Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 28ain Medi, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd N. Jenkins yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cynghorydd N. Jenkins bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 15 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol, a gynhaliwyd ar 6 ac 18 Medi fel cofnod gwir a chywir.

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2023/24 pdf eicon PDF 433 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith ar gyfer 23/24.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Mwy o Leoedd Cynlluniedig Ysgol Gynradd Blaenhonddan - Nôl o'r Ymgynghoriad pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, a'r ymatebion i'r ymgynghoriad, yn unol ag Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, CYMERADWYODD yr Aelodau gyhoeddiad statudol y cynnig i sefydlu darpariaeth arbenigol ar gyfer disgyblion oed cynradd ag Anhwylderau yn y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan. 

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cydymffurfio â'r gofynion cyhoeddi ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Cod Trefniadaeth Ysgolion a'r ddeddfwriaeth gysylltiedig. Galluogi'r cyngor i hyrwyddo safonau addysgol uchel a chyflawni potensial pob plentyn.  Galluogi'r cyngor i gyflawni ei ddyletswydd i sicrhau addysg effeithlon yn ei ardal.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 2 Hydref 2023.

 

Ymgynghoriad:

Dechreuodd yr ymgynghoriad ar y cynnig hwn ar 6 Mehefin, 2023 a gwahoddwyd sylwadau tan 18 Gorffennaf 2023. E-bostiwyd y ddogfen ymgynghori at yr ymgynghoreion a nodwyd yn y Côd Trefniadaeth Ysgolion, ac yn unol â'r arfer presennol, roedd Ysgol Gynradd Blaenhonddan wedi gofalu am ddosbarthu'r ddogfen i rieni, disgyblion a staff.

 

Derbyniwyd 1 ymateb ysgrifenedig a fynegodd gefnogaeth i'r cynnig. Mae'r ymateb ysgrifenedig i'r ymgynghoriad ar gael i Aelodau ei ddarllen fel atodiad i'r ddogfen Adroddiad Ymgynghori.

 

 

 

 

8.

Polisi Gorfodi Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach pdf eicon PDF 616 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, a'r atodiadau a gylchredwyd  penderfynodd yr Aelodau GYMERADWYO'R Polisi Iechyd yr Amgylchedd a Safonau Masnach a oedd wedi'i ddiweddaru.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Sicrhau bod camau gorfodi cyson yn cael eu cymryd, a bod egwyddorion y Côd Rheoleiddwyr a chanllawiau cyhoeddedig eraill yn cael eu dilyn.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 2 Hydref 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

 

 

9.

Deddfwriaeth Safonau Masnach - Newidiadau i Drefniadau Dirprwyedig Swyddogion pdf eicon PDF 220 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, penderfynodd yr Aelodau GYMERADWYO'R adroddiad, gyda'r diwygiadau canlynol i'r trefniadau dirprwyedig mewn perthynas â'r Gwasanaeth Safonau Masnach, Diogelwch Bwyd ac Iechyd.

 

a)   Ychwanegu'r Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 at y rhestr o ddeddfwriaeth a ddirprwyir i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd, Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd a'r Rheolwr Safonau Masnach, Diogelwch Bwyd ac Iechyd a nodir yn Atodlen 1 o Baragraff 20 o adran Pwerau Dirprwyedig Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio o'r Cyfansoddiad.

b)   Dirprwyo awdurdod i'r swyddogion hynny yn [a] uchod i awdurdodi swyddogion unigol, cymwys a chymwysedig i weithredu o dan y ddeddfwriaeth honno.

c)    Dirprwyo'r awdurdod i'r swyddogion hynny yn [a] uchod awdurdod i gychwyn achos cyfreithiol o dan y darpariaethau a gynhwysir yn Neddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhent Tir) 2022 a Deddf Plant a Theuluoedd 2014 ar y cyd â Phennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd [gan gynnwys llofnodi unrhyw rybuddiadau'n unol â Chanllawiau'r Swyddfa Gartref] a, lle bo troseddwr honedig yn cael ei gadw yn y ddalfa mewn perthynas â throsedd, cychwyn achos drwy gyhuddiad.

d)   Bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol yn cael ei awdurdodi i geisio diwygiad i gyfansoddiad y cyngor maes o lawr er mwyn adlewyrchu'r newidiadau uchod i drefniadau dirprwyo'r awdurdod.

Rheswm dros y Penderfyniad:

Galluogi'r ddeddfwriaeth newydd i gael ei roi ar waith yn gyflym ac yn effeithlon. Mae'r gwasanaeth Safonau Masnach, Diogelwch Bwyd ac Iechyd, sydd o fewn y Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd ehangach, yn gyfrifol am orfodi deddfwriaeth Safonau Masnach.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 2 Hydref 2023.

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

 

 

 

 

 

 

10.

Diweddariadau i'r cynllun dirprwyo yn dilyn ailstrwythuro o fewn y Gwasanaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd pdf eicon PDF 633 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig ac Atodiad 1 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, penderfynodd yr Aelodau fod yr argymhelliad i greu cofnod o ba swyddogion sy'n derbyn pwerau dirprwyedig i gymryd camau gorfodi yn cael ei gymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

I sicrhau bod cofnod diweddaredig o'r swyddogion hynny sy'n derbyn pwerau dirprwyedig i gymryd camau gorfodi ar waith.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 2 Hydref 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

 

 

11.

Cytundeb Partneriaeth Ysgolion pdf eicon PDF 384 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

12.

Diweddariad ar Waharddiadau Ysgol pdf eicon PDF 500 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

 

13.

Asesiad Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2021/2022 pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

14.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 1af 2023 2024 - Y Gyfarwyddiaeth Addysg pdf eicon PDF 325 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

15.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 1af 2023 2024 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.

 

16.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.