Agenda a Chofnodion

SPECIAL Mins with Welsh, Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 24ain Tachwedd, 2022 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

</AI1>

<AI2>

 

 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd Hurley bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Bod Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

Ysgolion Bandiau C pdf eicon PDF 437 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig,

 

1.                           cymeradwyo cam nesaf y buddsoddiad ar gyfer prosiectau dysgu parhaus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

2.                           Cymeradwyo awdurdodi Swyddogion i archwilio'r cyfleoedd sy'n cael eu hariannu gan grantiau ac sydd ar gael o fewn y rhaglen gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau'r opsiwn mwyaf buddiol ar gyfer y cyngor.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I gael gafael ar gyllid grant Rhaglen
Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau cyfalaf, ac yn amodol ar ganlyniad y cais am gyllid grant, bydd rhoi’r rhaglen o brosiectau ar waith yn galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn. Bydd hefyd yn galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.

 

Ymgynghoriad:

 

Wrth i'r rhaglen ddatblygu, bydd pob prosiect yn destun ymgynghoriad gyda chymunedau'r ysgol priodol. Os bydd prosiect yn golygu cau ysgol, cynhelir ymgynghoriad ffurfiol yn unol â gofynion deddfwriaethol.

 

8.

Adroddiad Arfarnu Opsiynau Cefn Coed pdf eicon PDF 104 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig,

 

1.           cymeradwyo'r argymhellion allweddol canlynol mewn egwyddor ac yn amodol ar ffrydiau cyllido sydd ar gael:

 

·        Maint y costau sydd eu hangen ar gyfer atgyweiriadau hanfodol i alluogi'r amgueddfa i ailagor yn ddiogel i'r cyhoedd.

·        Defnyddiau amgen posib ar gyfer y safle a'r adeiladau.

·        Archwiliad o rôl a chyfraniad Amgueddfa Glofa Cefn Coed fel safle treftadaeth a chyrchfan i dwristiaid. 

·        Adolygiad o gyfleoedd adfywio presennol ac yn y dyfodol ar gyfer Cefn Coed.

·        Ffynonellau incwm amgen trwy grantiau a chyllid allanol.

·        Cyfleoedd i greu incwm.

 

2.           Cymeradwyo awdurdodi Swyddogion i archwilio'r cyfleoedd sy'n cael eu hariannu gan grantiau ac sydd ar gael o fewn y rhaglen gyda Swyddogion Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau'r opsiwn mwyaf buddiol ar gyfer y cyngor.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi'r awdurdod i gynllunio ac archwilio opsiynau yn y dyfodol ar gyfer datblygu safle amgueddfa Cefn Coed.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.

 

Ymgynghoriad:

 

Cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid mewnol ac allanol.

 

 

9.

Creu Partneriaeth Ranbarthol ar gyfer Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol yng Ngorllewin Cymru pdf eicon PDF 212 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo datblygiad a sefydlu Partneriaeth Rhanbarthol newydd ar gyfer Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yng ngorllewin Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Parhau i weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, a sicrhau cyllid ar gyfer y Rhaglen Pobl Ifanc Actif. Sicrhau bod y gefnogaeth a’r cyfleoedd cywir ar waith ar gyfer y rheini nad ydynt yn gorfforol heini yn rheolaidd - gyda ffocws clir ar ddileu rhwystrau ar gyfer y rheini sydd angen cymorth fwyaf. 

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.