroddiad a gynhwysir ym mhecyn Agenda'r Cabinet. Gwnaeth yr
Aelodau sylwadau ynghylch cryfder llethol y teimlad yn y gymuned ynghylch
dyfodol y pwll nofio. Gofynnodd yr Aelodau, o ystyried y defnydd cymunedol
sylweddol a amlinellir yn yr adroddiad, sut y bydd cau'r pwll yn effeithio ar
hygyrchedd gwasanaethau i breswylwyr a pha fesurau sydd wedi'u harchwilio i
fynd i'r afael â phryderon diogelwch, gan sicrhau mynediad di-dor at
gyfleusterau nofio ar gyfer y gymuned. Cydnabu'r
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai effaith niweidiol ar
grwpiau defnyddwyr sy'n gysylltiedig â'r pwll. Byddai rhaglenni'n cael eu
hadleoli i gyfleusterau hamdden lleol eraill wrth liniaru. Mae'r angen am
gyfleuster newydd yn ddiamheuol ond ar hyn o bryd nid oes cyllid dynodedig ar
gael. Mae cynllun propio ar waith ar hyn o bryd sydd wedi galluogi'r cyhoedd i
barhau i'w ddefnyddio. Mae'r cynllun hwn yn cael ei fonitro a'i adolygu'n
annibynnol yn gyson ond bu dirywiad sylweddol yn ffabrig tanc y pwll. Mynegodd yr
Aelodau bryder ynghylch amseroedd teithio hirach posib ar gyfer preswylwyr sydd
am gael mynediad at gyfleusterau amgen a gofynnwyd a fydd unrhyw
strategaethau'n cael eu hystyried i liniaru unrhyw effeithiau negyddol posib ar
iechyd a lles cymunedol, yn enwedig unigolion diamddiffyn. Dywedodd y
Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes wrth aelodau bod data'n cael ei
gadw sy'n dangos bod gan rai defnyddwyr presennol gyfleusterau amgen yn agosach
at eu cartrefi a rhagwelir y bydd y rhain yn cael eu defnyddio. Bydd effeithiau
posib eraill yn cael eu codi mewn unrhyw gyfleuster newydd os yw'n briodol.
Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb yn nodi'r lleoliad gorau ar gyfer pwll newydd
a'r opsiynau ariannu sydd ar gael. Holodd yr
Aelodau a oedd unrhyw fanylion pellach am gyllid grant posib neu ffynonellau
cyllid amgen ar gael, yn dilyn y trafodaethau rhagarweiniol a gynhaliwyd gyda
Llywodraeth Cymru. Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes fod yr holl opsiynau'n cael eu
harchwilio ar hyn o bryd ond bod nifer cyfyngedig o gyrff ariannu posib. Ni
nodwyd unrhyw gyllid ar hyn o bryd. Cadarnhaodd
y Pennaeth Hamdden, Twristiaeth, Treftadaeth a Diwylliant y cynhaliwyd
trafodaethau rhagarweiniol gyda Llywodraeth Cymru ac roedd y rhain yn
canolbwyntio ar leoliadau posib. Gofynnodd yr
Aelodau i gynnwys defnyddwyr gwasanaeth presennol mewn awdurdodau cyfagos mewn
unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol. Cadarnhaodd
y Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes y byddai'r astudiaeth
ddichonoldeb yn edrych ar gymysgedd y cyfleuster a byddai pob grŵp
defnyddiwr yn rhan o unrhyw ymgynghoriad yn y dyfodol. Roedd yr Aelodau'n cydnabod yr effaith sylweddol y byddai cau'r pwll yn ei chael ar y gymuned ehangach a'r staff a allai gael eu had-leoli. Holodd yr aelodau a fydd unrhyw gymorth ar gael i ysgolion mewn perthynas â chostau cludiant ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Urgent Items Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd
yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972
(fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd
unrhyw eitemau brys. |