Lleoliad: Multi-Location Meeting - Council Chamber, Port Talbot & Microsoft Teams. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: E-bost: a.thomas6@npt.gov.uk
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Cofnodion: Cynigiwyd,
eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Rebecca Phillips fyddai'r Cadeirydd ar
gyfer y cyfarfod hwn. Cynigiwyd,
eiliwyd a chytunwyd mai'r Cynghorydd Saifur Rahaman fyddai’r Is-gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiadau'r Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Rhoddodd Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a
Democrataidd gyngor i aelodau ar yr eitem hon. Fel y gwyddoch, wrth wneud penderfyniadau sy'n ymwneud ag
unrhyw ran o fusnes y cyngor, mae’n rhaid i chi wneud hynny gyda meddwl agored
ac ystyried yr holl wybodaeth o'ch blaen yn wrthrychol, a rhoi sylw dyledus i
gyngor swyddogion eich cyngor. Yn ystod y broses benderfynu, mae'n rhaid i chi
ymddwyn yn deg ac er budd y cyhoedd. Mae'n ofynnol i chi wneud eich
penderfyniadau ar sail y ffeithiau o'ch blaenau, ac ni ddylech fod wedi gwneud
penderfyniad cyn y cyfarfod. Os ydych yn meddwl eich bod wedi dod i farn neu
benderfyniad sefydlog mewn perthynas â'r mater hwn cyn y cyfarfod ar 19 Ebrill
2023 a'ch bod yn methu neu'n anfodlon ystyried unrhyw sylwadau neu gyngor
arall, mae'n debyg eich bod wedi penderfynu ar y mater ymlaen
llaw. Er y disgwylir i hyn fod yn annhebygol, os byddwch yn canfod neu'n
ystyried eich bod wedi gwneud penderfyniad ymlaen llaw, datganwch hyn ar y
cyfle cyntaf i'r Swyddog Monitro. Os ydych wedi penderfynu ymlaen llaw ar y
materion hyn, ni fyddwch yn gallu cymryd unrhyw ran yn y penderfyniad hwn ac
mae'n annhebygol y byddwch yn gallu cymryd rhan os oes unrhyw benderfyniadau
pellach i'w gwneud. Mae'r cynnig sydd i fod i gael ei ystyried ar 19 Ebrill
2023 yn benderfyniad newydd a ffres y bydd aelodau'n ei wneud, felly ni fydd y
ffaith eich bod efallai wedi pleidleisio mewn ffordd benodol mewn cyfarfod
blaenorol yn gyfystyr â phenderfynu ymlaen llaw, cyn belled â'ch bod yn cadw
meddwl gwirioneddol agored mewn perthynas â'r cyfarfod newydd hwn. Mae hefyd gennych hawl i gael barn ragarweiniol ar fater
penodol cyn cyfarfod (a elwir fel arall yn rhagdueddiad) cyn belled â'ch bod yn
cadw meddwl agored a'ch bod yn barod i ystyried rhinweddau’r holl ddadleuon a’r
pwyntiau a wnaed ynghylch y mater dan sylw cyn dod i benderfyniad. Ystyr penderfynu ymlaen llaw, ar y llaw arall, fel y
dywedais yn gynharach, yw lle’r ydych wedi penderfynu'n glir ar gamau
gweithredu cyn cyfarfod ac yn gwbl amharod i ystyried y dystiolaeth a'r
dadleuon a gyflwynwyd ar y mater hwnnw yn ystod y cyfarfod. Yn unol â hynny, os
ydych chi'n teimlo eich bod wedi penderfynu ar eich barn ymlaen llaw, ni ddylech fod yn cymryd rhan
mewn unrhyw broses benderfynu. Gallai penderfynu ymlaen llaw annilysu'r
penderfyniad, arwain at ddwyn achos yn erbyn y cyngor a gall hefyd fod yn
gyfystyr â thorri Côd Ymddygiad yr Aelodau. Dylech fod yn ymwybodol bod dau fath gwahanol o
benderfyniad ymlaen llaw y mae'n rhaid i chi eu hystyried: ·
Penderfyniad ymlaen llaw go iawn – dyma pryd mae person wedi cau ei feddwl i
bob ystyriaeth heblaw barn sydd eisoes yn cael ei mynegi. · Penderfyniad ymlaen llaw ymddangosiadol - dyma pryd mae sylwedydd teg a gwybodus, sy'n edrych yn wrthrychol ar bob amgylchiad, yn ystyried bod risg wirioneddol bod un neu fwy o'r rheini sy'n gwneud penderfyniadau wedi gwrthod hyd yn oed ystyried ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 3. |
|
Craffu Cyn Penderfynu – Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion – Cynnig i Sefydlu Ysgol Cyfrwng Saesneg 3-11 oed i ddisodli Ysgolion Cynradd Alltwen, Godre'r Graig a Llangiwg (wedi'i amgáu o fewn papurau'r Cabinet) Cofnodion: Rhoddodd swyddogion drosolwg cryno o'r adroddiad a
amlinellwyd yn yr agenda a ddosbarthwyd.
Roedd hyn yn cynnwys amlinelliad o'r broses a'r opsiynau sydd ar gael
i'r Cabinet wrth ystyried yr adroddiad. Gwnaeth aelodau'r Pwyllgor Craffu ystyried y broses
ymgynghori yn gyntaf. Cyfeiriodd yr aelodau at y risg a amlinellwyd yn yr
adroddiad ynghylch y staff a'r gymuned yn gwrthsefyll unrhyw newid i addysg o
ganlyniad i unrhyw benderfyniad a wnaed. Dywedodd swyddogion fod yr Asesiad
Risg yn cynnwys mesurau lliniaru ynghylch hyn a phwysleisiodd y swyddogion
hefyd eu gwybodaeth a'u profiad o ail-drefnu ysgolion ledled y fwrdeistref. Cadarnhaodd swyddogion fod 13 o gyfarfodydd wyneb yn
wyneb gwahanol gyda chynrychiolwyr amrywiol o'r gymuned. Roedd hefyd un cyfarfod
cyhoeddus wyneb yn wyneb ac un cyfarfod cyhoeddus ar-lein. Roedd yr aelodau
wedi cael yr holl ymatebion i'r ymgynghoriad a dderbyniwyd. Lle bo'n bosib,
roedd yr adroddiad ymgynghori wedi amlinellu ffeithiau a thystiolaeth er mwyn
ymateb i'r sylwadau a dderbyniwyd. Cadarnhawyd nad oedd agweddau gwleidyddol unrhyw
ohebiaeth a anfonwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori yn berthnasol i swyddogion. Amlinellodd swyddogion mai bwriad ymgynghori oedd helpu i
lunio cynnig, ac i sicrhau bod swyddogion wedi meddwl am bopeth er mwyn helpu i
lunio argymhellion i'r cabinet eu hystyried. O brofiad swyddogion, mae mwyafrif
yr ymatebion i ymgynghoriad a dderbynnir fel arfer yn erbyn cynnig. Cadarnhawyd bod y grant cyfalaf o £14.7 miliwn gan
Lywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer ail-drefnu ysgolion yng
Nghastell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, ni allai aelodau benderfynu sut i
wario'r arian hwn pe na bai'r Cabinet yn cytuno ar y cynigion. Byddai'n rhaid
gwneud cais boddhaol pellach am gyllid grant i gael gafael ar unrhyw arian gan
Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r broses, mae'n ofynnol i swyddogion gynnal
asesiad effaith cymunedol. Fe'i cynhaliwyd a'i cynhwyswyd fel rhan o'r ddogfen
ymgynghori. Daeth hynny i'r casgliad mai prin iawn yr oedd yr ysgolion yn cael
eu defnyddio gan y gymuned. Maent yn cael eu defnyddio'n bennaf gan rieni neu
grwpiau teuluol yn y gymuned. Cadarnhawyd bod yn rhaid i ysgolion newydd roi
ystyriaeth lawn i fynediad cymunedol. Roedd yr aelodau'n pryderu na fyddai'r
cyfleusterau newydd o fewn yr un cymunedau ag y maent ar hyn o bryd. O ran y caeau chwarae, cadarnhawyd bod gan y safle newydd
ddigon o le i'r ysgol ac i gynnal y nifer presennol o gaeau chwarae. Ymhellach
at hynny, byddent yn cydymffurfio â gofynion chwaraeon amrywiol. Mae Llywodraeth Cymru'n awyddus i hyrwyddo defnydd
cymunedol o ddarpariaethau ysgol newydd. Byddai'n ddyletswydd ar gorff
llywodraethu'r ysgol i sicrhau bod hyn yn digwydd. Amlinellodd swyddogion fod y CDLl yn cael ei adolygu ar hyn o bryd. Mae'n rhaid i'r CDLl sicrhau bod cymunedau cynaliadwy yn cael eu darparu wrth symud ymlaen ac mae'n rhaid iddo gyd-fynd ag amrywiol bolisïau a strategaethau eraill. Cydnabuwyd bod y safle a nodwyd ar gyfer yr ysgol newydd bosib yn safle anodd. Fodd bynnag, ystyriwyd rhestr hir o safleoedd cyn cytuno ar y safle hwn, a'r safle a nodwyd oedd yr un mwyaf derbyniol, gan ... Gweld y cofnodion lawn ar gyfer eitem 4. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd
unrhyw eitemau brys. |