Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 6ed Gorffennaf, 2023 2.05 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd mai'r Cyng. J Hurley fyddai Cadeirydd y cyfarfod. Cynigiwyd y penderfyniad gan y Cyng. N Jenkins a'i eilio gan y Cyng. C Phillips.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 119 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cyfrif gwir a chywir.

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

Bod Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet ar gyfer 2022/2023 yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Hwb Cyflogadwyedd yng nghanolfan siopa Aberafan pdf eicon PDF 317 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r atodiad a ddosbarthwyd, fod yr Aelodau'n cymeradwyo ac yn cefnogi:

 

  1. Ehangu'r brydles ar gyfer Hwb Cyfleoedd CNPT yng Nghanolfan Siopa Aberafan am 12 mis pellach
  2. Y costau a ariannwyd drwy gyllideb Cymunedau am Waith a Mwy Llywodraeth Cymru

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Darparu cefnogaeth cyflogadwyedd a lles i gymuned Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 10 Gorffennaf 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oedd angen unrhyw ymgynghoriad allanol.

 

8.

Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau pdf eicon PDF 124 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r atodiad a ddosbarthwyd, fod yr Aelodau'n cymeradwyo:

 

1.   Cyflwyno'r dyddiadau tymhorau ysgol arfaethedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/2026 i Weinidogion Cymru.

2.   Cydymffurfio â chyflwyno hyn erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst 2023.

3.   Cydymffurfio â'r dyletswyddau statudol a osodir gan Weinidogion Cymru.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion arbennig a gynhelir ar gyfer blwyddyn academaidd  2025/2026.

Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 10 Gorffennaf 2023.

 

Ymgynghoriad:

Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ni dderbyniwyd sylwadau gwrthwynebus. 

 

9.

Dangosyddion Perfformiad Chwarter 4 pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r atodiadau, caiff yr adroddiad ei nodi ar gyfer monitro.

 

10.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Nid oedd dim.