Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 22ain Mawrth, 2024 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 242 KB

Cofnodion:

Cymeradwywyd cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 9 Chwefror 2024 fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 383 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau.

 

 

7.

Siarter Teithio Iach pdf eicon PDF 224 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

8.

Mesurau perfformiad 2023/2024 - Chwarter 3 pdf eicon PDF 329 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

9.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 418 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, fod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

Bramwood Timber Products Ltd (B046)

10

 

Cwmnïau i'w cynnwys ar y Rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol:

 

Cwmni

Categori

F&T Refrigeration Ltd (F006)

39,59

 

Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

Arjo Med Ab Ltd (A026)

51

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Yn ogystal â hyn, at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro o fewn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am, ddydd Mawrth 26 Mawrth 2024.

 

10.

Gorchymyn rheoleiddio traffig 'Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg' arfaethedig ar Meadow Road ar gyfer y Datblygiad Tai newydd, Clos Castan, Castell-nedd pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, rhoddir cymeradwyaeth i hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig ar Meadow Road, Castell-nedd ar gyfer y Datblygiad Tai newydd (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd) ac os na dderbynnir unrhyw wrthwynebiadau rhoddir y cynnig ar waith ar y safle fel y'i hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal

parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio problemau symudedd er

diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

11.

Gorchymyn rheoleiddio traffig 'Gwahardd Aros, Llwytho neu Ddadlwytho ar Unrhyw adeg' arfaethedig, Coedcae, Pontardawe pdf eicon PDF 310 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig,

cymeradwyo hysbysebu'r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig yng Nghoedcae, Pontardawe (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), ac os na dderbynnir gwrthwynebiadau, caiff y cynnig ei roi ar waith ar y safle fel yr hysbysebwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchymyn rheoleiddio traffig arfaethedig yn atal

parcio diwahaniaeth ac yn rheoleiddio problemau symudedd er

diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

12.

Gorchymyn Clos Olympaidd, The Princess Margaret Way, Channel View, Porth y Gwyddel a Golwg y Madjoe, Sandfields, Port Talbot (Diddymiad) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) (Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Troi i'r Dde) 2024 pdf eicon PDF 386 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

·       Dylid diystyru'r gwrthwynebiadau i Orchymyn (Clos Olympaidd, The Princess Margaret Way, Channel View, Porth y Gwyddel a Golwg y Madjoe, Sandfields, Port Talbot) (Diddymiad) (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar Unrhyw Adeg) (Gwahardd Aros ar Unrhyw Adeg) a (Gwahardd Troi i'r Dde) 2024 (fel y manylir yn Atodiad A i'r adroddiad a ddosbarthwyd), a bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith fel yr hysbysebwyd.

·       Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y gorchmynion rheoleiddio traffig yn atal parcio diwahaniaeth o amgylch y ffyrdd mynediad i Ddatblygiad Awel Afan er

diogelwch priffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

13.

Rhaglen Waith Priffyrdd 2024/25 pdf eicon PDF 381 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyledus i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig,

 cymeradwyir y rhaglen waith ar gyfer 2024/2025 (fel y nodir yn Atodiadau A&C yr adroddiad a ddosbarthwyd).

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Er mwyn cynnal asedau y mae'r Cyngor yn gyfrifol amdanynt fel Awdurdod Priffyrdd a mynd i'r afael â phryderon y gymuned mewn perthynas â'r un peth.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

 

 

 

 

 

14.

Ynni goleuadau stryd - Ymateb i'r ymgynghoriad pdf eicon PDF 283 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Yn dilyn cynnig Pwyllgor Craffu Gwasanaethau'r Amgylchedd, Adfywio a Strydlun, a gynhaliwyd cyn y cyfarfod hwn, roedd yr Aelodau'n gefnogol o'r diwygiad i'r argymhellion canlynol, fel y nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd. Felly, cafodd yr argymhellion eu cymeradwyo fel a ganlyn:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig:

·       Nodi'r adborth o'r ymgynghoriad

·       Cymeradwyo pylu llusernau LED 25%

·       Cymeradwyo'r astudiaeth beilot o oleuadau rhan amser gyda'r nos, er mwyn cael dealltwriaeth well o effeithiau strategaethau arbed o'r fath a thrwy hynny alluogi gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth yn y dyfodol, os ystyrir ei fod yn briodol. Cyn cynnal cynllun peilot o'r fath, cyflwynir adroddiad pellach i'r Aelodau sy'n rhoi manylion lleoliad daearyddol yr astudiaeth beilot arfaethedig, hyd yr astudiaeth beilot, a'r amseroedd pan fydd y goleuadau'n cael eu diffodd/cynnau, a chaiff y cynlluniau eu cymeradwyo gan Aelodau cyn y cynhelir unrhyw gynllun peilot. Yna caiff canlyniadau cynllun peilot eu hatgyfeirio at yr Aelodau i lywio unrhyw benderfyniadau yn y dyfodol, os ystyrir bod hyn yn briodol. Cynhelir ymgynghoriad fel rhan o'r astudiaeth beilot a bydd yn cynnwys asesiad o'r effeithiau ar fenywod a merched ifanc o ran trais, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Bydd canlyniadau'r ymgynghoriad hwnnw yn cael eu hadrodd i'r aelodau ar ôl cwblhau'r cynllun peilot a'r ymgynghoriad.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Galluogi rhai arbedion i wrthbwyso'r cynnydd mawr mewn costau ynni, ac i roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am effaith goleuadau rhan amser gyda'r nos.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

15.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

16.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 245 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Gwaherddir y cyhoedd o'r cyfarfod wrth i’r eitem fusnes ganlynol gael ei hystyried ar y sail ei bod yn debygol o ddatgelu gwybodaeth eithriedig fel y nodir ym mharagraff 14 o Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 fel y'i diwygiwyd gan Orchymyn Llywodraeth Leol (Mynediad at Wybodaeth) (Amrywio) (Cymru) 2007 yn amodol ar gymhwyso Prawf Budd y Cyhoedd (lle bo'n briodol).

 

17.

Cais ar gyfer camera adnabod rhifau cerbydau yn awtomatig (ANPR) (Yn eithriedig dan Baragraff 18)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig

:

·       Cymeradwyo gosod camerâu ANPR ar oleuadau stryd mewn egwyddor, yn amodol ar gytuno ar Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth derbyniol gyda Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru

·       Rhoi awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i ymgynghori â'r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol, i gwblhau, cymeradwyo a dechrau Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth cysylltiedig neu gytundeb ysgrifenedig arall gyda Swyddfa Comisiynydd Heddlu a Throseddu De Cymru; a chytuno ar leoliadau ANPR lle maent wedi'u gosod ar isadeiledd priffyrdd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I benderfynu ar ymateb i gais gan Heddlu De Cymru.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

18.

Cynnig arfaethedig i godi cyfamodau cyfyngu a gwerthu ardal fach o dir yn hen westy The Four Winds, Princess Margaret Way, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, cytunir ar ryddhau'r ddau gyfamod a gwaredu tir ar yr amodau a thelerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd gwaredu'r tir a rhyddhau'r cyfamodau yn rhoi derbyniad cyfalaf i'r Cyngor

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

19.

Rhyddhad arfaethedig o gyfamod cyfyngu ar dir ger 5 Park Row, Cwmafan, Port Talbot (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig cam cyntaf, cymeradwyo amodau a thelerau rhyddhau'r cyfamod yn ôl y telerau a nodir yn yr adroddiad a ddosbarthwyd.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd rhyddhau'r cyfamodau'n rhoi derbyniad cyfalaf i'r Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.

 

 

 

20.

Unity Mine - Cais i awdurdodi rhyddhau bond (Yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Sgrinio Integredig

, rhoddir awdurdod dirprwyedig i Gyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Adfywio i wneud y canlynol:

·       Defnyddio'r bond sydd ar waith gyda Banc Barclays yn ffurfiol, mewn perthynas â Unity Mine, sydd ar gael i gyfrannu tuag at gost cwblhau'r gwaith o adfer y safle yn unol â'r manylion cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio

·       Atal Rheol 11 y Rheolau Gweithdrefnau Contractau a dechrau unrhyw gytundebau ariannol gyda Blue Rock sy'n angenrheidiol i hwyluso taliad ymhellach a godwyd oherwydd y gwaith i adfer y safle yn unol â'r manylion cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

I gyfrannu tuag at gost cwblhau'r gwaith o adfer y safle yn unol â'r manylion cymeradwy a gyflwynwyd o dan yr amodau cynllunio.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 26 Mawrth 2024.