Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 23ain Tachwedd, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Hurley bawb i'r cyfarfod.

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir

5.

Blaenraglen Waith 2022 2023 pdf eicon PDF 414 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael ei nodi

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

7.

Amserau Agor dros y Nadolig/Flwyddyn Newydd (Llyfrgelloedd, Canolfannau Hamdden etc.) pdf eicon PDF 201 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Cymeradwyo'r amserau agor dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd 2023 ar gyfer llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, Parc Gwledig Margam, canolfannau hamdden a phyllau nofio, yn unol ag Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27 Tachwedd 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oedd unrhyw ofyniad i gynnal ymgynghoriad allanol

 

8.

Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol - Polisi Derbyniadau Ysgolion (yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd) pdf eicon PDF 577 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i Atodiad A y pecyn adroddiad a ddosbarthwyd, y dylid rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori ar Bolisi Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol 2023/2026

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27 Tachwedd 2023.

 

Ymgynghoriad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad a ddosbarthwyd, cynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â'r canlynol:

 

·       Cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol

·       Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y., ysgolion ffydd)

·       Pob awdurdod lleol cyfagos.

9.

Lleoedd Cynlluniedig Ychwanegol, Ysgol Gynradd Blaenhonddan - Penderfyniad Terfynol pdf eicon PDF 960 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

·       Rhoi cymeradwyaeth i sefydlu darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oed cynradd a chanddynt Anhwylder y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan.

·       Bod y ddarpariaeth yn cael ei rheoli gan yr ysgol o dan drefniadau llywodraethu ysgolion.

·       Bod y ddarpariaeth o fudd i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gan staff arbenigol ac yn lleihau'r pwysau ar staff presennol i fynd i'r afael â gofynion disgyblion ag anghenion mwy cymhleth. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27 Tachwedd 2023.

 

Ymgynghoriad:

Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol yn unol â Chôd Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2018.  Hysbyswyd yr aelodau o ganlyniad yr ymgynghoriad, ynghyd â'r argymhellion ar 28 Medi yng nghyfarfod Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet.

10.

WESP pdf eicon PDF 318 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

11.

Rhaglen Cyflogadwyedd a Sgiliau pdf eicon PDF 327 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

12.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Y Gyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

13.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

 

14.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.