Agenda a chofnodion drafft

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. N Jenkins yn Gadeirydd y cyfarfod.

2.

Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cyng. Jenkins bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 116 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Medi 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 429 KB

Cofnodion:

Bod Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk erbyn canol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.  Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd.

 

7.

ORIAU AGOR AR GYFER Y NADOLIG A'R FLWYDDYN NEWYDD (LLYFRGELLOEDD, CANOLFANNAU HAMDDEN ETC.) pdf eicon PDF 199 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr oriau agor a chau ar gyfer y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, ar gyfer llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, Parc Gwledig Margam, canolfannau hamdden a phyllau nofio yn cael eu cymeradwyo, fel y nodwyd yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Fel bod cyfleusterau'r cyngor ar gael i'r cyhoedd lle mae galw amdanynt i fod ar agor, ac i reolwyr wneud trefniadau priodol gyda staff rheng flaen.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

8.

Ymgynghoriad Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol (yn destun ymgynghoriad) pdf eicon PDF 577 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, bod y Polisi Derbyn i Ysgolion Cymunedol 2024/2025, yn cael ei gymeradwyo i ymgynghori arno.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Mae angen ymgynghoriad â chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol h.y. ysgolion ffydd, a phob awdurdod lleol cyfagos. Yn ogystal, bydd y cyngor yn ymgynghori ar y Fforwm Derbyniadau, a bydd y broses ymgynghori'n dod i ben ar 30 Rhagfyr 2022.

 

9.

Strategaeth Cyfranogiad a Chynnwys (Caniatâd i Ymgynghori) pdf eicon PDF 712 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, bod Atodiad 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, sef y Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu, yn cael ei gymeradwyo i ymgynghori arno.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn cwblhau a gwreiddio'r Strategaeth Cyfranogiad ac Ymgysylltu yn dilyn yr ymgynghoriad.

 

Rhoi ar waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Cynhelir yr ymgynghoriad â'r holl randdeiliaid, gan gynnwys ysgolion, y trydydd sector, gwasanaethau partner, asiantaethau, rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc.

 

10.

Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Enwi Ysgol Cyfrwng Cymraeg Newydd pdf eicon PDF 207 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

1.   Bod yr offeryn llywodraethu, a atodir fel atodiad A, o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei gymeradwyo, gyda dyddiad ymgorffori 1 Mawrth 2023, gan greu corff llywodraethu parhaol.

 

2.   Bod yr ysgol yn cael ei henwi'n Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ar gyfer sefydlu'r ysgol newydd, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles.

 

Rhoi ar waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

11.

Rhaglen Cymorth Bugeiliol pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

1.   Bod y Rhaglen Cymorth Fugeiliol newydd a'r amserlen lai yn cael eu cymeradwyo.

2.   Bod yr arweiniad darparwyr amgen yn cael ei fabwysiadu.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bydd y rhaglen a'r arweiniad darparwyr amgen yn cryfhau trefniadau a phrosesau monitro ymhellach ar gyfer dysgwyr sydd mewn peryg o ymddieithriad.

 

Rhoi ar waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori â'r rhanddeiliaid perthnasol.

 

12.

ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2020-21 pdf eicon PDF 210 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

1.   Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: bod yr Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth Cymru yn cael ei gymeradwyo.

 

2.   Bod cynnwys adroddiad Llyfrgelloedd Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei nodi.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn i'r cyngor gydymffurfio â'i ddyletswydd statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot.

 

Rhoi ar waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.

 

13.

Gwasanaethau archif Gorllewin Morgannwg pdf eicon PDF 520 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio integredig:

 

1.   bod Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg yn cael ei adleoli o'r Ganolfan Ddinesig, Abertawe i hen siop British Home Stores a WHAT!

 

2.   nodir bod y cyfrifoldebau rheoli'n trosglwyddo o Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid.

 

3.   bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar a chwblhau Gweithred Amrywio, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ar 11 Ebrill 2014, ac yn rhoi argymhellion 1 a 2 ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot gael mynediad at wasanaeth archifau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion) 1972.

 

Rhoi ar waith:

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref 2022.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad mewn perthynas â'r adroddiad hwn. Mae trafodaethau â Chyngor Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn mynd rhagddynt fel rhan o'r gwaith datblygu.

 

14.

Cwricwlwm i Gymru pdf eicon PDF 344 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Nodir yr adroddiad.

 

15.

Dangosyddion Monitro Perfformiad Chwarter 1 pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Nodir yr adroddiad.

 

16.

Diweddariad am y Gwasanaeth Ieuenctid pdf eicon PDF 998 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Nodir yr adroddiad.

 

17.

Strategaeth Arweinyddiaeth pdf eicon PDF 343 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Nodir yr adroddiad.

 

18.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys