Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 20fed Ionawr, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybird meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Yn dilyn y drafodaeth yn ystod cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Wasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, mewn perthynas â Chynllun Gweithredol y Gaeaf, mynegodd y Cadeirydd yr angen i adolygu manylion y cynllun. Nodwyd byddai'r Gwasanaethau Democrataidd yn trafod â swyddogion fel y gellir cynnwys yr adroddiad hwn yn y Flaenraglen Waith. 

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 170 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 2 Rhagfyr 2022 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 504 KB

Cofnodion:

Bod y Flaenraglen Waith yn cael ei nodi.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Gorchymyn Addasu arfaethedig ar gyfer cilffordd Rhif 24 yng nghymuned Cilybebyll pdf eicon PDF 227 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig:

·     Caiff gorchymyn addasu ei wneud o dan Adran 53 Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, i israddio hyd cilffordd rhif 24 a ddangosir ar y cynllun atodedig yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, rhwng pwyntiau A a B, i lwybr troed. Caiff y gorchymyn ei gadarnhau fel un diwrthwynebiad os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau iddo.

·     Caiff y Map a’r Datganiad Diffiniol eu diwygio i adlewyrchu'r lled o 3 troedfedd i 4 metr rhwng pwyntiau A a C.

 

Rheswm dros y penderfyniad

 

Gan ystyried y dystiolaeth hanesyddol a nodwyd yn yr adroddiad a ddosbarthwyd, roedd digon o sail i newid dynodiad rhan o gilffordd gyhoeddus rhif 24 sy’n cael ei dangos fel A-B ar y cynllun a gynhwysir o fewn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023.

 

8.

Yr A48 Heol Margam i Bort Talbot (Dirymiad) a (Therfynau Cyflymder 30MYA) - Gorchymyn 2022 pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r asesiad effaith integredig:

·     Caiff y gwrthwynebiadau i’r A48 Heol Margam i Bort Talbot (Dirymiad) a (Therfynau Cyflymder 30MYA) - Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a chaiff y cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd.

·     Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y gorchmynion i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30 mya ar rannau o'r A48 Heol Margam, yr A48 Heol Fasnachol, yr A48 Heol Talbot, yr A48 Ffordd Heilbronn, Heol Dyffryn a Heol yr Abaty o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023.

 

9.

Mesurau Arafu Traffig ar y B4434 Heol Newydd, Y Clun - Hysbysiad 2022 pdf eicon PDF 315 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·     Caiff y gwrthwynebiadau i’r Mesurau Tawelu Traffig yn y B4434, Heol Newydd, Y Clun - Hysbysiad 2022 (fel y nodir ar dudalen 60 yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a chaiff y cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd.

·     Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y clustogau arafu arfaethedig er diogelwch y briffordd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023.

 

10.

Y B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd (Terfyn Cyflymder 30MYA) - Gorchymyn 2022 pdf eicon PDF 320 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·     Caiff y gwrthwynebiadau i’r B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd (terfyn cyflymder 30mya) - Gorchymyn 2022 (fel y nodir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) eu gwrthod a chaiff y cynllun ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd.

·     Hysbysir y gwrthwynebwyr o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y Gorchmynion i gynnal y terfyn cyflymder presennol o 30mya ar rannau o'r B4287 Heol Cimla, Cimla, Castell-nedd o fewn y fwrdeistref wedi i Lywodraeth Cymru basio deddfwriaeth i roi terfyn cyflymder diofyn o 20mya mewn ardaloedd trefol ar waith ledled Cymru er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023.

 

11.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 403 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, caiff y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ei newid fel a ganlyn:-

 

Ychwanegir y cwmni at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy

 

Mae'r cwmni canlynol wedi gwneud cais i gael ei gynnwys ar y rhestr ac wedi pasio'r asesiadau angenrheidiol:-

 

Cwmni

Categori

Rockall Safety Ltd (R042)

111

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Mawrth, 24 Ionawr 2023.

 

12.

Astudiaeth Genedlaethol Archwilio Cymru - Adolygiad Gwaelodlin Datgarboneiddio Sero Net pdf eicon PDF 396 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodir yr adroddiad.

 

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi’u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol ag Offeryn Statudol 2001 rhif 2290 (fel y’I diwygiwyd).

 

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

14.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 312 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol.

 

15.

Trosglwyddo tir ac adeiladu uned fasnachol yn Iard Burrows - Diweddariad

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Nodir yr adroddiad.