Lleoliad: Microsoft Teams
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd y byddai'r Cynghorydd Cen Phillips yn cael
ei benodi fel Cadeirydd y cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Derbyniwyd datganiad oddi wrth y Cyng. Nia Jenkins,
a roddodd gwybod i'r aelodau ei bod yn llywodraethwr yn Ysgol Gynradd yr
Alltwen. Gadawodd y Cyng. Jenkins y cyfarfod yn ystod
trafodaeth yr aelodau ynghylch penodiad yn Ysgol Gynradd yr Alltwen. Ni gymerodd
y Cyng. Jenkins ran yn y bleidlais hon, a dychwelodd i'r cyfarfod pan gwnaed y
penderfyniad. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 20 KB Cofnodion: Tynnwyd cofnodion y cyfarfod blaenorol o'r cyfarfod
a rhoddwyd gwybod y byddant yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod nesaf Bwrdd
Addysg y Cabinet. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Rhaid cyflwyno cwestiynau yn
ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
dim hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Rhaid i gwestiynau
ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Bydd cwestiynau'n cael eu hateb mewn
cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau gan y
cyhoedd. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Penodi llywodraethwyr ysgol PDF 357 KB Cofnodion: Penderfyniad: PENODI A CHAEL GWARED AR GYNRYCHIOLWYR LLYWODRAETHWYR ALl YN YR YSGOLION
CANLYNOL:
Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r Awdurdod i gyfrannu at lywodraethu ysgolion
yn effeithiol drwy gynrychiolaeth ar gyrff llywodraethu ysgolion. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Rhoddwyd y penderfyniad ar waith yn dilyn y cyfnod
galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf,
2023. Ymgynghoriad: Nid oedd angen cynnal ymgynghoriad allanol, er y
cynhaliwyd ymgynghoriad gydag aelodau'r ward perthnasol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |