Agenda a Chofnodion

Special, Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Iau, 14eg Medi, 2023 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd y dylid penodi'r Cynghorydd W F Griffiths yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 158 KB

·        14 Gorffennaf 2023

·        28 Gorffennaf 2023

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Cymeradwyo cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Gorffennaf 2023 a 28 Gorffennaf 2023 fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 399 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk  heb fod yn

hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n

rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

7.

Diwygiad i is-ddeddf sy'n gwahardd beicio wrth Gatiau Coffa Castell-nedd ac ar hyd y llwybr rhwng y pwll gwaelod a Chilgant Cimla pdf eicon PDF 248 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo caniatáu swyddogion i ddechrau'r broses o ddiwygio'r is-ddeddf sy'n gwahardd beicio wrth gatiau coffa Castell-nedd ac o fewn ystâd y Gnoll rhwng y gatiau coffa a Thir Comin Cimla ar hyn o bryd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad

 

Er mwyn galluogi datblygu llwybr teithio llesol rhwng Castell-nedd a Chimla, hwyluso teithio ar gyfer teithiau bob dydd ar droed neu ar feic yn hytrach na mewn car preifat.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023.

 

 

8.

Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus - Glan Môr Aberafan pdf eicon PDF 252 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·        Cynnal ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos, ar y cynnig i greu'r Gorchmynion Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus newydd ar lan y môr Aberafan;

·        Cymeradwyo'r holiadur ymgynghori arfaethedig, a gynhwysir fel Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I sicrhau bod mesurau rheoli cŵn priodol yn parhau fel y bo'n briodol ar Draeth a Phromenâd Aberafan.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023.

 

 

9.

Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) - Cytundeb Cyflawni Diwygiedig (CCD) pdf eicon PDF 2 MB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig, dylid cyflwyno'r canlynol i'r cyngor i'w cymeradwyo:

·        Cytuno ar Gytundeb Cyflawni'r CDLl, fel y'i cyflwynwyd yn Atodiad 2 i'r adroddiad a ddosbarthwyd, ar sail ymgynghori a chyflwyniad dilynol i Lywodraeth Cymru i'w gymeradwyo

·        Dirprwyo gwneud penderfyniadau ar ymatebion i unrhyw sylwadau a dderbyniwyd yn dilyn ymgynghoriad i'r Pennaeth Cynllunio a Diogelu'r Cyhoedd mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd; a bod unrhyw newidiadau sylweddol y penderfynwyd eu bod yn angenrheidiol ar gyfer y Cytundeb Cyflawni, yn cael eu cyflwyno i'r cyngor i'w cymeradwyo.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Mae angen yr argymhellion er mwyn sicrhau y cydymffurfir ag Adran 63 Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004; Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynllun Datblygu Lleol) (Cymru) (Diwygio) 2015; Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) (2015); Deddf Cydraddoldeb (2010); Rheoliadau Safonau'r Gymraeg (Rhif .1) 2015; Polisi Cynllunio Cymru 11 (2021) a'r Llawlyfr Cynlluniau Datblygu, Argraffiad 3 (2020).

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023.

 

 

10.

Adolygiad Parcio 2023 pdf eicon PDF 636 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Cymeradwyo'r opsiynau canlynol a gynhwysir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd (14 Medi 2023): Opsiwn 1, Opsiwn 1B, Opsiwn 3, Opsiwn 4, Opsiwn 5, Opsiwn 6 ac Opsiwn 7.

·        Yn ogystal, cymeradwyo'r argymhellion a dderbyniwyd yn ystod cyfarfod Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun a gynhaliwyd ar 28 Gorffennaf 2023 fel a ganlyn:

1.   Pan fydd y gorchmynion cyfreithiol yn cael eu hysbysebu, er mwyn newid y gorchymyn parcio ceir oddi ar y stryd a gorchmynion traffig ar y stryd, bydd trigolion a busnesau yn cael cyfle i godi unrhyw wrthwynebiadau a fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod cyfarfod yn y dyfodol i'r Aelodau eu hystyried cyn rhoi unrhyw newidiadau ar waith.

2. Yn amodol ar y cyllid sydd ar gael, ystyrir cynnal astudiaeth ddichonoldeb yn cael i adolygu oriau gweithredol parth cerddwyr Castell-nedd, a fydd yn cael ei ystyried yn erbyn yr holl flaenoriaethau eraill o fewn y Rhaglen Gyfalaf Priffyrdd; neu fel yr awgrymir gan Aelodau, unrhyw grantiau adfywio eraill sydd ar gael a fyddai'n destun adroddiad i'r Aelodau yn y dyfodol.

3. Bydd adolygiad yn cael ei gynnal ym mis Hydref 2024, chwe mis ar ôl i'r holl argymhellion gael eu rhoi ar waith yn llawn yn ystod mis Ebrill 2024, er mwyn caniatáu amser i gael data mesuradwy dros gyfnod yr haf.

4. Bydd Trwydded Parcio i Ymwelwyr, a fyddai'n cynnwys yr holl feysydd parcio ac atyniadau yn y sir (gan gynnwys parciau gwledig), yn cael ei harchwilio ymhellach ar y cyd â rheolwyr y parciau gwledig.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd y ffioedd a'r taliadau newydd yn ceisio mynd i'r afael â'r problemau sydd eisoes yn bodoli ym meysydd parcio'r awdurdodau ac yn lleihau pwysau cyllideb y flwyddyn o fewn y gwasanaethau parcio. Hefyd, sicrhau bod meysydd parcio Castell-nedd Port Talbot yn parhau i fod yn weithredol gan ganiatáu i genedlaethau'r dyfodol fwynhau'r amgylchedd a'r amwynderau lleol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023.

 

11.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b)  Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd).

Cofnodion:

Oherwydd yr angen i ymdrin yn awr â'r mater a gynhwysir yng Nghofnod Rhif 14 isod, cytunodd y Cadeirydd y gellid ei drafod yng nghyfarfod heddiw fel eitem frys yn unol ag Adran 100B (4) (b) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

 

Rheswm:

 

Oherwydd yr elfen amser.

 

12.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290,

gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol.

 

13.

Contract Trydan Gorsaf Drosglwyddo (yn eithriedig dan baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

·        Gwahardd y Rheolau Gweithdrefnau Contractau yn unol â rheol 5; a chymeradwyo dyfarniad uniongyrchol o gontract blwyddyn i'r cwmni a enwir yn yr adroddiad preifat a ddosbarthwyd, ar gyfer cyflenwi ynni i'r Orsaf Drosglwyddo;

·        Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Gofal Strydoedd, mewn ymgynghoriad â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd, wneud y trefniannau contract angenrheidiol;

·        Pan fydd adleoli'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff i'r Orsaf Drosglwyddo wedi'i chwblhau, caiff y gofynion trydan ar y safle eu hadolygu a bydd trefniant tymor hwy yn cael ei roi ar waith.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I sicrhau cyflenwad ynni gwerthfawr ar gyfer yr Orsaf Drosglwyddo.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn tri diwrnod, a ddaeth i ben am 9am, ddydd Llun, 18 Medi 2023.

 

 

14.

Gorchymyn Pwrcasu Gorfodol Arfaethedig – Tir ac Adeiladau ym Mhontneddfechan – Hysbysiadau i Gynnal Arolygon

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i'r Asesiad Effaith Integredig:

 · Rhoi awdurdod dirprwyedig i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio gyflwyno unrhyw hysbysiadau gofynnol o dan Adran 172 Deddf Tai a Chynllunio 2016 i gynnal arolygon o'r tir a'r adeiladau ym Mhontneddfechan.

· Rhoi'r awdurdod i'r Pennaeth Eiddo ac Adfywio ddiwygio'r cynllun dirprwyaethau i gynnwys cyflwyno hysbysiadau yn unol â Deddf Tai a Chynllunio 2016, a rhoi'r awdurdod i Bennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol a Democrataidd ddiweddaru Cyfansoddiad Cyngor Sir Castell-nedd Port Talbot i gofnodi hyn.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn galluogi'r cyngor i gyflawni prosiect Cronfa Codi'r Gwastad (CCG) Pontneddfechan a sicrhau bod awdurdod priodol ar waith ar gyfer unrhyw hysbysiadau y gallai fod eu hangen yn y dyfodol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Mae'r penderfyniad hwn i'w roi ar waith yn syth, ac felly nid yw'n rhwym wrth y cyfnod galw i mewn tri diwrnod.