Lleoliad arfaethedig: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Alison Thomas E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cofnodion: Cynigiwyd,
eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Rebecca Phillips fyddai'r Cadeirydd ar
gyfer y cyfarfod. Cynigiwyd,
eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Phil Rogers fyddai’r Is-gadeirydd ar gyfer
y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Declarations of Interest Cofnodion: Y Cyng. R Davies – Eitem rhif 6 ar Agenda'r Cabinet –
Personol, Llywodraethwr yn Ysgol Gynradd Godre'r-graig Y Cynghorydd R Jones – Eitem rhif 6 ar Agenda'r Cabinet -
Personol, mae aelod o'r teulu'n gweithio yn Ysgol Maes y Coed Y Cyng. W Carpenter – Eitem rhif 6 ar Agenda'r Cabinet –
Personol, mae aelod o'r teulu'n gweithio yn Ysgol Gyfun Cefn Saeson Y Cyng. Nia Jenkins – Eitem rhif 6 ar Agenda'r Cabinet –
Personol, Llywodraethwr yn Ysgol Maes y Coed Y Cyng. P Rogers – Eitem rhif 6 ar Agenda'r Cabinet –
Personol, Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Llangatwg |
|
Craffu Cyn Penderfyniad - Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion Cofnodion: Rhoddodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes
drosolwg o'r adroddiad, a oedd yn ceisio caniatâd aelodau i fynd at Lywodraeth
Cymru i gael cymeradwyaeth i ddiwygio Rhaglen Amlinellol Strategol (RhAS) y
cyngor. Nodwyd bod yr holl gynlluniau band B a rhai cynlluniau band C yn yr
adroddiad wedi cael eu cytuno gan aelodau'n flaenorol ac nid oedd angen
trafodaeth bellach ar hyn o bryd. Gwnaeth yr Aelodau sylwadau ar yr amser y mae ei angen i ddarllen
papurau; mynegwyd pryder ynghylch sut y cafodd y broses ei datblygu ac nad oedd
yr wybodaeth honno ar gael am ddim. Gofynnodd yr Aelodau am gyfarfodydd ac
ymweliadau safle i edrych yn fanwl ar unrhyw anghenion a materion wrth i'r
cynigion symud ymlaen. Mynegodd yr Aelodau bryder ynghylch y ffaith ei bod yn
angenrheidiol gofyn am gyfarfod ar y cyd a gofyn am eglurhad o ran yr angen am
breifatrwydd ynghylch yr adroddiad atodol. Cadarnhaodd y Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd fod yr adroddiad atodol wedi'i eithrio o dan baragraff 14, gan fod
cyfeiriad at faterion ariannol a busnes y cyngor gyda gwybodaeth fasnachol
sylweddol ynghylch perchnogaeth tir fel rhan o'r astudiaeth dichonoldeb.
Gallai'r wybodaeth hon gael effaith ar unrhyw broses dendro gystadleuol yn y
dyfodol. Bydd yr aelodau'n gwneud y penderfyniad ynghylch a ddylid ystyried y
mater yn breifat ond cyngor y swyddog yw ei fod yn bodloni'r meini prawf ar
gyfer trafodaeth breifat heddiw. Holodd yr aelodau a oedd cynigion i edrych ar anghenion
disgyblion am Ysgol yr 21ain Ganrif ar gyfer Llan-giwg a'r Allt-wen. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes y
bydd pob ysgol yn cael ei hadolygu o dan Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif dros
amser. Bydd Syrfewyr Adeiladu'n blaenoriaethu anghenion a bydd adnoddau'n cael
eu dyrannu yn nhrefn blaenoriaeth. Gofynnodd yr Aelodau a oedd unrhyw ddogfennau neu
astudiaethau dichonoldeb perthnasol eraill sy'n ymwneud â'r cynigion. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes
nad oedd unrhyw astudiaethau dichonoldeb ychwanegol. Cyfeiriodd yr Aelodau at y cynnig ar gyfer ysgol newydd yng
Nghoed Darcy a holwyd a fyddai'r ysgol arfaethedig hon yn cael ei dileu o'r
cynllun. Nodwyd bod yr adroddiad yn nodi ei fod yn amheus y byddai Llywodraeth
Cymru'n caniatáu i'r prosiect yng Nghoed Darcy gael ei drosglwyddo. Cadarnhaodd y Cyfarwyddwr Addysg Hamdden a Dysgu Gydol Oes
mai'r unig welliant a awgrymwyd ar gyfer band B a band C oedd ar gyfer y ddwy
ysgol arbennig a Godre'r-graig ac nad oedd awgrym i gael gwared ar yr ysgol
newydd yng Nghoed Darcy o fand B. Gofynnodd yr Aelodau am eglurhad ynghylch y datganiad yn yr
Asesiad Effaith Integredig (AEI) a oedd yn nodi; mae'r cynlluniau dan sylw yn
ymwneud ag ysgolion cyfrwng Saesneg yn gyffredinol, ond bydd y cyfleusterau
gwell yn effeithio ar ddisgyblion Cymraeg eu hiaith sy'n mynychu'r
ddarpariaeth. Gofynnodd yr aelodau pa gynlluniau oedd ar waith i gynyddu nifer
y disgyblion sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Cadarnhaodd Pennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid fod plant Cymraeg eu hiaith sy'n ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Urgent Items Cofnodion: Ni
chafwyd unrhyw eitemau brys. |