Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Iau, 6ed Hydref, 2022 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chambe

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Derbyniwyd y Datganiad o Fuddiannau canlynol ar ddechrau'r cyfarfod:

 

Y Cyng. Wyndham Griffiths

Parthed Eitem 12 ar yr Agenda – yr A474 Ffordd Castell-nedd, Bryncoch (Dirymiad) a Therfynau Cyflymder 40 mya - Gorchymyn Rheoleiddio Traffig 2022 gan ei fod yn ystyried bod ganddo gysylltiad personol a rhagfarnol â'r eitem hon fel Aelod Ward ar gyfer Gogledd Bryncoch.

 

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 221 KB

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 22 Gorffennaf 2022 fel cofnod cywir.

 

 

 

5.

Blaenraglen Waith 2022-2023 pdf eicon PDF 543 KB

Cofnodion:

Nodi Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet

 

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Rheolau a Rheoliadau Mynwentydd pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

 

Penderfyniadau:

 

1. Parhau i dreialu rhoi'r amseroedd claddu newydd ar waith am gyfnod o 6 mis. Cynnal adolygiad ar ôl cyfnod o 6 mis, a gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol ar ôl ymgynghori ymhellach â threfnwyr angladdau.

2. Parhau â'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae ar hyn o bryd, a chaniatáu mynediad 24/7 i fynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot, gan ychwanegu mesurau diogelwch fel y nodir yn adran gefndir yr adroddiad a gylchredwyd. Parhau i fonitro'r sefyllfa'n ofalus, a mynd i'r afael ag unrhyw gwynion sy'n cael eu derbyn yn unigol ac yn amserol.

3. Cynyddu lled carreg fedd o 610mm i 762mm.

4. Bydd y drefn ddarparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yn dod i ben.

5. Parhau â'r trefniant presennol o ran seddi coffa ac ni chaniateir meinciau coffa unigol pellach yn y mynwentydd. Gosod meinciau cymunedol fel dewis amgen gan ganiatáu i'r rheini sy'n gofyn am fainc goffa gael yr opsiwn o blac ar fainc gymunedol.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

1. Mae'r amseroedd claddu newydd yn caniatáu digon o amser rhwng claddedigaethau, ac yn golygu nad oes angen i staff y fynwent weithio dros eu horiau contract. Mae hyn yn cynyddu morâl staff a bydd yn sicrhau bod staff yn gallu dilyn mesurau/darpariaethau iechyd a diogelwch gan y bydd ganddynt ddigon o amser i ddefnyddio cyfleusterau golchi ac ni fydd gofyn iddynt weithio mewn golau gwael.

 

2. Drwy gadw'r ddarpariaeth gerbydau fel y mae, mae'r cyngor yn dal i ganiatáu mynediad i'w holl ddefnyddwyr ar sail 24/7. Bydd mesurau ychwanegol yn cael eu rhoi ar waith er mwyn mynd i'r afael â chwynion a throseddau diweddar fel arwyddion ychwanegol, ymylwaith ymylon (lle bo hynny'n briodol) a chamerâu teledu cylch cyfyng.

 

3. Er mwyn mwyafu'r lle claddu, cynigir peidio â darparu beddau brics newydd mewn mynwentydd sy'n eiddo i Gastell-nedd Port Talbot. Mae hyn nid yn unig yn achosi problemau lle difrifol, mae hefyd yn fater iechyd a diogelwch gan y gall achosi problemau sefydlogrwydd rhwng waliau pridd beddau cyfagos.

 

4. Fel dewis arall yn lle mainc goffa unigol, gosodir meinciau cymunedol yn ein mynwentydd. Mae angen i'r cyngor flaenoriaethu lle ar gyfer beddau, ac mae mainc gymunedol yn ffordd o ddefnyddio tir nad yw'n addas ar gyfer claddedigaeth ac sy'n gallu ymgorffori 10 plac. Mae hyn yn caniatáu i'r cyngor adfer gwasanaeth y mae'r cyhoedd yn gofyn amdano.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:


Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Gorffennaf 2022.

 

 

8.

Enwi a Rhifo Strydoedd - Ffïoedd a thaliadau pdf eicon PDF 236 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

1. Cymeradwyo’r ddogfen bolisi Enwi a Rhifo Strydoedd fel y nodir yn Atodiad A o'r adroddiad a gylchredwyd

2. Cymeradwyo’r newidiadau i'r ffioedd a godir am wasanaethau a ddarperir gan y swyddogaeth Enwi a Rhifo Strydoedd fel y nodir yn Atodiad B yr adroddiad a gylchredwyd

3. Rhoi pwerau dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio, a Phennaeth Peirianneg a Thrafnidiaeth, ar gyfer enwi strydoedd newydd ac ailenwi strydoedd presennol yn y Fwrdeistref Sirol

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

1. Bydd y cynnydd mewn ffioedd yn adlewyrchu costau presennol darparu'r gwasanaeth hwn.

 

2. Bydd yr amwysedd sy'n bodoli ar hyn o bryd o fewn y gwasanaeth enwi a rhifo strydoedd yn cael ei ddatrys a bydd defnyddwyr gwasanaeth yn ymwybodol o'u rhwymedigaethau i ddarparu gwybodaeth ac i gofrestru eiddo. Bydd y Gymraeg ac enwau/llefydd hanesyddol yn cael eu diogelu fel yr amlinellir o fewn yr adroddiad.

 

3. Er mwyn galluogi rheoli swyddogaeth Enwi ac Ailenwi Strydoedd yn effeithiol o fewn yr awdurdod. Cyn y gellir enwi neu ailenwi stryd, mae angen  ymgynghori â pherchnogion tai a busnesau y mae'r newidiadau'n effeithio arnynt ynghylch y broses, yn ogystal ag Aelodau Ward lleol, felly mae'n rhaid i randdeiliaid allweddol gytuno ar y newid cyn iddo ddigwydd. Byddai unrhyw anghytundebau ag Aelodau Ward neu fusnesau/perchnogion tai lleol yn dal i gael eu cyflwyno i Fwrdd y Cabinet am benderfyniad.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

9.

Gwasanaeth Bysus Cymorthdaledig - Estyn Contract pdf eicon PDF 290 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, mae'r contractau bysus â chymhorthdal presennol yn cael eu hestyn tan 31 Mawrth 2023 i ganiatáu amser er mwyn cynnal proses pennu'r gyllideb.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

Bydd estyn y contractau tan 31 Mawrth 2023 yn caniatáu amser i Aelodau ystyried blaenoriaethau'r cyngor fel rhan o broses pennu'r gyllideb.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

10.

Adroddiad Twnnel Tai Gelli pdf eicon PDF 241 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr aelodau'n gefnogol o’r ychwanegiadau at yr argymhelliad a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn (fel y nodir isod).

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

 

1. Eir ar drywydd Opsiwn 2 a fanylir o fewn yr adroddiad a gylchredwyd am y dyfodol rhagweladwy, gyda'r ffensys palisâd ar bob pen o'r twnnel yn cael eu cynnal fel y maent ar hyn o bryd.

 

2. Cynhelir astudiaeth dichonoldeb ar gyfer defnydd yn y dyfodol, a'r opsiynau dilynol yn cael eu rhoi gerbron y Pwyllgor o fewn y 12 mis nesaf.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

Penderfynu ar y ffordd ymlaen ynghylch yr adeiledd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

11.

Lôn y tu ôl i 1-17 Stryd y Goron, Port Talbot - Dileu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Dim Mynediad Presennol pdf eicon PDF 312 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r bwriad i ddileu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Dim Mynediad ym mhen deheuol y lôn y tu ôl i 1-17 Stryd y Goron, Port Talbot (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y bwriad i ddileu'r gorchymyn rheoleiddio traffig Dim Mynediad yn galluogi'r timau casglu gwastraff i fynd i mewn i'r lôn o'r de, gan wneud eu rownd gasglu'n haws, yn fwy effeithlon a lleihau'r risg o ddifrod trydydd parti

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

12.

Yr A474, Heol Castell-nedd, Bryncoch (Dirymiad) a therfynau cyflymder 40mya - Gorchymyn Rheoleiddio Traffig 2022 pdf eicon PDF 314 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Ailddatganodd y Cynghorydd Wyndham Griffiths ei gysylltiad ar y pwynt hwn a gadawodd y cyfarfod ar gyfer yr eitem hon yn unig.

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, diystyrir y gwrthwynebiad i Orchymyn Rheoleiddio Traffig yr A474 Ffordd Castell-nedd, Bryncoch (Dirymiad) a (Therfynau Cyflymder 40 mya) 2022 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a rhoddir y cynllun ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I leihau cyflymder cerbydau er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

13.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig mewn Perthynas â'r Amodau Cynllunio ar gyfer y Datblygiad Tai newydd, Clos Castan, Castell-nedd pdf eicon PDF 308 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer y Datblygiad Tai newydd, Clos Castan, Castell-nedd (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynnig ar waith ar y safle fel y'i hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

14.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig mewn perthynas â'r Amodau Cynllunio ar gyfer y Datblygiad Tai yng Nghlos Gelli Wen, yr Allt-wen pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad sgrinio effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy'n gysylltiedig â'r amodau cynllunio ar gyfer Datblygiad Tai newydd, Clos Gelli Wen, yr Allt-wen (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau, rhoddir y cynigion ar waith ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio symudiadau traffig er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

15.

Gorchymyn ar gyfer Heol Lewis, Stryd Siôr, Stryd Edward, Lôn Heol Lewis, Westernmoor Road ac Upland Road (Cyfyngiad Pwysau 7.5 Tunnell ac Eithrio ar gyfer Mynediad) 2022 pdf eicon PDF 390 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1. Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, diystyrir y gwrthwynebiad i Orchymyn Heol Lewis, Stryd Siôr, Stryd Edward, Lôn Heol Lewis, Westernmoor Road ac Upland Road (Cyfyngiad Pwysau 7.5 Tunnell ac Eithrio ar gyfer Mynediad) 2022, (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) a rhoddir y cynllun ar waith fel y'i hysbysebwyd.

2. Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn hwyluso traffig i deithio'n ddiogel er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

16.

Cyffordd Hawthorn Close ac Ynys y Gwas, Cwmafan - Gorchymyn Rheoleiddio Traffig Arfaethedig Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchymyn rheoleiddio traffig gwaharddiad arfaethedig ar aros ar unrhyw adeg ar Hawthorn Close ar y gyffordd ag Ynys y Gwas (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynigion ar waith gweithredu ar y safle fel y'u hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diwahaniaeth ar y gyffordd er diogelwch ar y ffyrdd ac yn sicrhau mynediad i gerbydau casglu gwastraff.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

17.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 408 KB

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei newid fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy.

Mae'r cwmnïau canlynol wedi gwneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Blakedown Sport & Play Ltd (B040)

106

Tegfan Groundworks (T037)

2,6,7,15,

16,71,76,

77,78,79,

84,85 ac 89

Wayne’s World of Waste Removal (W041)

7

Europest Environmental Services Ltd (E032)

4,5

 

Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

Mae'r cwmnïau canlynol wedi peidio â bodloni meini prawf CBSCNPT oherwydd dim asesiad/achrediad Iechyd a Diogelwch ac felly, cânt eu tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:-

 

Cwmni

Categori

Unicorn Southern Ltd (U001)

20

Forge Leisure Ltd (F009)

64

 

 

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

1. Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

2. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn, a ddaeth i ben am 9am ddydd Sul, 9 Hydref 2022.

 

18.

Eitemau brys

Any urgent items (whether public or exempt) at the discretion of the Chairperson pursuant to Statutory Instrument 2001 No. 2290 (as amended).

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

19.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 242 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

20.

Ailddatblygiad arfaethedig Ciosg Arlwyo a Chyfleuster Cyhoeddus ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

1. Cymeradwyir yr amodau a thelerau ar gyfer ildio prydles bresennol y ciosg arlwyo a'r tir cyfagos.

2. Caniateir rhoi Cytundeb ar gyfer Prydles newydd.

3. Yn ychwanegol, caniateir rhoi prydles i hwyluso ailddatblygu cyfleuster ciosg arlwyo newydd ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan, Port Talbot.

 

Rhesymau dros y Penderfyniadau:

 

Galluogi'r tenant i ailddatblygu a darparu cyfleuster ciosg arlwyo gwell newydd ar ben gorllewinol Glan Môr Aberafan er lles yr ymwelwyr a'r gymuned leol.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth, ac felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod.