Lleoliad: Multi Location Hyrbid Microsoft Teams/Council Chamber
Cyswllt: Sarah McCluskie
Rhif | Eitem |
---|---|
Penodi Cadeirydd Cofnodion: Cytunwyd i benodi'r Cyng. N Jenkins yn Gadeirydd y
cyfarfod. |
|
Cyhoeddiad(au) y Cadeirydd Cofnodion: Croesawodd y Cyng. Jenkins bawb i'r cyfarfod. |
|
Datganiadau o fuddiannau Cofnodion: Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau. |
|
Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol PDF 116 KB Cofnodion: Bod cofnodion y cyfarfod blaenorol a gynhaliwyd ar
27 Medi 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir. |
|
Blaenraglen Waith 2022/23 PDF 429 KB Cofnodion: Bod Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio
a Strydlun y Cabinet yn cael ei nodi. |
|
Amser Cwestiynau Cyhoeddus Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk erbyn canol dydd fan bellaf ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n
rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10
munud Cofnodion: Ni dderbyniwyd cwestiynau gan y cyhoedd. |
|
Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Bod yr oriau agor a chau ar gyfer y Nadolig a’r
Flwyddyn Newydd, ar gyfer llyfrgelloedd, theatrau, canolfannau cymunedol, Parc
Gwledig Margam, canolfannau hamdden a phyllau nofio yn cael eu cymeradwyo, fel
y nodwyd yn Atodiad 1 a 2 yr adroddiad a ddosbarthwyd. Rheswm dros y Penderfyniad: Fel bod cyfleusterau'r cyngor ar gael i'r cyhoedd
lle mae galw amdanynt i fod ar agor, ac i reolwyr wneud trefniadau priodol gyda
staff rheng flaen. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022. Ymgynghoriad: Nid oes gofyniad i ymgynghori'n allanol ar yr eitem
hon. |
|
Ymgynghoriad Derbyniadau i Ysgolion Cymunedol (yn destun ymgynghoriad) PDF 577 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod y Polisi Derbyn i Ysgolion Cymunedol 2024/2025, yn cael ei
gymeradwyo i ymgynghori arno. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn i'r cyngor gyflawni'i ddyletswyddau
statudol a chanllawiau arfer da mewn perthynas â derbyn disgyblion i ysgolion
cymunedol. Rhoi'r Penderfyniad ar Waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022. Ymgynghoriad: Mae angen ymgynghoriad â chyrff llywodraethu
ysgolion cymunedol, cyrff llywodraethu ysgolion a gynorthwyir yn wirfoddol h.y.
ysgolion ffydd, a phob awdurdod lleol cyfagos. Yn ogystal, bydd y cyngor yn
ymgynghori ar y Fforwm Derbyniadau, a bydd y broses ymgynghori'n dod i ben ar
30 Rhagfyr 2022. |
|
Strategaeth Cyfranogiad a Chynnwys (Caniatâd i Ymgynghori) PDF 712 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith
Integredig, bod Atodiad 2 y pecyn adroddiad a gylchredwyd, sef y Strategaeth
Cyfranogiad ac Ymgysylltu, yn cael ei gymeradwyo i ymgynghori arno. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn cwblhau a gwreiddio'r Strategaeth
Cyfranogiad ac Ymgysylltu yn dilyn yr ymgynghoriad. Rhoi ar waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022. Ymgynghoriad: Cynhelir yr ymgynghoriad â'r holl randdeiliaid, gan
gynnwys ysgolion, y trydydd sector, gwasanaethau partner, asiantaethau,
rhieni/gofalwyr a phlant a phobl ifanc. |
|
Rhaglen Strategol Gwella Ysgolion - Enwi Ysgol Cyfrwng Cymraeg Newydd PDF 207 KB Cofnodion: Penderfyniad: 1.
Bod yr offeryn llywodraethu, a
atodir fel atodiad A, o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei gymeradwyo, gyda
dyddiad ymgorffori 1 Mawrth 2023, gan greu corff llywodraethu parhaol. 2.
Bod yr ysgol yn cael ei
henwi'n Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles. Rheswm dros y Penderfyniad: I gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol ar gyfer
sefydlu'r ysgol newydd, sef Ysgol Gynradd Gymraeg Tregeles. Rhoi ar waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022. |
|
Rhaglen Cymorth Bugeiliol PDF 1 MB Cofnodion: Penderfyniad: 1.
Bod y Rhaglen Cymorth
Fugeiliol newydd a'r amserlen lai yn cael eu cymeradwyo. 2.
Bod yr arweiniad darparwyr
amgen yn cael ei fabwysiadu. Rheswm dros y Penderfyniad: Bydd y rhaglen a'r arweiniad darparwyr amgen yn
cryfhau trefniadau a phrosesau monitro ymhellach ar gyfer dysgwyr sydd mewn
peryg o ymddieithriad. Rhoi ar waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun 31 Hydref
2022. Ymgynghoriad: Cynhaliwyd ymarfer ymgynghori â'r rhanddeiliaid
perthnasol. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL SAFONAU LLYFRGELLOEDD CYHOEDDUS CYMRU 2020-21 PDF 210 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: 1.
Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam
cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig: bod yr Adroddiad Blynyddol i Lywodraeth
Cymru yn cael ei gymeradwyo. 2.
Bod cynnwys adroddiad
Llyfrgelloedd Cymru ar gyfer 2020-21 yn cael ei nodi. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn i'r cyngor gydymffurfio â'i ddyletswydd
statudol i ddarparu gwasanaeth llyfrgell yng Nghastell-nedd Port Talbot. Rhoi ar waith: Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y
cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31 Hydref
2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad allanol. |
|
Gwasanaethau archif Gorllewin Morgannwg PDF 520 KB Cofnodion: Penderfyniad: Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith sgrinio
integredig: 1.
bod Gwasanaeth Archifau
Gorllewin Morgannwg yn cael ei adleoli o'r Ganolfan Ddinesig, Abertawe i hen
siop British Home Stores a WHAT! 2.
nodir bod y cyfrifoldebau
rheoli'n trosglwyddo o Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd i
Bennaeth y Gwasanaethau Cefnogi a Thrawsnewid. 3.
bod Pennaeth y Gwasanaethau
Cyfreithiol a Democrataidd yn cael awdurdod dirprwyedig i gytuno ar a chwblhau
Gweithred Amrywio, i Gytundeb y Cyd-bwyllgor ar 11 Ebrill 2014, ac yn rhoi
argymhellion 1 a 2 ar waith. Rheswm dros y Penderfyniad: Er mwyn i breswylwyr Castell-nedd Port Talbot gael
mynediad at wasanaeth archifau, yn unol â Deddf Llywodraeth Leol (Cofnodion)
1972. Rhoi ar waith: Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl
y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9.00am ddydd Llun, 31
Hydref 2022. Ymgynghoriad: Nid yw'n ofynnol cynnal ymgynghoriad mewn perthynas
â'r adroddiad hwn. Mae trafodaethau â Chyngor Dinas a Sir Abertawe wedi bod yn
mynd rhagddynt fel rhan o'r gwaith datblygu. |
|
Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |
|
Dangosyddion Monitro Perfformiad Chwarter 1 PDF 306 KB Dogfennau ychwanegol:
Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |
|
Diweddariad am y Gwasanaeth Ieuenctid PDF 998 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |
|
Strategaeth Arweinyddiaeth PDF 343 KB Cofnodion: Penderfyniad: Nodir yr adroddiad. |
|
Eitemau brys Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl
disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290 (fel y'i
diwygiwyd). Cofnodion: Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys |