Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. J Hurley yn Gadeirydd ar
gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cyng. Hurley bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw ddatganiadau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 113 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd
ar 1 Chwefror 2024 fel cofnod gwir a chywir |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 402 KB Cofnodion: Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/24 yn cael ei
nodi |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y
diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar
yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Strategaeth Dreftadaeth (yn ôl o ymgynghoriad) PDF 253 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig a'r atodiadau, mabwysiadu'r Strategaeth Treftadaeth yn ffurfiol. Rheswm dros y Penderfyniad: Diogelu'r Strategaeth Treftadaeth ar gyfer CNPT a
galluogi cyflawni Amcan Lles 3. Er mwyn sicrhau y gall cenedlaethau'r dyfodol
fwynhau ein hamgylchedd, ein diwylliant a'n treftadaeth leol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth
2024. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd
ymarfer ymgynghori helaeth ar gyfer y Strategaeth Treftadaeth. Dangosir
methodoleg a chanlyniadau'r ymgynghoriad yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth
Treftadaeth. Cynhaliwyd
gweithdai wyneb yn wyneb gyda rhanddeiliaid, grwpiau treftadaeth gwirfoddol ac
arolygon ar-lein yn gofyn am adborth ar sut mae'r cyhoedd yn teimlo am y
weledigaeth, yr amcanion a'r camau gweithredu i werthfawrogi a gwarchod eu
treftadaeth a'r effaith gadarnhaol y mae'n ei chael ar eu lles a chynaladwyedd
eu grwpiau cymunedol. Cynhaliwyd ymgynghoriad ar y Strategaeth Treftadaeth rhwng 9 Hydref a 5 Tachwedd 2023. Mae canlyniadau'r broses
ymgynghori yn cael eu hadrodd i'r Cabinet yn Adroddiad Ymgynghori'r Strategaeth
Dreftadaeth. Mae canfyddiadau'r adroddiad wedi llywio'r Strategaeth a'r Cynllun
Gweithredu. |
|
Cynllun Plant a Phobl Ifanc - Caniatâd i ymgynghori PDF 662 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, cymeradwyo'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc drafft ar gyfer cyfnod o
ymgynghori rhwng 18 Mawrth 2024 a 5 Ebrill 2024. Rheswm dros y Penderfyniad: Cwblhau a rhoi'r Cynllun Plant a Phobl Ifanc ar
waith. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 ,Mawrth
2024. Ymgynghoriad: Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar-lein yn cael ei
gynnal â rhanddeiliaid perthnasol, a fydd yn cael eu hannog i ymateb. Mae hyn
yn cynnwys ysgolion, gwasanaethau ac asiantaethau partner mewnol ac allanol,
sefydliadau'r trydydd sector a phlant, pobl ifanc a theuluoedd. |
|
Derbyn i Ysgolion Cymunedol - Polisi Derbyn i Ysgolion (yn ôl o'r ymgynghoriad) PDF 583 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig a'r atodiad, yn unol
â Chôd Derbyniadau Ysgol 2013 a Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau
Derbyn) (Cymru), penderfynodd yr aelodau y dylid cymeradwyo'r trefniadau derbyn
ar gyfer ysgolion cymunedol mewn perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, fel
sydd ynghlwm wrth yr adroddiad. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn galluogi'r Cyngor i gyflawni dyletswyddau statudol a chanllawiau
arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o
dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth 2024. Ymgynghoriad: Mae angen ymgynghori â'r canlynol: · cyrff llywodraethu ysgolion
cymunedol · cyrff llywodraethu a
gynorthwyir yn wirfoddol (h.y. ysgolion
ffydd) · pob awdurdod lleol
cyfagos. Mewn
perthynas â blwyddyn academaidd 2025/2026, mae'n ofynnol cynnal yr
ymgynghoriadau hynny ddim cynt na 1 Medi 2023 a rhaid eu cwblhau erbyn 1 Mawrth
2024. Ar
ôl i'r ymgynghoriad gael ei gwblhau, rhaid i'r Cyngor benderfynu ar ei
drefniadau derbyn erbyn 15 Ebrill 2024, naill ai yn eu ffurf wreiddiol neu
gydag addasiadau yr ystyrir eu bod yn addas. Cynhaliwyd
ymgynghoriad rhwng 1 Rhagfyr 2023 a 12 Ionawr 2024. Roedd yr ymgyngoreion yn
cynnwys penaethiaid a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol a gynorthwyir yn
wirfoddol yn y Fwrdeistref Sirol (yr ardal berthnasol) ac awdurdodau lleol
cyfagos. Ni
dderbyniwyd unrhyw sylwadau. |
|
Dyddiadau Tymhorau Ysgol Blynyddol (Allan o Ymgynghori) PDF 124 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig, bod ymgynghoriad ar gyfer dyddiadau tymor ysgol 2026/2027 yn cael
ei gymeradwyo. Rheswm dros y Penderfyniad: I sicrhau bod yr awdurdod yn cyflawni ei
ddyletswyddau statudol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, sy'n dod i ben am 9.00am ddydd Llun, 18 Mawrth
2024. Ymgynghoriad: Ceisir
caniatâd i ymgynghori â chyrff llywodraethu, cynrychiolwyr undebau llafur ac
awdurdodau derbyn eraill gan gynnwys y rhai yn y maes perthnasol. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Perfformiad Disgyblion Blynyddol PDF 817 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Chwarter 3 Dangosyddion Perfformiad 23/24 - Cyfarwyddiaeth Addysg PDF 325 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Decision: That
the report be noted for monitoring. |
|
Chwarter 3 Dangosyddion Perfformiad 23/24 - Cyfarwyddiaeth yr Amgylchedd PDF 408 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y
Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)
Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd). Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |