Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. N. Jenkins yn Gadeirydd
ar gyfer y cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cynghorydd Jenkins bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 136 KB Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod blaenorol a
gynhaliwyd ar 23 Tachwedd 2023 fel cofnod gwir a chywir. |
|
Blaenraglan waith 2023 2024 PDF 408 KB Cofnodion: Bod y Flaenraglen Waith ar gyfer 2023/2024 yn cael
ei nodi |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk
heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o
fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Panel Ymgynghorol Sefydlog PDF 693 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod Aelodau'n cefnogi'r cyfansoddiad ar gyfer
Cyngor Ymgynghorol Sefydlog (CYS) Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Crefydd,
Gwerthoedd a Moeseg. A bod y penderfyniad yn cael ei gymeradwyo i'r Cyngor i'w
fabwysiadu. Rheswm dros y Penderfyniad: Bod y CYS ar gyfer CGM i'w weithredu gyda chyfansoddiad sy'n cyd-fynd â'r
ddeddfwriaeth o fewn y Cwricwlwm i Gymru. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 5 Chwefror. |
|
Diweddariad ar y Gwasanaeth Ieuenctid PDF 857 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi at ddibenion
monitro. |
|
Diweddariad ar y Gyllideb Teithio Personol - Cludiant PDF 335 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Pendeifyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Blynyddol Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru 2023/24 PDF 139 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod cynnwys adroddiad Asesiad Blynyddol 2022-2023 a
Ffurflenni Blynyddol y Gwasanaethau Llyfrgell ar gyfer 2022-2023 yn cael eu
nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd unrhyw eitemau brys. |
|
Mynediad i gyfarfodydd Mae hynny'n unol ag Adran 100A(4) a (5) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ac eithrio'r cyhoedd am yr eitemau canlynol o fusnes a oedd yn ymwneud â datgelu gwybodaeth wedi'i heithrio'n debygol fel y'i diffinnir ym Mharagraff 12 a 15 o Ran 4 o Atodlen 12A o'r Ddeddf uchod. Cofnodion: Penderfynwyd: Bod y cyhoedd yn
cael eu gwahardd o'r eitemau canlynol yn unol â Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn
Statudol 2001 Rhif 2290 a'r paragraffau eithriedig perthnasol o Ran 4 Atodlen
12A Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith
integredig cam cyntaf, cytunodd yr aelodau i eithrio Rheolau Gweithdrefnau
Contractau'r Cyngor a chymeradwyo dyfarnu'r contract yn uniongyrchol i'r RNLI
ar gyfer Gwasanaeth Achub Bywydau'r Traeth ar lan môr Aberafan am gyfnod o 5
mlynedd, gan ddechrau ar 29 Mawrth 2024. Rheswm dros y Penderfyniad: Sicrhau bod y Cyngor yn
parhau i ddarparu gwasanaeth achub bywydau proffesiynol ar draeth Aberafan, gan
ddarparu gwasanaethau diogel a hygyrch i breswylwyr ac ymwelwyr. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod galw i mewn o dridiau, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 5 Chwefror
2024. |