Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Microsoft Teams

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cyng. J Hurley fel Cadeirydd y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Amser Cwestiynau gan y Cyhoedd

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

 

5.

Penodi llywodraethwyr ysgol pdf eicon PDF 359 KB

Cofnodion:

Rhoddwyd trosolwg o bob swydd wag a chrynodeb byr o'u cefndir i bob ymgeisydd.

 

Penderfyniadau:

Penodi Cynrychiolwyr Llywodraethwyr yr ALl i swyddi gwag a swyddi a fydd yn codi hyd at, ac yn cynnwys diwedd tymor yr haf 2022/2023.

 

Ysgol Gynradd Abbey

Penodi'r Cyng. Mike Harvey o 1 Medi 2023.

 

Ysgol Gynradd Blaenhonddan

Penodi Mr. Paul Gwilliam, yn effeithiol ar unwaith.

 

Ysgol Gynradd Central

Penodi Mr. Mike Thomas o 1 Medi 2023

Penodi Mrs. Suzanne Amos o 1 Medi 2023

 

Ysgol Gynradd Crymlyn

Penodi Mr. Howard Davies o 1 Medi 2023. Nodwyd gwall teipio yn yr adroddiad, sy'n dweud Jones yn lle Davies.

 

Ysgol Gyfun Dŵr-y-Felin

Penodi Mrs. Gemma Addis-Fuller, yn effeithiol ar unwaith.

 

Ysgol Gynradd Gatholig San Joseph

Penodi Mrs. Jessica O'Callaghan, yn effeithiol ar unwaith.

 

YGG Castell Nedd

Penodi'r Cyng. Alan Lockyer o 1 Medi 2023.

 

YGG Cwmnedd

Penodi Mr. David Trefor Jones, yn effeithiol ar unwaith.

 

YGG Cwmllynfell

Penodi Mrs. Nia Cole-Jones, yn effeithiol ar unwaith.

 

YGG Rhosafan,

Penodi Mrs. Laura Hutchings, yn effeithiol ar unwaith.

Penodi Mrs. Claire Abraham, yn effeithiol ar unwaith.

Cytunodd yr Aelodau i enwebu Mrs. Lianne James ar gyfer y swydd Llywodraethwyr Cymunedol. 

 

YGG Tyle’r Ynn

Penodi'r Cyng. Helen Ceri Clarke o 1 Medi 2023.

 

Ysgol Bae Baglan

Penodi Mr. Roger Williams, yn effeithiol ar unwaith.

 

Ysgol Maes y Coed                    

Penodi'r Cyng. Nia Jenkins, yn effeithiol ar unwaith.

 

Cytunodd yr Aelodau i ohirio'r swyddi gwag canlynol oherwydd ni dderbyniwyd unrhyw geisiadau hyd yn hyn.

 

Ysgol Gynradd Abbey x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Baglan x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Coedffranc x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Creunant x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Cwmnedd x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Eastern x 1 swydd wag

Ysgol Gynradd Tonnau x 2 swydd wag

YGG Blaendulais x 1 swydd wag

YGG Pontardawe x 1 swydd wag

 

 

 

 

 

 

6.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Hysbyswyd y Cadeirydd y derbyniwyd cais hwyr gan y Cyng. Dan Thomas. Gyda chaniatâd y Cadeirydd, derbyniwyd y cais.

 

Penderfyniad:

Penodi'r Cyng. Dan Thomas fel llywodraethwr Ysgol Gynradd y Gnoll o 1 Medi 2023, a chael gwared ar swydd Mrs. Lesley Matthews.