Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. Nia Jenkins yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Datganwyd buddiannau gan y Cyng. N Jenkins.
Datganodd y Cyng. Jenkins ei bod yn Llywodraethwr Ysgol yn Ysgol Gynradd Maes y
Coed, Castell-nedd. Ystyriwyd nad oedd y buddiant yn un rhagfarnol, a
oedd yn caniatáu i'r Cyng. Jenkins i aros a chymryd rhan yn y cyfarfod.
|
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 21 KB Cofnodion: Penderfynwyd bod cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd
y Cabinet Addysg, Sgiliau a Lles, a gynhaliwyd ar 13 Ebrill 2023, yn cael eu
cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn
hwyrach na chanol dydd ar
y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r
cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau
o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Cefnogaeth Cymraeg 2il Iaith PDF 548 KB Cofnodion: Darparwyd
trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i'r aelodau. Penderfyniad: Bod yr adroddiad
yn cael ei nodi fel mater er gwybodaeth. |
|
Cofnodion: Darparwyd trosolwg o'r adroddiad a ddosbarthwyd i'r
aelodau. Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi fel mater er
gwybodaeth. |
|
Cyllideb Cludiant Personol PDF 363 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad a
ddosbarthwyd, gydag atodiadau rhestredig yn cynnwys yr asesiad effaith
integredig, mae'r Aelodau'n cymeradwyo'r canlynol:
I.
Cyflwyno Cyllideb Teithio
Personol fel dull ychwanegol o gymorth teithio dan Bolisi Teithio o'r Cartref
i'r Ysgol 2017 y cyngor.
II.
Bod y Gyllideb Teithio
Personol ar gael i'w defnyddio yn y flwyddyn academaidd 2023/2024. III.
Bod y Gyllideb Teithio
Personol yn parhau i gynnwys cynigion lwfans milltiroedd sydd eisoes yn bodoli,
gan ychwanegu, a.
Prynu cerdyn teithio ar gyfer
cludiant cyhoeddus. b.
Talu person cyfrifol y bernir
ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i helpu'r plentyn i ddefnyddio cludiant
cyhoeddus. c.
Talu person cyfrifol yr
ystyrir ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i gerdded neu feicio i'r ysgol
gyda'r plentyn. d.
Talu person cyfrifol yr
ystyrir ei fod yn briodol gan y rhiant/gofalwr i yrru'r plentyn i'r ysgol. e.
Talu am danwydd. f.
Talu i deithio mewn tacsi. g.
Talu gwarchodwr plant. h.
Trefnu i deithio i gyfeiriadau
cartrefi ar wahân lle mae gwarchodaeth ar y cyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Bod y Gwasanaeth Cludiant Addysg, ynghyd ag adran
Cludiant i Deithwyr Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd yn parhau i reoli pwysau
cyllidebol, sy'n cynnwys opsiynau amgen sydd ar gael drwy'r Gyllideb Teithio
Personol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Gweithredir y
penderfyniad yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am
ddydd Llun 29 Ebrill 2023. Ymgynghoriad: Nid oedd angen unrhyw ymgynghoriad. |
|
Mwy o Leoedd Cynlluniedig - Caniatâd i ymgynghori PDF 727 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith
integredig o'r pecyn agenda a ddosbarthwyd, bod yr Aelodau'n cymeradwyo'r
canlynol:
I.
Ymgynghoriad i gynnig
darpariaeth arbenigol ag 16 lle ar gyfer disgyblion oedran cynradd ag anhwylder
ar y sbectrwm awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Blaenhonddan.
II.
Ymgynghoriad i gynnig cynnydd
yn nifer y lleoedd i ddisgyblion yn Ysgol y Coed o 90 i 115. III.
Cydymffurfio â'r gofynion
ymgynghori ffurfiol a osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion. Rheswm dros y Penderfyniad: Cydymffurfio â gofynion ymgynghori ffurfiol a
osodir ar y cyngor gan y Côd Trefniadaeth Ysgolion a hyrwyddo safonau addysgol
uchel o botensial plant ysgol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Gweithredir y
penderfyniad yn dilyn y cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am
ddydd Llun 29 Ebrill 2023. Ymgynghoriad: Mae angen ymgynghori o dan Raglen Strategol Gwella
Ysgolion y cyngor. Yn dilyn cymeradwyaeth Aelodau'r Cabinet, bydd y cyfnod
ymgynghori'n dechrau ar 6 Mehefin ac yn dod i ben ar 18 Mehefin 2023.
|
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus
neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn
y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |