Agenda a Chofnodion

SPECIAL, Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Mercher, 8fed Chwefror, 2023 12.00 pm

Lleoliad: Hyrbid Microsoft Teams/Committee Rooms 1/2

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cwestiynau gan y cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

5.

Penodi llywodraethwyr ysgol pdf eicon PDF 105 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr yr ALl i gorff llywodraethu parhaol newydd Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles.

Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles

Penodi'r Cynghorydd J Henton o 1 Mawrth 2023.

Penodi'r Cynghorydd A Lodwig o 1 Mawrth 2023.

Rheswm dros y Penderfyniad:

Galluogi'r awdurdod i gyfrannu'n effeithiol at gyrff llywodraethu ysgolion.

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul, 12 Chwefror 2023.   

 

 

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.