Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Mawrth, 14eg Tachwedd, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 239 KB

·        14 Medi 2023

·        6 Hydref 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Medi 2023 a 6 Hydref 2023 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 403 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau

Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

 

 

 

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Dangosyddion Perfformiad Allweddol 2023/2024 - Chwarter 2 (1 Ebrill 2023 - 30 Medi 2023) pdf eicon PDF 332 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

8.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 420 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid newid y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy fel a ganlyn:-

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

DTPH Arb & Groundworks (D044)

77,84,101,102

Clean to the Core (C077)

105,111

Integrated Fencing Ltd (I019)

84,96

Betterclean Services (B044)

105

 

Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Roedd angen dileu'r cwmnïau canlynol oherwydd methiant i fodloni meini prawf Iechyd a Diogelwch CBSCNPT (H027) a bod un cwmni wedi'i Ddiddymu (A022).

 

Cwmni

Categori

Highcross Security & Electrical Ltd (H027)

21F, 21G, 41,43,47,48,49,50,60

Avalon Insulation Services Ltd (A022)

31,111

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes a sicrhau proses gaffael gystadleuol.

 

Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

9.

Gorchmynion Rheoleiddio Traffig Arfaethedig ar gyfer Datblygiad Tai Awel Afan ger Golwg y Sianel a Ffordd y Dywysoges Margaret, Port Talbot pdf eicon PDF 323 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r asesiad effaith integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r gorchmynion rheoleiddio traffig sy'n gysylltiedig â datblygiad tai newydd Afan Awel oddi ar Golwg y Sianel a Ffordd y Dywysoges Margaret (fel y manylwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na dderbyniwyd unrhyw wrthwynebiadau, dylid gweithredu'r cynigion ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal parcio diawahaniaeth ac yn hwyluso hynt traffig cerbydau er diogelwch ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

10.

Gorchymyn 2023 (Mannau Parcio i Breswylwyr Anabl) Quarr Road, Pontardawe pdf eicon PDF 327 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Dylid diystyru'r gwrthwynebiad yn llawn i Orchymyn (Quarr Road, Pontardawe) (Lleoedd Parcio i Breswylwyr Anabl) 2023 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bod y cynllun yn cael ei weithredu fel y'i hysbysebir cyn gynted ag y bo modd.

·        Hysbysir y gwrthwynebydd o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Gan roi sylw dyledus i'r gwrthwynebiad a dderbyniwyd, a hefyd y llythyr cymorth, ystyriwyd llawer o ffactorau cyn gwneud y penderfyniad arfaethedig.

 

Oherwydd topograffi Quarr Road, roedd achos cryf dros weithredu'r cynllun gan fod y ffordd ar raddiant serth. Roedd yr ymgeisydd yn bodloni'r holl feini prawf i wneud cais am le parcio unigol i'r anabl.

 

O ran pwynt 3 o'r crynodeb o wrthwynebiad; roedd y preswylydd yn pryderu y byddai unrhyw ddeiliad bathodyn glas yn gallu parcio yn y gilfach, ystyriwyd nad oedd hyn yn wir. Dim ond deiliad rhif 21 fydd yn gallu gwneud cais ar gyfer y drwydded parcio anabl mewn perthynas â'r gilfach hon, ac roedd tîm gorfodi parcio'r cyngor yn gallu gwirio hyn gyda chofrestriad y cerbyd sy'n gysylltiedig â'r drwydded arfaethedig.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

11.

Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd pdf eicon PDF 333 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·       Bod Cynllun Rheoli Asedau Priffyrdd drafft 2023-26, fel y'i darperir yn Atodiad A o'r adroddiad a ddosbarthwyd, yn cael ei gymeradwyo.

·       Rhoddir diweddariad pellach i Fwrdd Cabinet Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun ar ôl cwblhau'r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol a gwaith rheoli'r Llwybr Beicio.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Er mwyn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a pharhau i ddatblygu Cynllunio Rheoli Asedau Priffyrdd y Cyngor yn unol ag arfer da.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

12.

Ynni Goleuadau Stryd pdf eicon PDF 257 KB

Cofnodion:

Ystyriodd Aelodau'r Cabinet yr argymhelliad ychwanegol arfaethedig i'r gwreiddiol, a oedd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Nid oedd Aelodau'r Cabinet yn gefnogol o'r argymhelliad ychwanegol a wnaed yng nghyfarfod y Pwyllgor Craffu, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn.

 

Penderfyniad:

 

Rhoi cymeradwyaeth i ymgynghori â'r cyhoedd mewn perthynas â'r strategaethau arbed ynni goleuadau stryd posib, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Helpu i lywio unrhyw benderfyniad yn y dyfodol ynghylch arbedion goleuadau stryd a'r Asesiad Effaith Integredig cysylltiedig.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

 

13.

Strategaeth Isadeiledd Cerbydau Di-allyriadau (ZEVIS) pdf eicon PDF 791 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

14.

Mannau gwefru preswyl ar y stryd ar gyfer cerbydau trydan pdf eicon PDF 1 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

·       Bod y cyngor yn parhau i wrthod ceisiadau am godi tâl ar gerbydau trydan preswyl neu fusnes ar y stryd am y tro

·       Bod Swyddogion yn parhau i drafod gyda Llywodraeth Cymru, drwy Trafnidiaeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i ofyn am ganllawiau enghreifftiol a gofynion trwydded ar gyfer codi tâl preswyl ar y stryd mewn perthynas â cheisiadau codi tâl ar y stryd gan breswylwyr.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

O ystyried y goblygiadau cyfreithiol i'r Awdurdod, y materion diogelwch posib sy'n codi o osod cebl ar draws y briffordd, a'r treialon cynnar mewn mannau eraill o atebion arloesol o bosib, argymhellwyd y dylid parhau â'r moratoriwm presennol a monitro llwyddiant neu fethiant y treialon.

 

Gan fod nifer y cerbydau trydan yn debygol o gynyddu'n gyflym yn y blynyddoedd i ddod, a'r materion codi tâl preswyl yn deillio o'r cynlluniau tai a phriffyrdd hanesyddol ledled y wlad, roedd angen canllawiau cenedlaethol oddi wrth Lywodraeth Cymru i sicrhau dull cyson rhwng cynghorau ac er mwyn llywio cynlluniau a pholisïau'r dyfodol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

15.

Y Seilwaith Gwefru Cerbydau Trydan - y diweddaraf ar drosglwyddo i allyriadau isel iawn pdf eicon PDF 618 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

16.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

17.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 244 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol.

 

18.

Bwriad i ehangu sinema a gwneud gwaith gwella mewnol yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe - Hysbysiadau Waliau Cydrannol (eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Bod awdurdod dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i gyflwyno unrhyw hysbysiadau gofynnol o dan Ddeddf Gwahanfuriau 1996, i sicrhau bod y cyngor yn cydymffurfio â'i ddyletswydd o dan y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â'r estyniad sinema newydd arfaethedig a'r gwaith gwella mewnol yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe.

·        Awdurdodi'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio i ddiwygio'r cynllun dirprwyaethau i gynnwys cyflwyno hysbysiadau o dan Deddf Gwahanfuriau 1996; a bod Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd yn cael ei awdurdodi i ddiweddaru Cyfansoddiad Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot i gofnodi hyn.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Galluogi'r cyngor i fwrw ymlaen â'r cynllun gwaith, ar yr amod bod y tendrau o fewn y gyllideb yng Nghanolfan Celfyddydau Pontardawe, ac i sicrhau bod awdurdod priodol ar waith ar gyfer unrhyw hysbysiadau yn y dyfodol y gallai fod eu hangen.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth, ac felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod.

 

19.

Cynlluniau Lleoedd - Comisiynu gwaith ymgynghoriaeth ychwanegol i The Urbanists er mwyn datblygu ac ehangu cynigion presennol ymhellach

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Gwahardd gofynion Rheolau Gweithdrefnau Contractau'r Cyngor, a chymeradwyo i'r cyngor wneud dyfarniadau uniongyrchol i The Urbanists ar gyfer gwasanaethau ymgynghori dros dro, ar gyfer y gwasanaethau ychwanegol sy'n ofynnol ar gyfer darparu cynlluniau lleoedd presennol yn unig.

·        Rhoddir awdurdod i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gaffael gwasanaethau ymgynghori pellach ar gyfer trefi ychwanegol, aneddiadau eilaidd a thrydyddol (nad ydynt eisoes wedi'u comisiynu i The Urbanists) yn gynnar yn 2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad Arfaethedig:

 

Cynorthwyo'r Adran Adfywio i gwblhau Cynlluniau Lleoedd ar gyfer ei threfi, sy'n rhan o ofynion Llywodraeth Cymru wrth gyflawni prosiectau strategol a darparu grantiau i drydydd partïon, ac i alluogi datblygu cynlluniau gydag aneddiadau eilaidd a thrydyddol.

 

Sicrhau parhad gwasanaeth ac arbed amser wrth ddeall y tasgau angenrheidiol mewn perthynas â'r gwaith ychwanegol angenrheidiol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod tri diwrnod galw i mewn sy'n dod i ben am 9am ddydd Sadwrn, 18 Tachwedd 2023.

 

20.

Diweddariad ar Gwmni Gwaredu Gwastraff yr Awdurdod Lleol y cyngor (eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Dylid nodi'r adroddiad.