Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Jeremy Hurley yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd y datganiadau o fuddiannau canlynol. Y Cyng. N Jenkins ar gyfer eitem 7 ar yr agenda. Paul Walker ar gyfer eitem breifat 14 ar yr agenda |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Bod cofnodion blaenorol Bwrdd Addysg, Sgiliau a
Lles y Cabinet, a gynhaliwyd ar 25 Ionawr ac 8 Chwefror, yn cael eu cymeradwyo
fel cofnod cywir |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 Cofnodion: Bod y Flaenraglen Waith 2022/23 ar gyfer Bwrdd
Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Derbyniadau i Ysgolion (Canlyniadau Ymgynghori) Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Yn dilyn ymgynghoriad a chan roi sylw dyledus i
atodiad A, bod Aelodau'n cymeradwyo'r trefniadau derbyn ar gyfer Ysgolion
Cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/2025 fel a fanylwyd yn yr adroddiad
a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau
statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion
cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 19 Ionawr
2023. Ymgynghoriad: Roedd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad gyda
phenaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol ac ysgolion a gynhelir yn
wirfoddol o fewn y Fwrdeistref Sirol a'r |
|
Perfformiad Chwarter 3 Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Diweddariad ar Brydau Ysgol Am Ddim Cofnodion: Penderfyniad: Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi er
gwybodaeth |
|
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y
Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Cofnodion: Penderfynu
gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025 Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1, 2 a 3 yr
adroddiad preifat a ddosbarthwyd, 1.
bod Aelodau'n cymeradwyo'r
cynigion a gyflwynwyd gan yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2025 ym
Mharc Margam. 2.
Bod Aelodau'n cymeradwyo'r
effaith ariannol i'r cyngor o £80,000, a roddir o’r neilltu o fewn Cynllun
Ariannol Tymor Canolig 25/26. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd Castell-nedd Port Talbot a'i breswylwyr yn
elwa o gynnal digwyddiad diwylliannol mawr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 20 Ionawr
2023. Ymgynghoriad: Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem
hon. |
|
Trefniadau arweinyddiaeth - Celtic Leisure - Adroddiad preifat Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, 1.
bod awdurdod dirprwyedig yn
cael ei roi i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn
ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, ar yr amodau a
thelerau y cytunwyd arnynt ar gyfer cytundeb secondiad rhwng y cyngor a Hamdden
Celtic. 2.
Bod Aelodau'n cymeradwyo'r
cymorth gyda chefnogaeth arweinyddiaeth nes y trosglwyddir gwasanaethau i'r
cyngor, erbyn 1 Ebrill 2024 fan bellaf. 3.
Bod Aelodau'n cymeradwyo'r
cais gan Hamdden Celtic i gael gwared ar swydd eu Prif Weithredwr o 31 Mawrth
2023. 4.
Bod costau'r swydd y cytunir
eu bod yn cael eu colli yn cael eu talu’n unol ag amodau'r indemniad a roddwyd
gan y cyngor i Hamdden Celtic ar 21 Hydref 2020. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd arweinyddiaeth addas ar waith i sicrhau
trosglwyddiad llyfn o wasanaethau dan do Hamdden Celtic i'r cyngor erbyn 31
Mawrth 2024. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Mewn cytundeb â Chadeirydd y Pwyllgor Craffu
Addysg, Sgiliau a Lles, rhoddir y penderfyniad ar waith yn syth. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |