Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd
J Hurley yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd
y Cynghorydd Hurley bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni
ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 221 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 28 Medi 2023 fel cofnod gwir a chywir |
|
Blaenraglen Waith 2022 2023 PDF 414 KB Cofnodion: Penderfynwyd: Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael
ei nodi
|
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Amserau Agor dros y Nadolig/Flwyddyn Newydd (Llyfrgelloedd, Canolfannau Hamdden etc.) PDF 201 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Cymeradwyo'r amserau agor dros y Nadolig a'r
Flwyddyn Newydd 2023 ar gyfer llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol,
Parc Gwledig Margam, canolfannau hamdden a phyllau nofio, yn unol ag Atodiad 1
a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27
Tachwedd 2023. Ymgynghoriad: Nid oedd unrhyw ofyniad i gynnal ymgynghoriad
allanol |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfynwyd: Ar ôl rhoi sylw dyledus i Atodiad A y pecyn
adroddiad a ddosbarthwyd, y dylid rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori ar Bolisi
Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol 2023/2026 Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27
Tachwedd 2023. Ymgynghoriad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad a ddosbarthwyd,
cynhaliwyd ymgynghoriad mewn perthynas â'r canlynol: · Cyrff llywodraethu ysgolion cymunedol · Cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol (h.y., ysgolion
ffydd) · Pob awdurdod lleol cyfagos. |
|
Lleoedd Cynlluniedig Ychwanegol, Ysgol Gynradd Blaenhonddan - Penderfyniad Terfynol PDF 960 KB Cofnodion: Penderfynwyd: · Rhoi cymeradwyaeth i sefydlu darpariaeth arbenigol i ddisgyblion oed
cynradd a chanddynt Anhwylder y Sbectrwm Awtistig yn Ysgol Gynradd
Blaenhonddan. · Bod y ddarpariaeth yn cael ei rheoli gan yr ysgol o dan drefniadau
llywodraethu ysgolion. · Bod y ddarpariaeth o fudd i ddisgyblion sy'n cael eu haddysgu gan staff
arbenigol ac yn lleihau'r pwysau ar staff presennol i fynd i'r afael â gofynion
disgyblion ag anghenion mwy cymhleth. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 27
Tachwedd 2023. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd ymgynghoriad ffurfiol yn unol â Chôd
Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru, Tachwedd 2018. Hysbyswyd yr aelodau o ganlyniad yr
ymgynghoriad, ynghyd â'r argymhellion ar 28 Medi yng nghyfarfod Bwrdd Addysg,
Sgiliau a Lles y Cabinet. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Rhaglen Cyflogadwyedd a Sgiliau PDF 327 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Y Gyfarwyddiaeth Addysg PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Dangosyddion Perfformiad Chwarter 2 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd PDF 315 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfynwyd: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn
Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |