Agenda a Chofnodion

Special, Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 22ain Gorffennaf, 2022 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid in Council Chamber

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd penodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau.

 

4.

Blaenraglen Waith 2022-2023 pdf eicon PDF 555 KB

Cofnodion:

Nodir Blaenraglen Waith Bwrdd yr Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet

 

5.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

 

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk  heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. 

 

6.

Grant Eiddo Masnachol: Canolfan Fusnes Stryd y Dŵr, Port Talbot pdf eicon PDF 919 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a disgrifiad o'r gwaith sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cymeradwyir y grant o £47,977.53 ar gyfer Canolfan Fusnes Stryd y Dŵr, Port Talbot.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio Aberafan ac ardal ehangach Port Talbot.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion galw i mewn.

 

7.

Grant Eiddo Masnachol: Unedau 1 a 2 Adeiladau Masnachol, Heol Talbot, Port Talbot pdf eicon PDF 970 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gohirir gwneud penderfyniad ar yr adroddiad tan gyfarfod Bwrdd Gwasanaethau’r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun y Cabinet yn y dyfodol.

 

Rheswm:

 

Caniatáu i Swyddogion egluro materion a godwyd gan y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn mewn perthynas â dechrau gwaith.

 

8.

Grant Eiddo Masnachol: 20 Stryd y Frenhines, Castell-nedd pdf eicon PDF 1 MB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig a disgrifiad o'r gwaith sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, cymeradwyir y grant o £47,966.08 ar gyfer Stryd y Frenhines, Castell-nedd.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Rhoi darpariaethau'r cynllun Grant Eiddo Masnachol ar waith yn unol â'r meini prawf a thelerau gweinyddu'r grant, er mwyn cyfrannu at adfywio canol tref Castell-nedd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.

 

9.

Ymgorffori Tir y Cyngor fel rhan o'r Briffordd pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd y ffordd a'r llwybr troed, a ddangosir gyda llinellau ar y Cynllun a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, yn dod yn briffordd i'w chynnal ar draul y cyhoedd.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I alluogi'r ffordd a'r droedffordd i fod yn briffordd y gellir ei chynnal ar draul y cyhoedd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.

 

10.

Canllaw Dylunio Technegol Priffyrdd CBS Castell-nedd Port Talbot ar gyfer Datblygiadau Preswyl, Masnachol a Diwydiannol pdf eicon PDF 484 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Roedd yr aelodau'n gefnogol o’r ychwanegiadau at yr argymhelliad a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn (fel y nodir isod).

 

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i sgrinio'r Asesiad Effaith Integredig, bydd yr Aelodau’n cymeradwyo'r Canllaw Dylunio Priffyrdd Newydd i'w roi ar waith yn amodol ar roi ymwadiad priodol ar wefan y cyngor sy'n esbonio nad yw rhai darpariaethau cyfreithiol a pholisi o bosib yn gyfredol a thynnu sylw at gydymffurfiaeth â Llwybr Newydd, PPW11 a chyfeiriad penodol at Ganllawiau Dylunio Teithio Llesol 2021 (sy’n cadarnhau ymrwymiad y cyngor hwn i Deithio Llesol a thrafnidiaeth gynaliadwy). Yn ogystal, rhaid i ddiwygiadau i'r ddogfen yn y dyfodol gael eu cyflwyno i'r Pwyllgor Craffu i'w hadolygu cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas Syrfewyr Sirol Cymru (CSS) neu yn dilyn fersiynau wedi'u diweddaru gan Lywodraeth Cymru.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I sicrhau bod gan y cyngor Ganllaw Dylunio Priffyrdd cyfoes sy'n gyson ag Awdurdodau Lleol eraill Cymru; ac nid yw'n cyfyngu ar greadigrwydd ac arloesedd wrth ddylunio priffyrdd, gan annog yr Awdurdod Priffyrdd Lleol i fabwysiadu isadeiledd priffyrdd newydd.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.

 

 

11.

Ailadeiladu Wal Gynnal Teras Bevan pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd Aelodau’n nodi cyflwr Wal Gynnal Teras Bevan

2.   Bydd y gwaith o ailadeiladu'r wal, fel y cyllidebwyd ar ei gyfer yn Rhaglen Gyfalaf y cyngor, yn cael ei gymeradwyo

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Rheoli'r risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â wal gynnal Teras Bevan.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.

 

 

12.

Ailadeiladu Wal Gynnal Teras Norton pdf eicon PDF 219 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

1.   Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd Aelodau’n nodi cyflwr Wal Gynnal Teras Norton

2.   Bydd y gwaith o ailadeiladu'r wal, fel y cyllidebwyd ar ei gyfer yn Rhaglen Gyfalaf y cyngor, yn cael ei gymeradwyo

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

Rheoli'r risgiau a'r rhwymedigaethau sy'n gysylltiedig â wal gynnal Teras Norton.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.

 

 

 

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

14.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 312 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Penderfynwyd gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod wrth ystyried yr eitem fusnes ganlynol ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff eithrio 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

 

15.

Cynnig arfaethedig i Ryddhau Cyfamod Cyfyngu a Gwerthu'r Tir Cyfagos (Yn eithriedig o dan baragraff 1)

Cofnodion:

Penderfyniadau:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, bydd yr amodau a thelerau ar gyfer rhyddhau budd y cyngor yn y cynnig cyfamod cyfyngu a gwaredu'r tir cyfagos yn cael eu cymeradwyo.

 

Rheswm dros y penderfyniadau:

 

I gael derbyniad cyfalaf ar gyfer rhyddhau budd y cyngor yn y cyfamod cyfyngu a gwerthu tir dros ben.

 

Rhoi'r Penderfyniadau ar Waith:

 

Bydd y penderfyniadau'n cael eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod 3 diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Gorffennaf 2022. Ni dderbyniwyd unrhyw achosion o alw i mewn.