Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 14eg Mawrth, 2024 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cyng. Hurley bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau.

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 113 KB

Cofnodion:

 

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 1 Chwefror 2024 fel cofnod gwir a chywir

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 402 KB

Cofnodion:

Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/24 yn cael ei nodi

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk  heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

Strategaeth Dreftadaeth (yn ôl o ymgynghoriad) pdf eicon PDF 253 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig a'r atodiadau, mabwysiadu'r Strategaeth Treftadaeth yn ffurfiol.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Diogelu'r Strategaeth Treftadaeth ar gyfer CNPT a galluogi cyflawni Amcan Lles 3. Er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a'n treftadaeth leol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth 2024.

 

Ymgynghoriad:

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori helaeth ar gyfer y Strategaeth Treftadaeth. Dangosir methodoleg a chanlyniadau'r ymgynghoriad yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth Treftadaeth.

Cynhaliwyd gweithdai wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid, grwpiau treftadaeth gwirfoddol ac arolygon ar-lein yn gofyn am adborth ar sut mae'r cyhoedd yn teimlo am y weledigaeth, yr amcanion a'r camau gweithredu i werthfawrogi a gwarchod eu treftadaeth a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar eu lles a chynaladwyedd eu grwpiau cymunedol.

Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth Treftadaeth rhwng 9 Hydref  a 5 Tachwedd 2023. Mae canlyniadau'r broses ymgynghori yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth Dreftadaeth. Mae canfyddiadau'r adroddiad wedi llywio'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu.

 

8.

Cynllun Plant a Phobl Ifanc - Caniatâd i ymgynghori pdf eicon PDF 662 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc drafft ar gyfer cyfnod o ymgynghori rhwng 18 Mawrth 2024 a 5 Ebrill 2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cwblhau a rhoi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar waith.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 ,Mawrth 2024.

 

Ymgynghoriad:

Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yn cael ei gynnal â rhanddeiliaid perthnasol, a fydd yn cael eu hannog i ymateb. Mae hyn yn cynnwys ysgolion, gwasanaethau ac asiantaethau partner mewnol ac allanol, sefydliadau'r trydydd sector a phlant, pobl ifanc a theuluoedd.

 

9.

Derbyn i Ysgolion Cymunedol - Polisi Derbyn i Ysgolion (yn ôl o'r ymgynghoriad) pdf eicon PDF 583 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig a'r atodiad, yn unol â Chôd Derbyniadau Ysgol 2013 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru), penderfynodd yr aelodau y dylid cymeradwyo'r trefniadau derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, fel sydd ynghlwm wrth yr adroddiad.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth 2024.

 

Ymgynghoriad:

 Mae angen ymgynghori â'r canlynol:

 

·    cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol

·    cyrff llywodraethu a gynorthwyir yn wirfoddol  (h.y. ysgolion ffydd)

·    pob awdurdod lleol cyfagos.

 

Mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, mae'n ofynnol cynnal yr ymgynghoriadau hynny ddim cynt na 1 Medi 2023 a rhaid eu cwblhau erbyn 1 Mawrth 2024.

 

Ar ôl i'r ymgynghoriad gael ei gwblhau, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar ei drefniadau derbyn erbyn 15 Ebrill 2024, naill ai yn eu ffurf wreiddiol neu gydag addasiadau yr ystyrir eu bod yn addas.

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024. Roedd yr ymgyngoreion yn cynnwys penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol a gynorthwyir yn wirfoddol yn y Fwrdeistref Sirol (yr ardal berthnasol) ac awdurdodau lleol cyfagos.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw sylwadau.

 

10.

Dyddiadau Tymhorau Ysgol Blynyddol (Allan o Ymgynghori) pdf eicon PDF 124 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, bod ymgynghoriad ar gyfer dyddiadau tymor ysgol 2026/2027 yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

I sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni ei ddyletswyddau statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth 2024.

 

Ymgynghoriad:

Ceisir caniatâd i ymgynghori â chyrff llywodraethu, cynrychiolwyr undebau llafur ac awdurdodau derbyn eraill gan gynnwys y rhai yn y maes perthnasol.

 

 

11.

Addysg Oedolion pdf eicon PDF 226 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

12.

Gwyl Gomedi pdf eicon PDF 251 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

13.

Adroddiad Perfformiad Disgyblion Blynyddol pdf eicon PDF 817 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

14.

Chwarter 3 Dangosyddion Perfformiad 23/24 - Cyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Decision:

That the report be noted for monitoring.

 

15.

Chwarter 3 Dangosyddion Perfformiad 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd pdf eicon PDF 408 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

16.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.