Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 13eg Ebrill, 2023 2.01 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Nia Jenkins yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 21 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles ar 16 a 24 Mawrth 2023 fel cofnodion cywir. 

 

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 395 KB

Cofnodion:

Nodir Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet.

 

Atgoffwyd Swyddogion bod y manylion a nodwyd yn y Blaenraglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig bresennol, sef 2022/23. Bydd Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu er mwyn trafod eitemau ar gyfer y flwyddyn 2023/24 yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai 2023. 

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgol (Caniatâd i Ymgynghori) pdf eicon PDF 123 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i Atodiad A yr adroddiad a ddosbarthwyd, penderfynwyd rhoi caniatâd i ymgynghori o ran dyddiadau tymor ysgol arfaethedig 2025/2026.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau statudol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill 2023.

 

Ymgynghoriad:

Ymgynghorir â chyrff llywodraethu, cynrychiolwyr undeb llafur ac awdurdodau derbyn, gan gynnwys y rheini yn y maes perthnasol.

 

 

8.

Cynllun elusennol ar gyfer gwaredu enillion gwerthu hen safle Ysgol Gyfun Glanafan pdf eicon PDF 417 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad:

 

1.    Rhoddir cymeradwyaeth i gais a gyflwynwyd i'r Comisiwn Elusennau ar gyfer cynllun elusennol ar gyfer gwario'r arian o werthiant hen dir Ysgol Gyfun Glan Afan.

2.    Rhoddir cymeradwyaeth i'r arian gael ei wario ar gynllun sy'n cefnogi dysgu ac addysgu yn yr 21ain ganrif.

3.    Rhoddir cymeradwyaeth i'r gronfa fod yn rhydd o gyfyngiadau o ran gwariant unrhyw gyfalaf perthnasol, a benderfynwyd dan Adran 282 Deddf Elusennau 2011.

4.    Rhoddir cymeradwyaeth i fuddsoddi arian y gwerthiant o dan Adran 290 Deddf Elusennau 2011.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i ryddhau'r arian o ganlyniad i werthiant hen safle Ysgol Gyfun Glan Afan.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Rhoddir y penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill 2023.

 

Ymgynghoriad:

Yn dilyn cymeradwyaeth, efallai y bydd y Comisiwn Elusennau'n gofyn am gynnal ymgynghoriad. 

 

9.

Addysg Ddewisol Gartref pdf eicon PDF 412 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

10.

Cydraddoldeb a Lle Diogel i Ddysgu pdf eicon PDF 367 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

11.

Adroddiad Urddas y Cyfnod pdf eicon PDF 309 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

12.

Diweddariad NEET pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw eitemau brys.