Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd Nia Jenkins yn
Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod hwn. |
|
Cyhoeddiad y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 21 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Cymeradwywyd cofnodion cyfarfodydd y Bwrdd Addysg,
Sgiliau a Lles ar 16 a 24 Mawrth 2023 fel cofnodion cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 395 KB Cofnodion: Nodir Blaenraglen Waith Bwrdd Addysg, Sgiliau a
Lles y Cabinet. Atgoffwyd Swyddogion bod y manylion a nodwyd yn y
Blaenraglen Waith ar gyfer y flwyddyn ddinesig bresennol, sef 2022/23. Bydd
Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd yn cysylltu er mwyn trafod eitemau ar
gyfer y flwyddyn 2023/24 yn dilyn Cyfarfod Blynyddol y Cyngor ym mis Mai
2023. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Mae'n
rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd,
democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod
gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr
agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud. Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw gwestiynau. |
|
Dyddiadau Tymhorau a Gwyliau Ysgol (Caniatâd i Ymgynghori) PDF 123 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i Atodiad A yr adroddiad a
ddosbarthwyd, penderfynwyd rhoi caniatâd i ymgynghori o ran dyddiadau tymor
ysgol arfaethedig 2025/2026. Rheswm dros y Penderfyniad: Galluogi'r awdurdod i gyflawni ei ddyletswyddau
statudol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill
2023. Ymgynghoriad: Ymgynghorir â chyrff llywodraethu, cynrychiolwyr
undeb llafur ac awdurdodau derbyn, gan gynnwys y rheini yn y maes perthnasol. |
|
Cynllun elusennol ar gyfer gwaredu enillion gwerthu hen safle Ysgol Gyfun Glanafan PDF 417 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r adroddiad: 1.
Rhoddir cymeradwyaeth i gais a
gyflwynwyd i'r Comisiwn Elusennau ar gyfer cynllun elusennol ar gyfer gwario'r
arian o werthiant hen dir Ysgol Gyfun Glan Afan. 2.
Rhoddir cymeradwyaeth i'r
arian gael ei wario ar gynllun sy'n cefnogi dysgu ac addysgu yn yr 21ain
ganrif. 3.
Rhoddir cymeradwyaeth i'r
gronfa fod yn rhydd o gyfyngiadau o ran gwariant unrhyw gyfalaf perthnasol, a
benderfynwyd dan Adran 282 Deddf Elusennau 2011. 4.
Rhoddir cymeradwyaeth i
fuddsoddi arian y gwerthiant o dan Adran 290 Deddf Elusennau 2011. Rheswm dros y Penderfyniad: Cydymffurfio â gofynion deddfwriaethol i ryddhau'r
arian o ganlyniad i werthiant hen safle Ysgol Gyfun Glan Afan. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Rhoddir y penderfyniad ar waith ar ôl y cyfnod tri
diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 17 Ebrill 2023. Ymgynghoriad: Yn dilyn cymeradwyaeth, efallai y bydd y Comisiwn
Elusennau'n gofyn am gynnal ymgynghoriad.
|
|
Addysg Ddewisol Gartref PDF 412 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Cydraddoldeb a Lle Diogel i Ddysgu PDF 367 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Adroddiad Urddas y Cyfnod PDF 309 KB Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr adroddiad yn cael ei nodi er gwybodaeth. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Adran 100BA(6)(b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 (fel y’i diwygiwyd) Cofnodion: Ni chafwyd unrhyw eitemau brys. |