Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Jeremy Hurley yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gyhoeddiadau. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Rhaglen waith i'r dyfodol 2022/23 PDF 434 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio
a Strydlun y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
Amser cwestiynau cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn
hwyrach na
chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r
cwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Gwaredu tir yng Nghanolfan Hamdden Castell-nedd PDF 449 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: a)
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam
cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, bod y tir a'r fangre yng Nghanolfan
Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn cael ei ddatgan fel eiddo nad
oes ei angen mwyach ar gyfer gofynion Gwasanaethau Hamdden strategol, parhaus y
Gwasanaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes. b)
Pan fydd Canolfan Hamdden
Castell-nedd yn wag, bod y cyfrifoldeb parhaus am reoli a gwaredu'r fangre yn y
dyfodol yn cael ei drosglwyddo i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio. c)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Cyfranogiad a'r Pennaeth
Eiddo ac Adfywio i dderbyn ildiad y brydles bresennol ar gyfer y cyfleuster gan
y tenant presennol. d)
Bod y Pennaeth Eiddo ac Adfywio,
ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol, yn cael awdurdod dirprwyedig i
gyflwyno rhybudd o derfyniad a sicrhau y ceir meddiant gwag o ran o'r
cyfleuster gan yr is-denant presennol. e)
Bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio, ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol, i ymrwymo i brydles tymor byr er mwyn i Hamdden Celtic weithredu
Canolfan Hamdden newydd Castell-nedd o'i hagoriad tan ddyddiad trosglwyddo'r
gwasanaethau hamdden dan do i'r cyngor ar 31 Mawrth 2023 (neu os na fodlonir y
dyddiad 31 Mawrth 2023, y dyddiad pan ddaw'r gwasanaethau hamdden yn ôl yn
fewnol). Rheswm dros y Penderfyniad: Ni fydd Canolfan Hamdden Castell-nedd yn Heol Dyfed, Castell-nedd yn
weithredol mwyach pan fydd y cyfleuster yn cau a staff a defnyddwyr yn cael eu
hadleoli i Ganolfan Hamdden newydd yng nghanol y dref yn ystod Hydref 2022 ac
felly, ni fydd angen cyfleuster Heol Dyfed mwyach at ddibenion hamdden
gweithredol a strategol parhaus y Gyfarwyddiaeth Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol
Oes. Bydd trefnu i Hamdden Celtic weithredu'r Ganolfan Hamdden newydd tan yr
amser pan fydd y cyngor yn dod yn gyfrifol am gynnal ei wasanaethau hamdden yn
sicrhau gweithrediad y cyfleusterau newydd o'u hagoriad, a darpariaeth barhaus
cyfleusterau hamdden yng Nghastell-nedd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg PDF 316 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod cymeradwyaeth yn cael ei roi i gyflwyno Cynllun Strategol y
Gymraeg mewn Addysg i'r cyngor er mwyn cael caniatâd i'w gyhoeddi a bwrw ati
i'w roi ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad: Cydymffurfio â Rheoliadau
Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar
unwaith. Ymgynghoriad: Roedd yr eitem yn destun ymgynghoriad cyhoeddus
cynhwysfawr a oedd yn cynnwys amrywiaeth eang o randdeiliaid am gyfnod o naw
wythnos. |
|
Asesiad Digonolrwydd Chwarae PDF 496 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod cynllun gweithredu'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
sy'n amlinellu'r blaenoriaethau ar gyfer darparu a datblygu chwarae yn yng
Nghastell-nedd Port Talbot, yn cael ei gymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r cyngor i ymgymryd â chynllun gweithredu
statudol a gaiff ei ddatblygu o Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae 2022
i sicrhau bod cymaint â phosib o adnoddau ar gael ar gyfer chwarae er mwyn
gwella ansawdd y ddarpariaeth a gynigir ar draws y sir. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Gyda chytundeb y Cadeirydd Craffu Addysg, Sgiliau a
Lles, caiff y penderfyniad ei roi ar waith yn syth ac ni fydd y cyfnod galw i
mewn o dridiau'n berthnasol iddo. Caiff y penderfyniad ei roi ar waith ar
unwaith. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi’u heithrio) yn ol
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag
Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |