Agenda a Chofnodion

Bwrdd Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio a Gwasanaethau Strydlun - Dydd Gwener, 9fed Chwefror, 2024 10.30 am

Lleoliad: Microsoft Teams Meeting / Hybrid meeting in Council Chamber

Cyswllt: Chloe Plowman 

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Penodi Cadeirydd

Cofnodion:

Cytunwyd i benodi'r Cynghorydd S Jones yn Gadeirydd ar gyfer y cyfarfod.

 

 

2.

Cyhoeddiad y Cadeirydd

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd bawb i'r cyfarfod.

 

Eglurwyd bod eitem 15 o'r agenda a gylchredwyd wedi'i gohirio oherwydd yr angen i gasglu rhagor o wybodaeth.

 

3.

Datganiadau o fuddiannau

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiannau.

 

4.

Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol pdf eicon PDF 223 KB

Cofnodion:

Bod cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 12 Ionawr 2024 yn cael eu cymeradwyo fel cofnod cywir.

 

5.

Blaenraglen Waith pdf eicon PDF 410 KB

Cofnodion:

Nodwyd y Flaenraglen Waith.

 

6.

Amser Cwestiynau Cyhoeddus

Mae'n rhaid cyflwyno cwestiynau'n ysgrifenedig i'r Gwasanaethau

Democrataidd, democratic.services@npt.gov.uk heb fod yn

hwyrach na chanol dydd ar y diwrnod gwaith cyn y cyfarfod. Mae'n

rhaid i'r cwestiynau ymwneud ag eitemau ar yr agenda. Ymdrinnir â chwestiynau o fewn cyfnod o 10 munud.

Cofnodion:

Ni ofynnwyd unrhyw gwestiynau. 

 

 

7.

Bargen Ddinesig Bae Abertawe - y diweddaraf am brosiectau a arweinir gan Gastell-nedd Port Talbot (Cefnogi Arloesedd a Thwf Carbon Isel a Chartrefi fel Gorsafoedd Pŵer) pdf eicon PDF 354 KB

Cofnodion:

Penderfynwyd:

 

Nodi’r adroddiad.

 

8.

Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy pdf eicon PDF 425 KB

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig, fod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn cael ei newid fel a ganlyn:

 

Cwmnïau i'w hychwanegu at y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

A&J Arborists Ltd (A077)

101

B&W Contracting Services Ltd (B045)

41,42,43,44

Brandon Hire Station (H030)

2

 

Cwmnïau i'w cynnwys ar y Rhestr ar gyfer categorïau ychwanegol:

 

Cwmni

Categori

Neath Construction Ltd (N011)

12,13

 

Gofynnodd cwmnïau am gael gwared ar gategorïau nad ydynt bellach yn berthnasol i gwmpas y gwaith:

 

Cwmni

Categori

Swansea Drains Ltd T/A Metro Rod (S085)

5,7

 

Cwmnïau i'w tynnu oddi ar y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy:

 

Cwmni

Categori

Groom Property Maintenance Ltd (G022)

15,16,17,19,20,22

Machinery Movement Wales Ltd (M049)

88,96,97

Flair Electrical Engineering Ltd (F003)

41,42,43,44,68

CCTV Access Control Ltd (C066)

3,47,48

EEL Holdings Ltd prev. Adams

Environmental Ltd (A032)

111

R C Cutting & Co. (C073)

66

Gerald Davies Ltd (D015)

71,72,75,77,84,106

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod y Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy yn gyfoes, a chyhyd ag y bo modd, sicrhau proses gaffael gystadleuol. Caiff yr argymhellion hyn eu mabwysiadu at ddiben darparu Rhestr o Gontractwyr Cymeradwy ar gyfer gwahoddiad i dendro yn y categori perthnasol.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

 

9.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Gorchymyn Eagle Street a Broad Street, Port Talbot (Dirymiad) (Aros Cyfyngedig) a (Deiliaid Hawlen Barcio i Breswylwyr) 2023 pdf eicon PDF 391 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Bod y gwrthwynebiadau i Orchymyn Eagle Street a Broad Street, Port Talbot (Dirymu) (Aros Cyfyngedig) a (Deiliaid Hawlen Barcio i Breswylwyr) 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn cael eu gwrthod a bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd.

·        Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y gorchmynion rheoleiddio traffig arfaethedig i gydbwyso'r materion parcio rhwng y cyhoedd a phreswylwyr, ac i atal parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

 

 

10.

Gorchymyn Rheoleiddio Traffig: Gorchymyn Golwg y Môr, Aberafan, Port Talbot (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar unrhyw adeg) 2023 pdf eicon PDF 316 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Bod y gwrthwynebiadau i Orchymyn Golwg y Môr, Aberafan, Port Talbot (Gwahardd Aros, Llwytho a Dadlwytho ar unrhyw adeg) 2023 (fel y nodwyd yn Atodiad A i'r adroddiad a gylchredwyd) yn cael eu gwrthod a bod y cynllun yn cael ei roi ar waith fel y'i hysbysebwyd.

·        Bod y gwrthwynebwyr yn cael eu hysbysu o'r penderfyniad yn unol â hynny.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Roedd angen y gorchymyn rheoleiddio traffig i fynd i'r afael â'r parcio diwahaniaeth er diogelwch ar y ffyrdd.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

 

 

 

11.

Rhaglen Caffael Cerbydlu Cerbydau a Pheiriannau Trymion 2024/25 pdf eicon PDF 713 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i'r Asesiad Effaith Integredig:

·        Bod y Rhaglen Caffael Cerbydau/Peiriannau arfaethedig ar gyfer 2024/25, y'i nodir yn atodiad A o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael ei chymeradwyo

·        Bod Awdurdod Dirprwyedig yn cael ei roi i'r Pennaeth Gwasanaeth mewn ymgynghoriad ag Aelod y Cabinet dros Gynllunio Strategol, Trafnidiaeth a Chysylltedd, i brynu unrhyw gerbydau er mwyn mwyafu argaeledd arian grant a all fod ar gael i gynorthwyo gyda chost prynu'r cerbydau.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Bydd y cerbydau a'r peiriannau trwm newydd naill ai’n rhai heb unrhyw allyriadau, yn rhai hybrid neu drydan neu o safon Ewropeaidd uwch, a fydd yn galluogi'r cerbydlu i fod yn fwy effeithlon o ran tanwydd drwy ddefnyddio llawer llai o danwydd a lleihau ôl troed carbon y Cyngor drwy leihau allyriadau.

 

Mae Gwasanaeth y Cerbydlu ar y cyd â Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru wedi cynnal adolygiad o Gerbydlu'r Cyngor i gael gwybod am y defnydd ohonynt o fewn is-adrannau a ble'r oedd cyfleoedd i gyflwyno cerbydau a pheiriannau trydan llawn a rhai eraill heb allyriadau i leihau ymhellach allyriadau carbon y Cyngor yn unol â Chynllun Trawsnewid Cerbydlu'r Cyngor.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

 

 

12.

Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus, Traeth a Phromenâd Aberafan pdf eicon PDF 281 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Ar ôl rhoi sylw dyladwy i gam cyntaf yr Asesiad Effaith Integredig, fod y Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus, a nodir yn Atodiadau H a I o'r adroddiad a gylchredwyd, yn cael eu rhoi ar waith cyn 1 Mai 2024.

 

Rheswm dros y Penderfyniad:

 

Sicrhau bod mesurau rheoli cŵn priodol yn parhau fel y bo'n briodol ar Draeth a Phromenâd Aberafan.

 

Rhoi'r Penderfyniad ar Waith:

 

Bydd y penderfyniad yn cael ei roi ar waith ar ôl y cyfnod galw i mewn o dridiau a ddaeth i ben am 9am ddydd Mawrth, 13 Chwefror 2024.

 

 

13.

Eitemau brys

Unrhyw eitemau brys (boed yn gyhoeddus neu wedi'u heithrio) yn ôl disgresiwn y Cadeirydd yn unol â Rheoliad 5(4)(b) Offeryn Statudol 2001 Rhif. 2290 (fel y’i diwygiwyd)

Cofnodion:

Ni dderbyniwyd unrhyw eitemau brys.

 

14.

Mynediad i Gyfarfodydd - Gwahardd y Cyhoedd pdf eicon PDF 243 KB

Yn unol ȃ Rheoliad 4 (3) a (5) Offeryn Statudol 2001 Rhif 2290, gellir gwahardd y cyhoedd ar gyfer yr eitem fusnes ganlynol a oedd yn debygol o gynnwys datgelu gwybodaeth eithriedig fel a ddiffinnir ym Mharagraff 14 Rhan 4 Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

Cofnodion:

Fel yr amlygwyd yn flaenorol yng Nghofnod Rhif 2, gohiriwyd yr adroddiad preifat a nodwyd yn eitem 15 yr agenda. Felly, nid oedd angen symud i sesiwn breifat.

 

15.

Bwriad i waredu tir datblygiad preswyl ym Mlaenbaglan (yn eithriedig dan Baragraff 14)

Cofnodion:

Penderfyniad:

 

Bod yr adroddiad  yn cael ei ohirio oherwydd yr angen i gasglu rhagor o wybodaeth.