Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 1af Chwefror, 2024 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. N. Jenkins yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Jenkins bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 136 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir.

 

5.

Blaenraglan waith 2023 2024 pdf eicon PDF 408 KB

Cofnodion:

Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael ei nodi

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

Panel Ymgynghorol Sefydlog pdf eicon PDF 693 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod Aelodau'n cefnogi'r cyfansoddiad ar gyfer Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg. A bod y penderfyniad yn cael ei gymeradwyo i'r Cyngor i'w fabwysiadu.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bod y CYS ar gyfer CGM i'w weithredu gyda chyfansoddiad sy'n cyd-fynd â'r ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 5 Chwefror.

 

8.

Diweddariad ar y Gwasanaeth Ieuenctid pdf eicon PDF 857 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

 

 

9.

Diweddariad ar y Gyllideb Teithio Personol - Cludiant pdf eicon PDF 335 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Pendeifyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

10.

Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2023/24 pdf eicon PDF 139 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod cynnwys adroddiad Asesiad Blynyddol 2022-2023 a Ffurflenni Blynyddol y Gwasanaethau Llyfrgell ar gyfer 2022-2023 yn cael eu nodi er gwybodaeth.

 

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

12.

Mynediad i gyfarfodydd

Mae hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod.

Cofnodion:

Penderfynwyd:

Bod y cyhoedd yn cael eu gwahardd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A Deddf Llywodraeth Leol 1972.

 

13.

Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig cam cyntaf, cytunodd yr aelodau i eithrio Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor a chymeradwyo dyfarnu'r contract yn uniongyrchol i'r RNLI ar gyfer Gwasanaeth Achub Bywydau'r Traeth ar lan môr Aberafan am gyfnod o 5 mlynedd, gan ddechrau ar 29 Mawrth 2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Sicrhau bod y Cyngor yn parhau i ddarparu gwasanaeth achub bywydau proffesiynol ar draeth Aberafan, gan ddarparu gwasanaethau diogel a hygyrch i breswylwyr ac ymwelwyr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 5 Chwefror 2024.