Agenda a Chofnodion

Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet - Dydd Iau, 16eg Mawrth, 2023 2.00 pm

Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber

Cyswllt: Sarah McCluskie 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Jeremy Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y datganiadau o fuddiannau canlynol.

 

Y Cyng. N Jenkins ar gyfer eitem 7 ar yr agenda.

 

Paul Walker ar gyfer eitem breifat 14 ar yr agenda

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 288 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod cofnodion blaenorol Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet, a gynhaliwyd ar 25 Ionawr ac 8 Chwefror, yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir

5.

Blaenraglen Waith 2022/23 pdf eicon PDF 405 KB

Cofnodion:

Bod y Flaenraglen Waith 2022/23 ar gyfer Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles y Cabinet yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni chafwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Derbyniadau i Ysgolion (Canlyniadau Ymgynghori) pdf eicon PDF 581 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Yn dilyn ymgynghoriad a chan roi sylw dyledus i atodiad A, bod Aelodau'n cymeradwyo'r trefniadau derbyn ar gyfer Ysgolion Cymunedol ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/2025 fel a fanylwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 19 Ionawr 2023.

 

Ymgynghoriad:

Roedd yr eitem hon yn destun ymgynghoriad gyda phenaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol ac ysgolion a gynhelir yn wirfoddol o fewn y Fwrdeistref Sirol a'r  

8.

Perfformiad Chwarter 3 pdf eicon PDF 306 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion monitro.  

9.

Diweddariad ar Brydau Ysgol Am Ddim pdf eicon PDF 165 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod cynnwys yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth

10.

Dysgu Proffesiynol pdf eicon PDF 592 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ol disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf

Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Nid oedd unrhyw eitemau brys.

 

12.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfynu gwahardd y cyhoedd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

 

13.

Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2025

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i Atodiad 1, 2 a 3 yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd,

 

1.    bod Aelodau'n cymeradwyo'r cynigion a gyflwynwyd gan yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol 2025 ym Mharc Margam.

 

2.    Bod Aelodau'n cymeradwyo'r effaith ariannol i'r cyngor o £80,000, a roddir o’r neilltu o fewn Cynllun Ariannol Tymor Canolig 25/26.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bydd Castell-nedd Port Talbot a'i breswylwyr yn elwa o gynnal digwyddiad diwylliannol mawr.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Sul 20 Ionawr 2023.

 

Ymgynghoriad:

Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem hon.

 

 

14.

Trefniadau arweinyddiaeth - Celtic Leisure - Adroddiad preifat

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig,

 

1.    bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Cyfarwyddwr Addysg, Hamdden a Dysgu Gydol Oes, mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd, ar yr amodau a thelerau y cytunwyd arnynt ar gyfer cytundeb secondiad rhwng y cyngor a Hamdden Celtic.

 

2.    Bod Aelodau'n cymeradwyo'r cymorth gyda chefnogaeth arweinyddiaeth nes y trosglwyddir gwasanaethau i'r cyngor, erbyn 1 Ebrill 2024 fan bellaf.

 

3.    Bod Aelodau'n cymeradwyo'r cais gan Hamdden Celtic i gael gwared ar swydd eu Prif Weithredwr o 31 Mawrth 2023.

 

4.    Bod costau'r swydd y cytunir eu bod yn cael eu colli yn cael eu talu’n unol ag amodau'r indemniad a roddwyd gan y cyngor i Hamdden Celtic ar 21 Hydref 2020.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bydd arweinyddiaeth addas ar waith i sicrhau trosglwyddiad llyfn o wasanaethau dan do Hamdden Celtic i'r cyngor erbyn 31 Mawrth 2024.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

Mewn cytundeb â Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg, Sgiliau a Lles, rhoddir y penderfyniad ar waith yn syth.

 

Ymgynghoriad:

Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol.