Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd mai'r Cyng. J Hurley fyddai Cadeirydd y
cyfarfod. Cynigiwyd y penderfyniad gan y Cyng. N Jenkins a'i eilio gan y Cyng.
C Phillips. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 119 KB Cofnodion: Bod cofnodion cyfarfod blaenorol Bwrdd Addysg,
Sgiliau a Lles y Cabinet a gynhaliwyd ar 25 Mai 2023 yn cael eu cymeradwyo fel
cyfrif gwir a chywir. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 420 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a Lles
y Cabinet ar gyfer 2022/2023 yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith
cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda.
Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Hwb Cyflogadwyedd yng nghanolfan siopa Aberafan PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r atodiad a
ddosbarthwyd, fod yr Aelodau'n cymeradwyo ac yn cefnogi:
Rheswm dros y Penderfyniad: Darparu cefnogaeth cyflogadwyedd a lles i gymuned
Port Talbot. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 10
Gorffennaf 2023. Ymgynghoriad: Nid oedd angen unrhyw ymgynghoriad allanol. |
|
Tymhorau Ysgol a Dyddiadau Gwyliau PDF 124 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r atodiad a
ddosbarthwyd, fod yr Aelodau'n cymeradwyo: 1.
Cyflwyno'r dyddiadau tymhorau
ysgol arfaethedig ar gyfer blwyddyn academaidd 2025/2026 i Weinidogion Cymru. 2.
Cydymffurfio â chyflwyno hyn
erbyn diwrnod gwaith olaf mis Awst 2023. 3.
Cydymffurfio â'r dyletswyddau
statudol a osodir gan Weinidogion Cymru. Rheswm dros y Penderfyniad: Penderfynu ar ddyddiadau tymhorau a gwyliau ysgol
ar gyfer ysgolion cymunedol ac ysgolion arbennig a gynhelir ar gyfer blwyddyn
academaidd 2025/2026. Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau
statudol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 10
Gorffennaf 2023. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd ymgynghoriad ac ni dderbyniwyd sylwadau
gwrthwynebus. |
|
Dangosyddion Perfformiad Chwarter 4 PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r adroddiad a'r
atodiadau, caiff yr adroddiad ei nodi ar gyfer monitro. |
|
Eitemau brys Unrhyw
eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Nid oedd dim. |