Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Nia Jenkins yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod
hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 15 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 8 Rhagfyr 2022 fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 392 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles
y Cabinet 2022/23 yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn
hwyrach na
chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r
cwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu PDF 784 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1 a 2 yr
adroddiad a ddosbarthwyd; 1.
bod y Strategaeth Cyfranogiad
ac Ymgysylltu yn cael ei gymeradwyo i fabwysiadu'r Strategaeth yn ffurfiol gyda
fframwaith clir ar gyfer Cyfranogiad ac Ymgysylltu â phlant a phobl ifanc yn
dilyn ymgynghoriad. 2.
bod fersiwn hawdd ei darllen
o'r Strategaeth sy'n addas i bobl ifanc yn cael ei llunio ac yn hygyrch i bawb.
Rheswm dros y Penderfyniad: Cryfhau cyfranogiad ac ymgysylltiad â phlant a
phobl ifanc ymhellach ar faterion a phenderfyniadau sy'n effeithio arnynt. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 29 Ionawr
2023. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1 ac Asesiad
Effaith Integredig yr adroddiad a ddosbarthwyd; 1.
Bod y maes llafur cytunedig ar
gyfer Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg ym mhob un o ysgolion Castell-nedd Port
Talbot yn cael ei gymeradwyo. 2.
Bod copïau o'r maes llafur
cytunedig yn cael eu cyhoeddi ar wefannau'r awdurdodau lleol. 3.
Bod copïau o'r maes llafur
cytunedig yn cael eu hanfon ymlaen at Lywodraeth Cymru a Chymdeithas Cynghorau
Ymgynghorol Sefydlog Addysg Grefyddol Cymru (CCYSAGauC). Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn datblygu maes llafur cytunedig yn ôl y gyfraith
yn unol â Chwricwlwm i Gymru ar gyfer yr holl ysgolion a gynhelir gan yr
awdurdod lleol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 29 Ionawr
2023. |
|
Tîm Gwella Ysgolion - Monitro ymweliadau cymorth PDF 338 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro.
|
|
Diweddariad Cyflogadwyedd a Sgiliau PDF 321 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Cyllid Grant Cadw Castell Margam PDF 104 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth a
bod buddion y cyllid grant yn cael eu hamlinellu.
|
|
Adroddiad Diweddaru'r Gwasanaethau Hamdden PDF 531 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Derbyniwyd un eitem frys ac fe'i cyhoeddwyd fel
eitem ategol i becyn Agenda'r Cabinet a ddosbarthwyd. |
|
Ehangu Gofal Plant Dechrau'n Deg - Cam 2 PDF 429 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Gan roi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig
ac Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, 1.
bod y cynlluniau i ehangu
darpariaeth Gofal Plant Dechrau'n Deg Cam 2a a 2b yn cael eu cymeradwyo ar
gyfer Ardal Cynnyrch Ehangach Haen Is fel y nodwyd yn yr adroddiad a
ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn sicrhau bod y cyngor yn dechrau ar ei
gynnig gofal plant a ariennir drwy ehangu darpariaeth y blynyddoedd cynnar o
fis Ebrill 2023. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar unwaith, fel y cytunwyd arno gyda
Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Diwylliant. |