Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i
benodi'r Cynghorydd J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y
Cynghorydd Hurley bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol Cofnodion: Bod
cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar 27 Hydref 2022 yn cael eu
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 410 KB Cofnodion: Bod
Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r
cwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni
dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith
Integredig, 1.
cymeradwyo cam nesaf y buddsoddiad ar gyfer prosiectau
dysgu parhaus, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. 2.
Cymeradwyo awdurdodi Swyddogion i archwilio'r cyfleoedd sy'n
cael eu hariannu gan grantiau ac sydd ar gael o fewn y rhaglen gyda Swyddogion
Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau'r opsiwn mwyaf buddiol ar gyfer y cyngor. Rheswm dros y Penderfyniad: I gael gafael ar gyllid grant Rhaglen Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau, a fydd yn dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid oedd unrhyw
'alwadau i mewn' am yr eitem hon. Ymgynghoriad: Wrth i'r
rhaglen ddatblygu, bydd pob prosiect yn destun ymgynghoriad gyda chymunedau'r
ysgol priodol. Os bydd prosiect yn golygu cau ysgol, cynhelir ymgynghoriad
ffurfiol yn unol â gofynion deddfwriaethol. |
|
Adroddiad Arfarnu Opsiynau Cefn Coed PDF 104 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniadau: Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith
Integredig, 1.
cymeradwyo'r argymhellion allweddol canlynol mewn
egwyddor ac yn amodol ar ffrydiau cyllido sydd ar gael: ·
Maint y costau sydd eu hangen ar gyfer atgyweiriadau
hanfodol i alluogi'r amgueddfa i ailagor yn ddiogel i'r cyhoedd. ·
Defnyddiau amgen posib ar gyfer y safle a'r adeiladau. ·
Archwiliad o rôl a chyfraniad Amgueddfa Glofa Cefn Coed
fel safle treftadaeth a chyrchfan i dwristiaid.
·
Adolygiad o gyfleoedd adfywio presennol ac yn y dyfodol
ar gyfer Cefn Coed. ·
Ffynonellau incwm amgen trwy grantiau a chyllid allanol. ·
Cyfleoedd i greu incwm. 2.
Cymeradwyo awdurdodi Swyddogion i archwilio'r cyfleoedd
sy'n cael eu hariannu gan grantiau ac sydd ar gael o fewn y rhaglen gyda
Swyddogion Llywodraeth Cymru, ac i sicrhau'r opsiwn mwyaf buddiol ar gyfer y
cyngor. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r awdurdod i gynllunio ac archwilio opsiynau yn
y dyfodol ar gyfer datblygu safle amgueddfa Cefn Coed. Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith: Caiff y penderfyniadau eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod
galw i mewn o dridiau, a fydd yn dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid
oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr eitem hon. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd ymgynghoriad â rhanddeiliaid mewnol ac
allanol. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi
sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, cymeradwyo datblygiad a sefydlu
Partneriaeth Rhanbarthol newydd ar gyfer Chwaraeon a Gweithgaredd Corfforol yng
ngorllewin Cymru, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros
y Penderfyniad: Parhau i
weithio mewn partneriaeth â Chwaraeon Cymru, a sicrhau cyllid ar gyfer y
Rhaglen Pobl Ifanc Actif. Sicrhau bod y gefnogaeth a’r cyfleoedd cywir ar waith
ar gyfer y rheini nad ydynt yn gorfforol heini yn rheolaidd - gyda ffocws clir
ar ddileu rhwystrau ar gyfer y rheini sydd angen cymorth fwyaf. Rhoi'r
Penderfyniad ar Waith: Caiff y
penderfyniad ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau, a fydd yn
dod i ben ar 28 Tachwedd 2022 am 9.00am. Nid oedd unrhyw 'alwadau i mewn' am yr
eitem hon. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd). Cofnodion: Ni
dderbyniwyd unrhyw eitemau brys. |