Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 25ain Mai, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cyng. Nia Jenkins yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Datganwyd buddiannau gan y Cyng. N Jenkins. Datganodd y Cyng. Jenkins ei bod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Maes y Coed, Castell-nedd.

 

Ystyriwyd nad oedd y buddiant yn un rhagfarnol, a oedd yn caniatáu i'r Cyng. Jenkins i aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 21 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd y Cabinet Addysg, Sgiliau a Lles, a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2023, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

 

6.

Cefnogaeth Cymraeg 2il Iaith pdf eicon PDF 548 KB

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i'r aelodau.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi fel mater er gwybodaeth.

 

7.

Rhaglen Seren pdf eicon PDF 713 KB

Cofnodion:

Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i'r aelodau.

 

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi fel mater er gwybodaeth.

 

8.

Cyllideb Cludiant Personol pdf eicon PDF 363 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad a ddosbarthwyd, gydag atodiadau rhestredig yn cynnwys yr asesiad effaith integredig, mae'r Aelodau'n cymeradwyo'r canlynol:

 

     I.        Cyflwyno Cyllideb Teithio Personol fel dull ychwanegol o gymorth teithio dan Bolisi Teithio o'r Cartref i'r Ysgol 2017 y cyngor.

   II.        Bod y Gyllideb Teithio Personol ar gael i'w defnyddio yn y flwyddyn academaidd 2023/2024.

 III.        Bod y Gyllideb Teithio Personol yn parhau i gynnwys cynigion lwfans milltiroedd sydd eisoes yn bodoli, gan ychwanegu,

a.   Prynu cerdyn teithio ar gyfer cludiant cyhoeddus.

b.   Talu person cyfrifol y bernir ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i helpu'r plentyn i ddefnyddio cludiant cyhoeddus.

c.   Talu person cyfrifol yr ystyrir ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i gerdded neu feicio i'r ysgol gyda'r plentyn.

d.   Talu person cyfrifol yr ystyrir ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i yrru'r plentyn i'r ysgol.

e.   Talu am danwydd.

f.     Talu i deithio mewn tacsi.

g.   Talu gwarchodwr plant.

h.   Trefnu i deithio i gyfeiriadau cartrefi ar wahân lle mae gwarchodaeth ar y cyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bod y Gwasanaeth Cludiant Addysg, ynghyd ag adran Cludiant i Deithwyr Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn parhau i reoli pwysau cyllidebol, sy'n cynnwys opsiynau amgen sydd ar gael drwy'r Gyllideb Teithio Personol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Gweithredir y penderfyniad yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 29 Ebrill 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oedd angen unrhyw ymgynghoriad.

 

 

9.

Mwy o Leoedd Cynlluniedig - Caniatâd i ymgynghori pdf eicon PDF 727 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig o'r pecyn agenda a ddosbarthwyd, bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r canlynol:

 

     I.        Ymgynghoriad i gynnig darpariaeth arbenigol ag 16 lle ar gyfer disgyblion oedran cynradd ag anhwylder ar y sbectrwm awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan.

 

   II.        Ymgynghoriad i gynnig cynnydd yn nifer y lleoedd i ddisgyblion yn Ysgol y Coed o 90 i 115.

 

 III.        Cydymffurfio â'r gofynion ymgynghori ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cydymffurfio â gofynion ymgynghori ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a hyrwyddo safonau addysgol uchel o botensial plant ysgol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Gweithredir y penderfyniad yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 29 Ebrill 2023.

 

Ymgynghoriad:

Mae angen ymgynghori o dan Raglen Strategol Gwella Ysgolion y cyngor. Yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau'r Cabinet, bydd y cyfnod ymgynghori'n dechrau ar 6 Mehefin ac yn dod i ben ar 18 Mehefin 2023.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.